Ffair Grefftau yn Arddangosfa Gwerth ei Gweld

0
489

Mae’n edrych yn debyg fod y Nadolig yn nesáu yn y Tŷ Gwydr Mawr yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Bydd coed Nadolig a addurnwyd yn arbennig gan blant ysgol yn cael eu harddangos – ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul, Rhagfyr 13-14 – a bydd crefftwyr lleol yn ymuno â nhw am Ffair Grefftau’r Nadolig.

Efallai mai hwn yw’r lle delfrydol i brynu’r anrheg arbennig honno ar gyfer y ffrind neu aelod o’r teulu sydd yn anodd dod o hyd i rodd iddo/iddi.

Mae’r digwyddiad penwythnosol hwn yn addo amrywiaeth eang o nwyddau tymhorol – o bethau bach i lanw’r hosan i’r Anrheg Fawr – wedi’u gwneud gan bobl leol, ac, i bob pwrpas, yn arddangosfa o roddion ysblennydd: bydd ‘na dorchau a chynnyrch gwlân Cymreig, gemwaith a phethau cain, llwyau caru a gwaith lampau, crefftau gwneud bocsys adar a chychod gwenyn, blodau porslen a gemwaith personol, ynghyd â botymau eirth ac eirth meddal, a llawer mwy.

Meddai trefnydd y Ffair, Linsey Perry: “Mae’r digwyddiad hwn yn arddangosfa wych o dalent lleol o ran crefftau a sgiliau, ac mae’r ystod o anrhegion sydd ar gael yn syfrdanol o drawiadol bob tro.”

Bydd ‘na gerddoriaeth Nadoligaidd hefyd yn y Tŷ Gwydr Mawr, wedi’i darparu gan gorau a grwpiau gydol y penwythnos.

Mae Ffair Grefftau’r Nadolig ymlaen o 10yb tan 4yh ar y ddau ddiwrnod.

A pheidiwch ag anghofio: Sioe Siôn Corn Syfrdanol yr Ardd, sydd yn cael ei chynnal yn ystod y penwythnos hwn, yn ddyddiol am 11.30yb, 12.15yp, 1.45yp, a 2.30yp.

Am fwy o wybodaeth am newyddion a digwyddiadau yn yr Ardd, ewch i www.gardenofwales.org.uk, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu galwch 01558 667149.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle