Gwledd o rygbi ar S4C yn dechrau gyda thîm Cymru Dan 18

0
799
From fleece to carpet – a woolly journey

S4C22.07.15

Owain Pennar

Cyswllt Contact

Ffôn Phone 029 2074 1416

Erthygl i’r Wasg

 

Gwledd o rygbi ar S4C yn dechrau gyda thîm Cymru Dan 18

Bydd S4C yn lansio’u gwasanaeth Cwpan Rygbi’r Byd 2015 gydag Wythnos Rygbi ar y sianel o nos Lun, 10 Awst. Ond cyn hynny bydd modd i ddilynwyr rygbi weld uchafbwyntiau gêm agoriadol tîm Cymru Dan 18 yn erbyn De Affrica mewn twrnamaint yn y wlad honno nos Wener, 7 Awst.

 

Yn Rygbi Dan 18: De Affrica v Cymru bydd cyfle i weld sêr rygbi Cymru’r dyfodol mewn gêm gyntaf o dair ym Mhencampwriaeth Dan 18 Undeb Rygbi De Affrica. Bydd uchafbwyntiau pob gêm i’w gweld ar S4C – yn erbyn tîm arall o Dde Affrica ar nos Sadwrn, 15 Awst ac yn erbyn Yr Eidal ar nos Fawrth, 11 Awst.

 

Morgan Isaac fydd yn cyflwyno’r rhaglenni gydag Alun Jenkins a Steff Hughes yn sylwebu. Yn ôl Morgan, fe fydd gan dîm Cymru fwy nag un pwynt i brofi yn y gemau. “Collodd tîm Cymru Dan 18 yn drwm yn erbyn De Affrica yn yr un twrnamaint y llynedd ac mi fydd hi’n dipyn o gamp i’r tîm orchfygu tîm A a thîm B De Affrica, neu un o’r ddau dîm, y tro hwn, gan fod gymaint o gryfder yn y sgwad.

 

“Fe gollodd Cymru 14-13 i’r Eidal nôl ym mis Mawrth ym Mhencampwriaeth Dan 18 Ewrop yn Toulouse ac felly bydd gan Gymru rywbeth i’w brofi yn erbyn yr Eidalwyr hefyd. Ym mis Mawrth hefyd, fe enillodd Cymru yn erbyn Lloegr – y tro cyntaf iddyn nhw lwyddo yn erbyn y Saeson ar y lefel hon ers 2007.

 

“Mae pethau reit annisgwyl yn gallu digwydd ym Mhencampwriaeth Dan 18 Ewrop. Eleni, er enghraifft, fe gyrhaeddodd tîm Georgia’r ffeinal yn erbyn Ffrainc gan ennill dwy gêm yn y rowndiau blaenorol drwy giciau o’r smotyn yn unig.”

 

Drwy gyflwyno rygbi ieuenctid ar S4C gan gynnwys y gyfres Rygbi Pawb, mae Morgan yn cael y cyfle gorau posib i weld datblygiad chwaraewyr y dyfodol yng Nghymru. “Mae’n gyfnod diddorol i’r sgwad gyda dau hyfforddwr llawn amser, Geraint Lewis a Jason Strange, nawr wrth y llyw. Un chwaraewr sydd wedi sefyll allan yn ddiweddar yw’r maswr Billy McBryde, mab hyfforddwr blaenwyr tîm cenedlaethol Cymru, Robin McBryde. Mae’n sicr o fod yn un o sêr y dyfodol.”

 

Mae’r twrnamaint yn Ne Affrica yn ‘un parti mawr’ yn ôl Morgan ac mae’n debyg fydd y tyrfaoedd go fawr yn dod i weld tair gêm Cymru yn Stellenbosch, George a Cape Town.

 

Rygbi Dan 18: De Affrica v Cymru

Nos Wener 7 Awst 10.30, S4C

Gwefan s4c.cymru

Cynhyrchiad SMS ar gyfer S4C

 

Rygbi Dan 18: Cymru v Yr Eidal

Nos Fawrth 11 Awst 9.30, S4C

 

Rygbi Dan 18: De Affrica v Cymru

Nos Sadwrn 15 Awst 10.00, S4C


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle