Cyngerdd fawreddog i ddathlu Her Cylchdaith Cymru

0
899
From fleece to carpet – a woolly journey

Fe fydd y tenor Rhys Meirion a llu o sêr eraill yn perfformio mewn cyngerdd fawreddog o Theatr Pafiliwn Y Rhyl i ddathlu dechrau taith Her Cylchdaith Cymru – a gallwch chi fwynhau’r adloniant o safon uchaf ar S4C nos Sadwrn, 4 Gorffennaf.

Bydd y daith yn mynd â’r tenor o Ruthun a chriw o sêr ar draws Cymru wrth iddynt deithio mewn amryw o ffyrdd unigryw gan gynnwys ar gefn asynnod glan môr, jet skis a beiciau tandem.

Yn y gyngerdd bydd rhai o dalentau mwyaf blaenllaw Cymru yn perfformio gan gynnwys Elin Fflur, Bryn Fôn, Tara Bethan, Sioned Terry, Joe Woolford o gystadleuaeth The Voice, y ddeuawd o’r Ariannin, Alejandro a Leonardo Jones, Corau Unedig Rhuthun a’r Cylch, Lleisiau Menlli a Chytgan Clwyd ac yn cadw trefn ar bawb bydd y digrifwyr Tudur Owen a Dilwyn Morgan.

Pwrpas y daith yw codi ymwybyddiaeth o’r angen i drafod rhoi organau a thrawsblannu wrth i Gymru baratoi i gyflwyno system o ganiatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau. Cymru yw’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno’r drefn fydd yn dod i rym ym mis Rhagfyr 2015.

Mae Rhys Meirion wedi ymgyrchu dipyn dros y blynyddoedd i hyrwyddo’r syniad o roi organau ers iddo golli ei chwaer Elen yn 2012 mewn damwain.

“Mae’r penderfyniad i roi caniatâd i roi organau rhywun sydd mor annwyl i chi yn gallu bod yn un anodd iawn. Ond, os nad yw teuluoedd yn trafod rhoi organau, mae hi’n amhosib i bobl wybod beth mae’r rhai sy’n agos iddyn nhw eisiau, meddai Rhys.

“Mae’r bwriad yn syml, rydym eisiau i bawb yng Nghymru rannu eu dymuniadau ynglŷn â rhoi organau gyda’u teuluoedd. Wrth ymweld â threfi a phentrefi ar draws Cymru, rydym eisiau darparu gwybodaeth am y ddeddfwriaeth newydd, ac annog pobl i siarad â’u teuluoedd am roi organau.”

Bydd un o ohebwyr Heno, Gerallt Pennant, yn ymuno â Rhys a Bryn ar y daith a bydd modd dilyn Her Cylchdaith Cymru yn y gyfres gylchgrawn yn ystod yr wythnos (6-10 Gorffennaf). Hefyd yn cymryd rhan yn y daith mae’r canwr Bryn Fôn, nith Rhys, Gwenllian Boyne, y naturiaethwr Iolo Williams a’i fab Dewi Williams, y gantores Tara Bethan, yr actores Ffion Dafis, y digrifwyr Tudur Owen a Dilwyn Morgan, y mezzo soprano Sioned Terry a’r canwr Alejandro Jones.

Meddai’r canwr a’r actor Bryn Fôn, “Dwi’n dechrau poeni rŵan am fy niffyg paratoi ar gyfer y daith drwy Gymru ! Ond dwi’n barod am y cyngerdd lansio yn Y Rhyl ac yn edrych ymlaen at berfformio i lond lle o gefnogwyr brwd, a chael canu deuawd hefo fy ffrind gorau newydd – syrpreis!”

Mae modd i chi ddysgu mwy am y daith a sut i gyfrannu at yr achos drwy fynd i’r wefan, cylchdaith.cymru

Cyngerdd Her Cylchdaith Cymru

Nos Sadwrn 4 Gorffennaf 7.30, S4C

Hefyd, 8 Gorffennaf 10.30, S4C

Isdeitlau Saesneg Gwefan: s4c.cymru

Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle