Dydd Gŵyl Dewi yn yr Ardd

0
505

Mae cawl, cwryglau a chorau ar y fwydlen yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Mae mynediad AM DDIM i bawb ar Fawrth 1 er anrhydedd i’n nawddsant, ac mae digon i’w weld a’i wneud yma – gallwch hyd yn oed roi tro ar ganu offeryn cenedlaethol Cymru, y delyn.

Bydd y ffermwr lleol, Meirion Owen, a’i Bac Cwac byd enwog, yn mynd drwy’u pethau ar lawnt Sgwâr y Mileniwm drwy gydol y diwrnod, gyda sioeau am 12 canol dydd, 1,2 a 3yp, tra bydd arddangosiadau o rwyfo cwryglau ar lynnoedd yr Ardd.

Yng nghefndir syfrdanol Tŷ Gwydr Mawr yr Arglwydd Norman Foster, mae ystod yr un mor syfrdanol o ddawn cerddorol a difyrrwch drwy’r diwrnod i’w brofi, ynghyd â Ffair Fwyd a Chrefftau â blas cryf Gymreig arnynt – a gwnewch yn siwr eich bod yn blasu powlen o gawl traddodiadol Cymreig fydd ar werth yng Nghaffi’r Canoldir yn y Tŷ Gwydr Mawr.

Côr Persain fydd y côr cyntaf i ganu am 11.30yb, a’i ddilyn gan Gôr Cymunedol ‘The Voices’ am 12.30yp, ‘Goodness Gracious Glee’ am 2yp, a’r delynores Shelley Fairplay am 3yp. Yn gynharach yn ystod y diwrnod, bydd Shelley yn arwain gweithdy ar ‘roi cynnig ar ganu’r delyn’ yn yr Oriel o 12 canol dydd ymlaen.

Bydd y ddeuawd ffidil ac acordion boblogaidd lleol, Fiddlebox, yn darparu eu cyfeiliant cerddorol symudol i ddigwyddiadau’r diwrnod, a bydd gweithgareddau teuluol o 12 canol dydd hefyd

* Mae’r Ardd Fotaneg Genedlaethol ar agor rhwng 10yb a 4.30yp. Am fwy o wybodaeth ewch i www.gardenofwales.org.uk, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu galwch 01558 667149.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle