Cerdded gyda’r Ysbrydion yn yr Ardd

0
501

Mae rhywbeth dychrynllyd ymhlith gwrachod y lludw a dewiniaid y fforest yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ystod mis Chwefror.

Mae’r swynwr a’r storïwr, Nick Brunger, sydd yn rhedeg Taith Gerdded Arswydus Caerfyrddin, yn arwain Taith yr Ysbrydion o amgylch yr Ardd, sy’n rhan o noson Parti’r Sêr ar Chwefror 27.

“Gadewch imi’ch arwain chi drwy ochr dywyll yr atyniad eiconig hwn i ymwelwyr”, meddai Nick. “Er bod yr Ardd bresennol yn cynnig profiad cyfoes iawn i ymwelwyr, yn y gorffennol ystâd Neuadd Middleton oedd y safle, ac mae ei sylfeini dal i’w gweld, a’i phresenoldeb yn y tirwedd wedi arwain at rai o’r ymweliadau annaearol mwyaf brawychus.”

“Ar hyd y ffordd, fe glywn ni am Chwedl y Baban Du, ac yn talu ymweliad yng ngolau cannwyll i Neuadd yr Apothecari, a threulio peth amser yn Nhŷ Principality, hen lety’r gweision, y lleoliad mwyaf tebygol ichi ganfod bwgan ynddi yn yr Ardd gyfan.”

“Caiff ymwelwyr hefyd gyfle i gymryd rhan mewn rhai arbrofion hudol unigryw, a all efallai ein helpu ni i ddod mewn cysylltiad ag ysbrydion y gorffennol.”

Ymhlith y straeon a adroddir fydd hanesion am brofiadau goruwchnaturiol rhai o’r staff ac ymwelwyr, sut mae llinellau gwyndwn hynafol yn croesi’r Ardd, a beth ddigwyddodd pan ddaeth yr heliwr ysbrydion o fyd y teledu, Derek Acorah, i ymweld â’r Ardd.

Mae’r daith gerdded yn digwydd am 6yh a 7.30yh, ac yn costio £10 y pen. Mae llefydd yn gyfyngedig, a dylid archebu lle ymlaen llaw ar 01558 667149.

Am fwy o wybodaeth am hwn a digwydddiadau eraill yn yr Ardd, ewch i www.gardenofwales.org.uk, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu galwch 01558 667149.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle