Tree Cover in Carmarthenshire’s Towns – NRW report

0
407

Trees are an essential component of our urban environments, delivering a range of services to help sustain life, promote well-being, and support economic benefits. They make our towns and cities more attractive to live in – encouraging inward investment, improving the energy efficiency of buildings – as well as removing airborne pollutants and connecting people with nature. They can also mitigate the extremes of climate change, helping to reduce storm water run-off and cool towns down.

Natural Resources Wales have undertaken a country-wide urban canopy cover survey. The Tree Cover in Wales’ Towns and Cities (TCWTC) study was designed to provide decision-makers around the country with the baseline information they need to strategically plan and manage Wales’ urban tree resource. The TCWTC study focuses on tree canopy cover (rather than counting individual numbers of trees). This was mapped through a desk-based analysis of 2006 and 2009 aerial photographs for 220 urban areas, including Carmarthenshire.

Wales’ mean urban tree cover was estimated at 16.8% for 2009. Compared with the tree canopy observed in other towns and cities around the world, this is a mid-range figure. Urban woodlands represent 44% of Wales’ urban canopy cover. The rest is made up of so-called ‘amenity’ non-woodland trees, those individual and groups of trees growing along streets, gardens, car parks and other urban public and private open spaces.

Significantly Just 1% of all tree cover is found in areas of high-density housing, and it’s these areas that often experience the highest levels of deprivation. Private residential gardens make up 34% of Wales’ urban areas and provide 21% of all our towns’ tree cover.

When comparing the canopy capture findings from 2006 and 2009, 11,000 large trees appear to have been lost and 55 towns showed evidence of canopy loss.

Carmarthenshire’s canopy cover was 15.1% of its total urban area (4944 Ha), which is below the national average of 16.8%. Trimsaran, with 34.3%, is Wales’ highest canopied community (which includes two heavily wooded areas). Other higher scoring canopy towns in Carmarthenshire were Glanamman (28.1%) and Newcastle Emlyn (19%).

Significantly are larger towns – Carmarthen and Llanelli had only about 13% canopy cover but generally the report concluded that canopy cover loss doesn’t appear to be an issue in the county. The only exception is St Clears where the canopy cover is on only 9%? However, large, and to a degree, medium tree loss in the county appears widespread with a focus particularly on Carmarthen with loss of 1300 large trees!

Gorchudd Coed yn Nhrefi Sir Gaerfyrddin – Adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae coed yn elfen hanfodol o’n hamgylchedd trefol, ac maent yn helpu i gynnal bywyd, gan gyfoethogi ein bywydau a rhoi bod i fanteision economaidd. Yn ogystal â thynnu llygryddion o’r awyr a bod yn fodd i bobl fod yn ymwybodol o natur, mae presenoldeb coed yn golygu bod ein trefi a’n dinasoedd yn fwy atyniadol – gan gymell mewnfuddsoddi, a gwella effeithlonrwydd ynni adeiladau. Hefyd mae coed yn gallu lliniaru effeithiau eithafol newid yn yr hinsawdd, gan helpu i leihau dŵr ffo yn sgil stormydd ac i oeri trefi.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnal arolwg o’r gorchudd coed trefol ledled Cymru. Diben yr astudiaeth o’r Gorchudd Coed yn Nhrefi a Dinasoedd Cymru oedd sicrhau bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ledled y wlad yn meddu ar y wybodaeth sylfaenol sydd ei hangen arnynt i gynllunio a rheoli adnoddau coed trefol Cymru mewn modd strategol. Mae’r astudiaeth yn hoelio sylw ar orchudd coed (yn hytrach na chyfrif nifer y coed unigol). Gwnaed y gwaith mapio drwy gynnal dadansoddiad desg o luniau o’r awyr a dynnwyd o 220 o ardaloedd trefol, gan gynnwys Sir Gaerfyrddin, yn ystod 2006 a 2009.

Ar sail hynny amcangyfrifwyd bod gorchudd coed Cymru yn 16.8% yn 2009. Ffigur canolig yw hwn o’i gymharu â gorchudd coed trefi a dinasoedd eraill ledled y byd. Coetiroedd trefol yw 44% o orchudd coed trefol Cymru. Mae’r gweddill ar ffurf yr hyn a elwir yn goed ‘amwynder’ heb fod mewn coetiroedd, sef y coed unigol a’r clystyrau o goed sy’n tyfu ar hyd strydoedd, mewn gerddi, mewn meysydd parcio ac mewn mannau agored cyhoeddus a phreifat eraill mewn ardaloedd trefol.

Yn arwyddocaol ddigon dim ond 1% o’r holl orchudd coed sydd mewn ardaloedd lle mae adeiladau’n glos iawn, ac yn fynych yr ardaloedd hynny yw’r rhai mwyaf difreintiedig. Gerddi preswyl preifat yw 34% o ardaloedd trefol Cymru ac mae 21% o’n holl orchudd coed trefol ynddynt.

Wrth gymharu canlyniadau 2009 â rhai 2006 mae’n ymddangos bod 11,000 o goed mawrion wedi eu colli, a bod tystiolaeth bod llai o orchudd coed mewn 55 o drefi.

Roedd gorchudd coed Sir Gaerfyrddin yn 15.1% o gyfanswm yr ardal drefol (4944 o hectarau) sy’n llai na’r cyfartaledd cenedlaethol sef 16.8%. Trimsaran, sydd â 34.3%, (gan gynnwys dwy ardal goediog iawn), yw’r gymuned â’r gorchudd mwyaf yng Nghymru. Trefi eraill yn Sir Gaerfyrddin sydd â gorchudd helaeth yw Glanaman (28.1%) a Chastellnewydd Emlyn (19%).

Mae’r sefyllfa yn y trefi mawr yn arwyddocaol – dim ond rhyw 13% yw’r gorchudd yng Nghaerfyrddin ac yn Llanelli, ond casgliad cyffredinol yr adroddiad yw nad yw’n ymddangos bod colli gorchudd coed yn destun pryder yn y sir. Yr unig eithriad yw Sanclêr lle mae’r gorchudd yn 9% yn unig. Fodd bynnag, ymddengys bod colli coed mawrion, ac, i raddau, goed canolig eu maint, yn rhywbeth sy’n digwydd yn gyffredinol, a bod Caerfyrddin yn benodol wedi colli 1300 o goed mawrion!

Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad.

Source: Carmarthenshire Biodiversity Newsletter September to December 2014


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle