Rhaglen o gyfres Sinema’r Byd yn ennill gwobr John Hefin yn Ngŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin

0
839
Rhaglen o gyfres Sinema'r Byd yn ennill gwobr John Hefin yn Ngŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin

Mae rhaglen o gyfres S4C Sinema’r Byd wedi ennill gwobr arbennig yng Ngŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin. Cafodd Dad, yr rhaglen gyntaf yn y gyfres, wobr John Hefin am greu ragoriaeth greadigol a gwthio ffiniau ffilmiau naratif.

Roedd John Hefin yn bennaeth drama BBC Cymru, yn gyfarwyddwr artistig gyntaf Ffilm Cymru ac fe’i anrhydeddwyd yn 2009 ar MBE am ei wasanaeth i ffilm a drama Cymraeg. Mae John hefyd yn cael ei gofio fel un o sefydlwyr Pobol y Cwm yn 1974.

Pwrpas gwobr John Hefin yw i annog mwy o ffilmiau byr Cymraeg a chynnig llwyfan i arddangos y gwaith i gynulleidfa rhyngwladol.

Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant S4C;

“Rydym ni’n hynod o falch o gael gwobr John Hefin sy’n cydnabod cyfraniad un o raglenni o gyfres Sinema’r Byd. Mae’r gyfres yn delio ag amryw o faterion sy’n herio plant ar draws y byd a’r rhaglen Dad yn benodol wedi’i lleoli yng Nghymru. Braint o’r uchaf yw cael ennill gwobr John Hefin sy’n un o arwyr y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru a chael gwybod bydd y ffilm yn cael ei harddangos yn rhyngwladol.”

Cyfres o ffilmiau byr o Gymru a phob cwr o’r byd yw Sinema’r Byd, gyda straeon penodol am blant sy’n wynebu her. Yn yr rhaglen, mae Cai sydd yn ddeg oed, yn delio gydag effaith rhyfel ar ei deulu. Pan ar ei wyliau ym Mhenrhyn Gŵyr, mae Cai yn dod yn ffrindiau gydag Amir, ffoadur sy’n delio â’i broblemau ei hun.

Gallwch wylio’r rhaglen ar-leina r wefan S4C: http://www.s4c.cymru/clic/c_level2.shtml?programme_id=522790760

Cyflwynwyd y wobr mewn seremoni wobrwyo yng Ngwesty Parc y Strade yn Llanelli nos Sul, 17 Mai.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle