Y Mîrgathod yn Dod Nôl!

0
546

Ar ôl galw mawr, mae’r mîrgathod ar eu ffordd nôl i’r Ardd Fotaneg Genedlaethol – ynghyd â rhai o’u ffrindiau.

Ar benwythnos Gorffennaf 25 a 26, bydd y mîrgathod yn dod nôl i’r atyniad hwn yn Sir Gaerfyrddin, ynghyd â detholiad o nadredd, tarantiwlas, ballasg, drewgi a pharot.

Sioe hwyliog iawn i’r teulu i gyd yw hon, a drefnwyd gan Steve Rowland o Tropical Inc.

Dyma gyfle i famau a thadau a’u plant ddod i adnabyddiaeth agos a phersonol ag amrywiaeth eang o anifeiliaid ecsotig, gyda sioeau am 11yb, 12.30yp, 2yp, a 3.30yp, ar y ddau ddiwrnod ym Mhabell Fawr yr Ardd.

Mae taliad ychwanegol o £2 ar gyfer y sioeau, ac mae tocynnau ar werth yn awr ar gyfer y ddau ddiwrnod o sioeau, ac anogir ymwelwyr i archebu eu lle ymlaen llaw er mwyn sicrhau y gallant fwynhau dogn arall o swyn anifeilaidd.

Mae’r Ardd ar agor rhwng 10yb a 6yh, gyda’r mynediad olaf am 5yh.  Y tâl mynediad i’r Ardd yw £9.75 (gan gynnwys Cymorth Rhodd).   Mae mynediad AM DDIM i aelodau’r Ardd, ac mae parcio am ddim i bawb.

Am fwy o wybodaeth am hwn a digwyddiadau eraill yn yr Ardd, galwch 01558 667149 neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle