Mae crochenwaith Cymreig, paentiadau a brethynnau yn cael y prif sylw ym Mhenwythnos Ffair Henebion Mis Ionawr yr Ardd Fotaneg Genedlaethol (Ion 10-11).
Mae’r Ardd yn darparu lleoliad syfrdanol ac eiconig ar gyfer y digwyddiad poblogaidd hwn, sy’n cynnwys mwy na 50 o stondinau – ac mae mynediad i’r Ardd a’r Ffair Henebion yn £2 yn y unig, mae parcio digonol yn rhad ac am ddim.
Bydd amrywiaethanferth o stondinau yn amgylchedd rhyfeddol Tŷ Gwydr Mawr syfrdanol yr Arglwydd Foster; yn ysblander Rhaglywiaethol Tŷ Principality; yn y Babell Fawr; a bydd peth o borslen prin Abertawe yn cael ei arddangos.
Meddai’r Trefnydd, Brita Rogers o Ffeiriau’r Dderwen: “Bydd y Ffair yn cynnwys mwy na 50 o stondinau yn arddangos casgliadau Cymreig o grochenwaith, gemwaith, celf a chelfi. Bydd hefyd paentiadau a brethynnau – gydag amrywiaeth o flancedi Cymreig yn eu plith.”
Mae’r Ffair Henebion ar agor o 10yb hyd at 4.30yp.
Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiau a newyddion am yr Ardd, e-bostiwch info@gardenofwales.org,uk, neu galwch 01558 667149.
Er mwyn cysylltu â Ffeiriau’r Dderwen, galwch 01267 220260, neu ewch i http://www.derwenantiques.co.uk/
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle