Digwyddiad Cymunedol I Greu Gardd Hardd!

0
431

Mae teuluoedd yn Sir Gaerfyrddin yn cael cyfle i wneud rhywbeth da ar gyfer eu cymuned fel rhan o gynllun Creu Gardd Hardd y Cyngor.

Mae’r Tîm Ymgysylltu Cymunedol sy’n rhan o Wasanaethau Tai Cyngor Sir Caerfyrddin wedi trefnu cyfres o sesiynau codi sbwriel ac maent yn annog pobl leol i gymryd rhan ynddynt.

Cynhelir pob un o’r sesiynau codi sbwriel rhwng 10am a 12pm a bydd gwirfoddolwyr yn ennill Credydau Amser am eu hymdrechion.

Dydd Mawrth, 17 Chwefror – Canolfan Deulu y Garnant, Maes y Bedol, y Garnant.

Dydd Mercher, 18 Chwefror – Canolfan Deulu Llwynhendy, Canolfan Deulu Tŷ Enfys, 2 Ynyslas, Llwynhendy

Dydd Iau, 19 Chwefror – Canolfan Deulu Felin-foel, Ysgol Maes y Felin, Felin-foel

Dydd Gwener, 20 Chwefror – Canolfan Deulu Trimsaran, Neuadd Les y Glowyr, Trimsaran

Dydd Llun, 23 Chwefror – Maes Parcio Neuadd y Tymbl

Mae Creu Gardd Hardd yn rhan o raglen fuddsoddi Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ac yn annog tenantiaid i ymfalchïo yn eu gerddi a llecynnau awyr agored ac ar yr un pryd, yn rhoi cyfle iddynt ennill sgiliau newydd. Caiff y cynllun ei gefnogi gan Drefi Taclus a Chadwch Gymru’n Daclus.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01554 784608 neu ebostiwch PaEvans@sirgar.gov.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle