Keith Davies AC Llanelli yn cefnogi Apêl Fawr y Cennin Pedr 2015 Marie Curie

0
608

Mae Keith Davies, Aelod Cynulliad Llanelli, wedi cefnogi Apêl Fawr y Cennin Pedr gan Marie Curie yr wythnos hon, ar ôl lansio’r apêl codi arian yn swyddogol yng Nghymru.

Ymunodd Keith Davies AC â rhai o Nyrsys Marie Curie, pobl sy’n codi arian, gwirfoddolwyr a chefnogwyr, yn ogystal â Phrif Weithredwr yr elusen, Dr Jane Collins, i lansio’r apêl yn swyddogol eleni yn y Senedd, Bae Caerdydd, ar ddydd Mercher 11 Chwefror.

Mae Apêl Fawr y Cennin Pedr, digwyddiad codi arian mawr Marie Curie, yn annog pobl i gyfrannu a gwisgo cennin Pedr eiconig yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth. Bydd yr arian a godir drwy gyfrwng yr apêl hon yn helpu i roi gofal a chefnogaeth arbenigol i oddeutu 2,278 o bobl sy’n byw gyda salwch angheuol, a’u teuluoedd, ledled Cymru.

Y llynedd, cododd Apêl Fawr y Cennin Pedr fwy nag erioed, sef £8.26m, drwy gyfrwng cynlluniau codi arian rhanbarthol, er mwyn cefnogi’r gwaith pwysig hwn yng Nghymru. Mae pawb sy’n gysylltiedig â’r elusen yn gobeithio y bydd yr apêl eleni yn hyn yn oed yn well.

Dywedodd Keith Davies AC: “Mae gwaith Marie Curie yn cefnogi pobl mae salwch angheuol yn effeithio arnyn nhw yn Llanelli a ledled Cymru’n werth chweil, ac rwy’n falch iawn o wisgo fy nghennin Pedr a chefnogi Apêl Fawr y Cennin Pedr gan yr elusen yn 2015. Rwy’n gobeithio y bydd pobl o bob cwr o Gymru’n cyfrannu ac yn gwisgo cennin Pedr, gan helpu Marie Curie i ddal ati i wneud gwahaniaeth go iawn i bobl sy’n byw gyda salwch angheuol yng Nghymru.”

Dywedodd Simon Jones, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus Marie Curie yng Nghymru: “Rydyn ni’n falch o gael cefnogaeth Keith Davies AC wrth i ni lansio Apêl Fawr y Cennin Pedr eleni – apêl sy’n codi arian hanfodol i gefnogi ein gwaith mewn cartrefi ledled Cymru, yn ogystal ag yn Hosbis Caerdydd a’r Fro ym Mhenarth.

“Mae pobl Cymru’n fy synnu bob blwyddyn gyda’u haelioni a’u cefnogaeth tuag at Apêl Fawr y Cennin Pedr, ac rwy’n siŵr na fydd eleni’n wahanol, wrth i bobl gydnabod pa mor bwysig yw ein gwaith. Ar ran Marie Curie, hoffwn ddiolch i bawb sy’n dal ati i gyfrannu ac yn ein galluogi ni i barhau i gefnogi pobl y mae salwch angheuol yn effeithio arnyn nhw, ar hyd a lled Cymru.”

Y llynedd, helpodd dros 1,000 o wirfoddolwyr Apêl Fawr y Cennin Pedr yng Nghymru drwy gasglu rhoddion gan aelodau’r cyhoedd. Gyda’i gilydd, codwyd mwy na £308,000.

I gael gwybodaeth am sut gallwch chi gymryd rhan yn Apêl Fawr y Cennin Pedr, ewch i www.mariecurie.org.uk/daffodil neu ffoniwch 0845 601 3107.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle