Walk on the wild side!

0
886

Forage Festival Weekend – May 30-31 (10am-6pm)

at the National Botanic Garden of Wales

There is little more rewarding than exploring the countryside and finding food growing wild that you can take home and use in your cooking.

 

The natural world has so much to offer in the way of culinary delights and the National Botanic Garden on Wales’s fun weekend will allow you to explore your wild side. Taking place across the weekend of 30-31 May, visitors can discover where free medicine grows, what’s healthy in the hedgerow; join a foray in a meadow and wild-pick ingredients to make a pesto and a pizza topping.

 

This really is wild food at your fingertips and we have gathered together some of the finest foragers here in the Garden to guide you on your way and help you learn to forage responsibly. Explore, enjoy, taste and discover the fabulous free food – much of which can be found in your own backyard.

 

One star of our show is author Adele Nozedar, whose new book ‘The Garden Forager – Edible delights in your own backyard’ – will be officially launched at the Festival. Adele will be explaining that you don’t need to go far to find fabulous free food. She will also be signing copies of her book and tempting us all to try a delicious lilac cocktail.

 

Medical herbalist Lara Bean is promising to provide us with pizza toppings like you’ve never had them before. While husband Tom is cooking pizzas in a classic wood-fired oven, Lara will be out in the field foraging a unique topping. She will also be collecting your Remembered Remedies – traditional and/or family treatments that have been handed down from generation to generation in your family.

 

There’s more for our mouth-watering menu from professional forager Jade Mellor who runs the business ‘Wild Pickings’ and is a familiar face with her foraged foods at farmers’ markets and food festivals, and who also runs various wild food walks and courses in her native West Wales. She will be leading a group combing the hedgerows for leaves for a wild-picked pesto – and is promising a mass community pesto making class at the end of it.

 

No stranger to the Garden or its visitors is Nicola Dee Kelly, our very own Herbology and Potion Mistress (with apologies to Hogwarts University of Witchcraft And Wizardryfor stealing the title). Nicola will be urging us all to be nice to a nettle and the cooking up her very own nettle omelette. She will also be taking us on a tour of the hedgerows, to seek out the raw material for her health and vitality lotions and potions.

 

Lizzie Harper, who provided the wonderful illustrations for Adele’s new book – and her previous work, the Hedgerow Handbook – will be on hand to coax botanical works of art out of would-be artists.

 

 

Full programme

 

 

10am-6pm Face-to-face with the Foragers: all day in the Great Glasshouse
11am-3pm The Art of Lizzie Harper, in the Great Glasshouse (and beyond!) 
11.30am-12.30pmand2.15pm-3.15pm   Nicola Dee KellyHedgerow ‘health and vitality’ forage – meet at the Western Entrance of the Great Glasshouse, and back there for lotions/potions sessions

 

12noon-1.30pmand 2pm-3.30pm

 

 Jade MellorWild-picked pesto and other tasty treats – meet at the Western Entrance of the Great Glasshouse

 

12.30pm-1.30pm   Lara BernaysMedicinal plant forage – join medical herbalist Lara in the hunt for a wild medicine chest meet at the Northern Entrance of the Great Glasshouse

 

2.30pm-3.45pm   Lara BernaysForaging a wild pizza topping – meet at the Northern Entrance of the Great Glasshouse

And then back to Tom’s pizza oven for a cook-up

 

2pm-3.15pm   Adele NozedarThe Garden Forager – a talk (and a book-signing) plus a common or garden lilac cocktail for all!

On the Stage Area in the Great Glasshouse

 

Bwyd o’r Bywyd Gwyllt! 

Penwythnos Gŵyl Chwilota am Fwyd – Mai 30-31 (10yb-6yh)

yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

 

Does dim byd mwy werth chweil nag archwilio cefn gwlad a dod ar draws bwyd yn tyfu’n wyllt y gellwch fynd ag e nôl gyda chi, a’i ddefnyddio i goginio.

 

Mae gan fywyd gwyllt natur gymaint i’w gynnig – danteithion blasus yn esiampl, a bydd penwythnos o sbri Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn eich caniatáu chi i archwilio’ch natur wyllt.   Mae’r penwythnos yn digwydd ar Fai 30-31, a gall ymwelwyr ddarganfod ble mae moddion rhad ac am ddim yn tyfu, beth sy’n iachus yn y gwrychoedd, chwilota mewn dolydd, a phigo cynhwysion er mwyn gwneud pesto a thopin pizza.

 

Bydd bwyd gwyllt go iawn ar flaenau’ch bysedd, ac ry’n ni wedi casglu’r chwilotwyr gorau yma i’r Ardd er mwyn eich rhoi chi ar eich ffordd, a’ch helpu chi i ddysgu sut i chwilota’n gyfrifol.   Archwiliwch, mwynhewch, blaswch, darganfyddwch y bwyd blasus, rhad ac am ddim, hwn – a gellwch ddod o hyd i lawer ohono yn eich iard gefn!

 

Seren y sioe yw’r awdur Adele Nozedar, a bydd ei llyfr newydd The Garden Forager – Edible Delights in Your Own Backyard yn cael lansio’n swyddogol yn ystod yr Ŵyl.   Bydd Adele yn esbonio nad oes eisiau ichi deithio ymhell er mwyn dod o hyd i fwyd blasus rhad ac am ddim.   Bydd hi hefyd yn arwyddo copïau o’i llyfr, ac yn ein temtio ni’i gyd i flasu coctel lelog amheuthun!

 

Mae’r llysieuydd meddygol Lara Bean yn addo paratoi topin na welsoch chi ac na phrofoch chi erioed o’r blaen.  Tra bod ei gŵr Tom yn coginio pizzas mewn ffwrn glasurol llosgi pren, bydd Lara allan yn y caeau yn chwiolta am dopin unigryw.   Bydd hi hefyd yn casglu eich Hen Feddyginiaethau – triniaethau traddodiadol a/neu deuluol a drosglwyddwyd i lawr y cenedlaethau yn eich teulu chi.

 

Mae mwy o dynnu dŵr o’n dannedd o’r chwilotwraig broffesiynol, Jade Mellor, sy’n rhedeg y busnes ‘Lloffion Gwyllt’ ac yn wyneb cyfarwydd gyda’i bwyd o fywyd gwyllt mewn marchnadoedd ffermwyr a gwyliau bwyd fel ei gilydd, ac mae hi hefyd yn arwain teithiau cerdded amrywiol o fwyd o fywyd gwyllt a chyrsiau yn ei chartref yng Ngorllewin Cymru.   Bydd hi’n arwain grŵp fydd yn cribo’r gwrychoedd am ddail ar gyfer pesto o gynhwysion gwyllt – ac mae hi’n addo cynnal dosbarth gymunedol i bawb ar wneud pesto ar ddiwedd y daith.

 

Dyw Nicola Dee Kelly ddim yn ddieithr i’r Ardd, hi yw ein Meistres Llysiau a Dognau (gydag ymddiheuriadau i Brifysgol Dewiniaeth a Swyngyfaredd Hogwarts am ddwyn y teitl).   Bydd Nicola yn ein hannog ni’i gyd i fod yn gwrtais i’r ddynad, ac yn coginio ei homled ddynad ei hun.   Bydd hi hefyd yn ein tywys o amgylch y gwrychoedd er mwyn chwilio am ddeunydd crai ar gyfer ei golchdrwythau a dognau iach a bywiol.

 

Bydd Lizzie Harper, a wnaeth y darluniadau rhyfeddol ar gyfer llyfr newydd Adele a’i chyfrol blaenorol, Hedgerow Handbook, wrth law i dynnu gweithiau celf botanegol o ddarpar-arlunwyr fydd yn ymwelwyr i’r Ardd.

 

 

 

 

 

 

 

Rhaglen Lawn

 

10yb – 6yh Wyneb yn Wyneb â’r Chwilotwyr Bwyd: drwy’r dydd yn y Tŷ Gwydr Mawr 
11yb – 3yp Celf Lizzie Harper, yn y Tŷ Gwydr Mawr (a thu hwnt!) 
11.30yb – 12.30yp2yp – 3.30yp  Nicola Dee KellyChwilota Gwrychoedd ‘Iach a Bywiol’ – cwrdd ger Mynedfa Orllewinol y Tŷ Gwydr Mawr, ac yn ôl yno ar gyfer y sesiynau golchdrwythau/dognau.

 

12 canol dydd – 1.30ypa 2yp – 3.30yp

 

 Jade MellorPesto o gynhwysion gwyllt a danteithion blasus eraill –cwrdd ger Mynedfa Orllewinol y Tŷ Gwydr Mawr.

 

12.30yp – 1.30yp  Lara BernaysChwilota am Blanhigion Meddyginiaethol – ymunwch â’r llysieuydd meddygol, Lara, mewn helfa am gist meddyginiaethol o blanhigion – cwrdd ger Mynedfa Ogleddol y Tŷ Gwydr Mawr.

 

2.30yp – 3.45yp  Lara BernaysChwilota am Dopin Gwyllt i Bizza – cwrdd ger Mynedfa Ogleddol y Tŷ Gwydr Mawr.

Wedyn yn ôl i ffwrn bizza Tom i goginio’r cynhwysion.

 

2yp – 3.15yp  Adele NozedarThe Garden Forager – sgwrs (ac arwyddo llyfr) ynghyd â choctel lelog gardd neu lelog gyffredin, i bawb! – ar lwyfan berfformio’r Tŷ Gwydr Mawr.

 

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle