A chaniatáu ffurfafen glir, bydd cyfle rhagorol ichi weld y llu o gyrff nefol, fel y Lleuad, Nifwl Orïon, y blaned Iau a’i lloerau, yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Ar Ddydd Gwener, Chwefror 27, bydd Cymdeithas Seryddol Abertawe yn cynnal y digwyddiad ‘Syllu ar y Sêr’ diweddaraf yn yr Ardd Fotaneg, o 6yh tan 9yh – ac, hyd yn oed os cawn ni noson gymylog, bydd digon i’w weld a’i wneud yno.
Mae’r holl weithgaredd yn digwydd o fewn ac o amgylch y Tŷ Gwydr Mawr, a bydd Camerâu Caerfyrddin wrth law gydag arddangosfa o delesgopau, binociwlars, camerâu, ac offer seryddol a ffotograffyddol eraill. Dewch â’ch telesgopau eich hunain hefyd, yn enwedig os y’ch chi eisiau help a chyngor.
O fewn Tŷ Gwydr Mawr enwog yr Arglwydd Norman Foster, bydd dwy sgwrs yn ein diweddaru ni ar yr hyn sy’n digwydd gyda Chomed Rosetta a Chomed Lovejoy, sydd wedi dod yn weledig yn ddiweddar yn y ffurfafen, a sgwrs arall ar yr Eclips Haul sydd i ddod ym mis Mawrth – bydd e’n Eclips Cyfan, mwy neu lai, yn Abertawe.
Bydd y sgyrsiau hyn yn dweud wrthoch chi’r cyfan fyddwch chi eisiau gwybod am eclipsau, ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf am leoliad y llong lanio ‘Philae’, a sut siâp sy arni.
Ceir mynediad i’r digwyddiad drwy’r mynediad corfforaethol yn y cefn, a’r tâl mynediad yw £3, gyda rhai dan 16 yn cael mynediad yn rhad ac am ddim. Bydd lluniaeth ar gael. Bydd y sgyrsiau yn dechrau am 6.30yh, a’i hail-adrodd yn ddiweddarach.
Am fwy o wybodaeth am newyddion a digwyddiadau yn yr Ardd, ewch i www.gardenofwales.org.uk, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu galwch 01558 667149.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle