Roger yn Achub Cystadleuaeth yr Ŵyl

0
526

Mae dyn busnes lleol wedi achub cystadleuaeth Nadoligaidd boblogaidd i ysgolion gyda rhodd o ddwsin o goed Nadolig.

Bygythiwyd y Gystadleuaeth Flynyddol Addurno Coeden Nadolig eleni, a gynhelir yng Ngardd Fotaneg Gwenedlaethol Cymru, gan y ffaith fod cyflenwad yr Ardd o goed Nadolig wedi diflannu.

Ond mae Roger Hunt, sydd berchen ar y cwmni ‘Cymru Christmas Trees’ a phlanhigfa enfawr o 10,000 o goed yn ymyl yr Ardd, wedi rhoi anrheg Nadolig arbennig o 12 coeden chwe troedfedd inni er mwyn sicrhau fod y gystadleuaeth yn mynd yn ei blaen fel arfer ac fel a drefnwyd – ar Ddydd Iau, Rhagfyr 4.

Meddai Swyddog Datblygu Addysg yr Ardd, Nancy Hardy: “Ry’n ni’n ddiolchgar iawn i Roger. Mae hon yn weithred arbennig o garedig, ac wedi dod mewn union bryd i achub y diwrnod nodedig hwn, pan fydd cannoedd o blant ysgol lleol yn cymryd rhan.”

Meddai Mr Hunt: “Fel cyflenwr mawr o goed Nadolig, rwy’n falch dros ben o allu helpu’r Ardd Fotaneg Genedlaethol gyda’r gystadleuaeth hon.”

“Ry’n ni’n aelod o Gwmni Cydweithredol Cymreig Tyfwyr Coed Nadolig, ac yn aelod hefyd o’r Gymdeithas Brydeinig o Dyfwyr Coed Nadolig. Ry’n ni hefyd yn ymfalchïo mewn bod yn ymwybodol iawn o’r amgylchedd, ac yn gynhyrchwr coed o ansawdd.”

Mae 21 o ysgolion yn bwriadu cymryd rhan yn y gystadleuaeth Addurno Coeden Nadolig eleni, o Gaerdydd a Chaerffili, i Gaerfyrddin, Cydweli, Port Talbot, Penfro ac Abertawe.

Thema’r gystadleuaeth eleni yw ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’ i goffáu 100 mlynedd ers genedigaeth Dylan Thomas.

Bydd ysgolion yn cael eu hamseru wrth iddyn nhw addurno eu coed Nadolig, gan ddefnyddio deunydd a ddefnyddiwyd yn barod neu a ailgylchwyd, er mwyn creu addurniadau lliwgar a llawn dychymyg yn seiliedig ar y thema eleni.

Noddir y gystadleuaeth gan Base Wales, Cled Moses, Gwasanaethau Nwy Cymru, Dŵr Cymru, Cwm Environmental a Chyngor Sir Caerfyrddin.

Mae’r Ardd hefyd yn ddiolchgar i Fferm Coed Nadolig Salem, ger Llandeilo, am rodd o ddwy goeden.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle