Eirlysiau: Canllaw i Garedigion Planhigion

0
551

Mae hoff flodyn gwanwyn pawb yn ganolbwynt hyfryd ar ddiwrnod arbennig yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol ar Ddydd Sadwrn, Ionawr 31 – ac mae mynediad AM DDIM

Mae Blodyn yr Eira yn gennad hoffus i’r Gwanwyn, ac yma yn yr Ardd mae milltir o eirlysiau i’w harchwilio, ond mae Diwrnod Eirlysiau yn llawer mwy na mynd am dro yn y parc.

Bydd sgyrsiau, llwybrau cerdded, llofnodi llyfr, gweithgareddau teuluol, ac arddangosiad o sut i dyfu a gofalu am eirlysiau, ynghyd â chyngor ar sut i’w hymgorfforu i gynllun eich gardd.

Bydd yr awdur arobryn garddwriaethol a’r cynllunydd gardd enwog, Naomi Slade, wrth law i’ch cynghori ar bopeth fyddech chi eisiau gwybod am eirlysiau.

Mae Naomi yn westai radio rheolaidd, ac yn cyfrannu’n aml i nifer a bapurau newydd a chylchgronau cenedlaethol, gan gynnwys, The Guardian, The Telegraph, Kitchen Garden Magazine, House and Garden, a chylchgrawn swyddogol y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol, The Garden.

Mae ei chyfrol – The Plant Lover’s Guide to Snowdrops – newydd gael ei chyhoeddi gan Timber Press, a bydd hi ar gael o Siop Roddion yr Ardd.

Pan na fydd hi’n rhoi sgwrs, arwain teithiau cerdded ac arddangos, bydd Naomi yn llofnodi copïau o’i chyfrol newydd.

Fel rhan o hyrwyddiad mynediad AM DDIM i’r Ardd yn ystod mis Ionawr, ni fydd tâl mynediad i’r digwyddiad hwn.

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn ac eraill yn yr Ardd, galwch 01558 667149 neu ewch i www.gardenofwales.org.uk, neu e-bostiwch info@gardenofwales.org,uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle