Lliw a llawenydd Llangollen 2015 ar S4C

0
794
From fleece to carpet – a woolly journey

Ers bron i 70 o flynyddoedd mae un dref yng ngogledd Cymru wedi bod yn ganolbwynt rhyngwladol ar gyfer canu corawl, dawnsio a chystadlu offerynnol. Bydd S4C yn cynnig pecyn o raglenni o Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen unwaith eto eleni o nos Fawrth, 7 Gorffennaf i nos Sul, 12 Gorffennaf.

Morgan Jones ac Elin Llwyd fydd yn cyflwyno’r rhaglenni dyddiol am 12.00 yng nghwmni tîm o arbenigwyr fydd yn trafod y prif gystadlaethau. Alwyn Humphreys fydd yn sylwebu ar y digwyddiadau yn y Pafiliwn, gyda Branwen Gwyn yn darparu sylwebaeth Saesneg ar y botwm coch neu drwy fynd i’r ddewislen iaith.

Gyda’r nos, Nia Roberts a Trystan Ellis-Morris fydd yn bwrw golwg yn ôl dros ddigwyddiadau’r dydd gan gynnwys y prif gystadlaethau a’r bwrlwm o gwmpas y maes ac ar strydoedd y dref.

Bydd plant a phobl ifanc hefyd yn gallu ymuno yn yr hwyl gyda rhaglenni ar Stwnsh o ddydd Mawrth hyd ddydd Iau.

Sefydlwyd yr Eisteddfod Ryngwladol fel modd o hyrwyddo dealltwriaeth fyd-eang a chynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf ym 1947. Bellach, mae dwsinau o wledydd yn ymweld â’r dref fechan yn flynyddol i gystadlu.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd yr Eisteddfod Eilir Owen Griffiths, “Rydym yn ystyried S4C a’r cwmni cynhyrchu teledu, Rondo, yn bartneriaid pwysig.  Mae’n bwysig dal hud Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen fel bod pobl sy’n methu dod yma yn gallu mwynhau’r ŵyl yng Nghymru a’r DU ar S4C, ac ar-lein drwy’r byd ar Llangollen.tv ac S4C.cymru.”

Ychwanegodd y cyflwynydd Morgan Jones, “Dwi wedi cyflwyno rhaglenni’r Eisteddfod Ryngwladol ers rhai blynyddoedd bellach ac yn edrych ymlaen ati bob blwyddyn. Mae yna deimlad gwahanol iawn i’r Eisteddfod Ryngwladol – y blas, y lliwiau a’r ieithoedd gwahanol ac yn sicr mae yna deimlad o frawdgarwch ac undod.  Mae gweld gwahanol genhedloedd law yn llaw yn dathlu diwylliannau amrywiol ar y cyd yn rhywbeth arbennig iawn.”

Yn ystod yr wythnos hefyd, cawn weld Iwan Griffiths yn ymweld â Nepal i gyfarfod grŵp dawnsio gafodd eu heffeithio gan y daeargryn diweddar. Bydd e’n clywed am bwysigrwydd yr Eisteddfod iddyn nhw wrth i rai ohonynt baratoi i deithio i Gymru i gymryd rhan.

Bydd rhaglenni S4C o’r Eisteddfod yn parhau y penwythnos nesaf gyda chystadleuaeth Côr y Byd i’w gweld ar y sianel nos Sadwrn, 11 Gorffennaf. Darlledir noson o gerddoriaeth Sain de America nos Sul, 12 Gorffennaf fydd yn cynnwys gwaith newydd gan Hector MacDonald i nodi 150 mlynedd ers sefydlu’r Wladfa ym Mhatagonia. Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, y delynores Catrin Finch a’r tenor Wynne Evans i gyd yn perfformio ar y llwyfan.

Llangollen 2015
Dydd Mawrth 7 Gorffennaf – Sul 12 Gorffennaf – darllediadau byw ac uchafbwyntiau – amseroedd yn amrywio

Gwefan: s4c.cymru

Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle