Mathew Rees
Cyswllt
Ffôn 029 2074 1214
Erthygl i’r Wasg
Miri maes Meifod: Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2015 ar S4C
Yn dilyn Eisteddfod grasboeth, gofiadwy a llwyddiannus yn 2003, mae’r Eisteddfod Genedlaethol Cymru eleni yn dychwelyd i bentref hudol Meifod ym Maldwyn am yr eildro.
Ac S4C fydd wrth galon y cystadlu gyda rhaglenni byw drwy’r dydd, gan ddilyn y cyflwynwyr o amgylch y Maes i weld beth sy’n digwydd y tu hwnt i lwyfan y Pafiliwn Pinc.
Mae’r rhaglenni, sy’n cael eu cynhyrchu gan BBC Cymru, yn cynnwys y tîm cyflwyno Nia Roberts, Dewi Llwyd, Iwan Griffiths, Heledd Cynwal a Tudur Owen.
Mae’r rhaglenni byw yn dechrau am 10.00 bob bore ac yn parhau drwy’r dydd. Bydd sylw llawn i brif seremonïau’r dydd; boed yn gadair, yn goron, medal neu’n dlws, a byddwn ni yno i weld y buddugwr yn codi i hawlio’u gwobr ar ganiad yr utgorn.
Fe fydd llif byw Eisteddfod Genedlaethol 2015 ar gael ar-lein ar wefan BBC Cymru Fyw, bbc.co.uk/cymrufyw a’r rhaglenni i’w gweld ar s4c.cymru
Fe fydd yna raglen uchafbwyntiau nosweithiol Mwy o’r Maes a bydd y camerâu yn y Babell Lên hefyd, gyda rhaglen uchafbwyntiau bob nos ar S4C. Bydd criw’r rhaglen gylchgrawn Heno ar y Maes ger yn darlledu’n fyw nos Lun, Mawrth ac Iau am 7.00, a bydd criw Newyddion 9 yn dod a’r straeon newyddion diweddara’ o’r Eisteddfod bob nos.
“Mae’n wych bod yr Eisteddfod yn dod nôl i Feifod,” meddai’r cyflwynydd Dewi Llwyd. “Dwi’n cofio’r tywydd poeth y tro diwetha’ wrth gadeirio trafodaeth yn yr awyr agored heb gysgod – lle anghyfforddus iawn i rywun pengoch fel fi! O ran y gwaith, pleser pennaf cyflwyno o’r brifwyl ydy’r cyfle y mae rhywun yn ei gael am wythnos gyfan i holi gwesteion gwirioneddol ddifyr. Mae honno’n fraint!”
Un sy’n dod o’r ardal yw’r cyflwynydd rhaglenni natur, Iolo Williams, ac mae’n edrych ymlaen yn arw at groesawu’r cyhoedd yn ôl i’r hen sir Drefaldwyn.
“Mae gen i atgofion melys iawn o’r Eisteddfod ddiwethaf yn 2003, yn rhannol oherwydd y tywydd bendigedig. Er nad yw Meifod yn ardal Gymraeg ei hiaith, roedd hi’n braf iawn cael clywed yr iaith yn cael ei siarad yno,” meddai Iolo a ddaw o Lanwddyn.
“Mae’n golygu llawer i’r ardal ac yn sicr yn mynd i fod yn hwb i’r iaith yn lleol. Mae cymaint o weithgareddau amrywiol i’w gwneud ar y maes a dwi’n methu aros i weld yr Eisteddfod yn dod nôl i’m cynefin.”
Bydd adeilad S4C yn fwrlwm o weithgareddau gydol yr wythnos. Bydd modd i chi brofi eich sgiliau yn ein gêm rygbi arbennig a chystadlu i ennill teledu clyfar gwych i wylio Cwpan Rygbi’r Byd 2015 ar S4C. Bydd Cyw a’i ffrindiau yn canu, dawnsio ac yn diddanu plant gyda sioeau dyddiol. Bydd anhrefn dyddiol gan dîm Ysbyty Hospital, sesiwn Ochr 1 gan Fand Pres Llareggub, sesiwn holi ac ateb am y ffilm am Batagonia, Galesa: Patagonia 2015 a bydd cystadleuaeth Cân i Gymru 2016 yn cael ei lansio.
Eisteddfod Genedlaethol 2015
Rhaglenni byw bob dydd gydag uchafbwyntiau ar y rhaglen Mwy o’r Maes fin nos – heblaw am nos Fercher a nos Wener oherwydd cystadlu byw.
Bydd isdeitlau Saesneg ar gael gydol y dydd ar raglenni Eisteddfod Genedlaethol 2015 ac ar raglenni uchafbwyntiau Mwy o’r Maes.
Ewch i s4c.cymru am y manylion llawn
Gwefan: s4c.cymru
Cynhyrchiad BBC Cymru ar S4C
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle