Caeau Mynydd Mawr Project

0
415

By Amanda Evans

This ground-breaking project has been developed to offset the impacts of development in the Cross Hands area, including residential and industrial, on the European protected marsh fritillary butterfly. Funded by contributions from developers, the project will facilitate the delivery of Carmarthenshire County Council’s adopted Local Development Plan, and will secure sufficient habitat to support the butterfly in this area.

Contributions from planning applications are used to purchase or manage land within the area for the butterfly. The project involves the local community through work with local contractors and volunteers, and provides an opportunity to raise awareness of conservation in the area with young people.

The project has been running since September 2013. Our key achievements include:

• The management of 10 sites totalling 33 Ha, funded by contributions from developers

• Installation of 1375 m of fencing by a local contractor to reintroduce grazing to fields which had been neglected for many years.

• 1000 m2 of marshy grassland, which would otherwise have been lost to a housing development, were translocated to a local Country Park with co-operation from the developer.

• Work with the local community in the form of open days, a talk to local school children and survey and habitat work with volunteers.

• In collaboration with Aberystwyth University, the project has contributed to two studies that will increase our knowledge of the Devil’s bit scabious plant- the only larval food plant of the butterfly.

• Surveys on managed sites have shown good numbers of butterflies in 2014, with butterflies recorded on sites where they had not been recorded at all in recent years. This is encouraging, and the project hopes to build on this and further increase the area and quality of habitat in order to safeguard the Marsh fritillary butterfly for future generations

Prosiect Caeau’r Mynydd Mawr

Mae’r prosiect arloesol hwn wedi ei ddatblygu er mwyn lleihau effeithiau datblygiadau, gan gynnwys datblygiadau preswyl a diwydiannol, yn ardal Cross Hands ar Frithegion y gors – sef rhywogaeth a warchodir gan ddeddfwriaeth Ewrop. Bydd y prosiect, sy’n cael ei gyllido drwy gyfraniadau gan y datblygwyr, yn hwyluso gweithredu Cynllun Datblygu mabwysiedig Cyngor Sir Caerfyrddin, ac yn sicrhau bod digon o gynefin ar gael i gynnal y glöynnod byw hyn yn yr ardal hon.

Defnyddir cyfraniadau a ddaw i law yn sgil cyflwyno ceisiadau cynllunio i brynu neu i reoli tir yn yr ardal ar gyfer y glöynnod byw hyn. Mae’r prosiect yn cwmpasu’r gymuned leol drwy gydweithio â chontractwyr lleol a gwirfoddolwyr a thrwy fod cyfle i gynyddu ymwybyddiaeth pobl ifanc o faterion cadwraeth yn yr ardal.

Mae’r prosiect wedi bod ar waith ers mis Mawrth 2013. Ymhlith yr hyn a gyflawnwyd gennym hyd yn hyn y mae’r canlynol:-

• Llwyddwyd i reoli 10 safle sy’n ymestyn dros gyfanswm o 33 o hectarau, gan gyllido hynny drwy gyfraniadau gan ddatblygwyr.

• Gosodwyd 1375 o fetrau o ffensys, a hynny gan gontractwr lleol, er mwyn sicrhau bod pori’n gallu digwydd mewn caeau oedd wedi eu hesgeuluso ers sawl blwyddyn

• Trawsleolwyd 1000m2 o laswelltir corsiog, a fyddai fel arall wedi ei golli yn sgil codi datblygiad tai, i Barc Gwledig lleol gyda chydweithrediad y datblygwr.

• Gwnaed gwaith yn y gymuned leol drwy gynnal diwrnodau agored, drwy siarad â phlant ysgol lleol a thrwy gynnal arolygon a gwella cynefinoedd gyda chymorth gwirfoddolwyr.

• Drwy gydweithio â Phrifysgol Aberystwyth, mae’r prosiect wedi cyfrannu at ddwy astudiaeth a fydd yn cynyddu ein gwybodaeth am damaid y cythraul – sef yr unig blanhigyn y mae larfâu’r rhywogaeth yn ei fwyta.

• Mae’r arolygon sydd wedi eu cynnal ar y safleoedd a reolir yn dangos bod niferoedd da o’r glöynnod byw hyn ar y safleoedd hynny yn 2014, a bod y rhain wedi eu cofnodi hefyd ar safleoedd lle nad oeddynt wedi eu cofnodi o gwbl yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn oll yn galonogol, a gobaith y prosiect yw datblygu hyn ymhellach gan gynyddu maint yr ardal ynghyd â gwella ansawdd y cynefinoedd er mwyn diogelu brithegion y gors i’r cenedlaethau sydd i ddod.

Source: Carmarthenshire Biodiversity Newsletter September to December 2014


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle