Ffion Rees
Cyswllt
Ffôn 029 2074 1422
Erthygl i’r Wasg
Wythnos o rygbi ar S4C
Wrth lansio Wythnos Rygbi S4C, fe fydd y sianel yn dangos gêm baratoi Cwpan Rygbi’r Byd Cymru v Iwerddon yn llawn nos Sadwrn, 8 Awst.
Fe fydd wedyn wythnos o raglenni archif rygbi rhwng dydd Llun 10 Awst a dydd Gwener 15 Awst er mwyn dechrau ar y dathliadau ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2015 yn yr hydref. Fe fydd S4C yn dangos naw gêm fyw fel rhan o arlwy Cwpan Rygbi’r Byd 2015 a llwyth o raglenni uchafbwyntiau a thrafod.
Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C, “Mae’r wythnos llawn clasuron o’r archif yn ffordd o ddathlu Cwpan Rygbi’r Byd 2015 sydd yn prysur nesau. Mae cael darlledu’r gemau yn Gymraeg yn ystod y bencampwriaeth yn newyddion da i ddilynwyr rygbi yng Nghymru a thu hwnt ac yn wasanaeth unigryw sy’n dangos ein hymroddiad i gêm sydd wrth galon bywyd yng Nghymru.”
Ymhlith yr arlwy fydd rhai o gemau Cwpan Rygbi’r Byd cofiadwy o’r archif yn cael eu cyflwyno gan gyn-chwaraewyr Cymru o’r adegau penodol gan gynnwys Cymru v Alban 2010, Iwerddon v Cymru 2012 a Cymru v Lloegr 2013.
Hefyd yn ystod Wythnos Rygbi S4C darlledir rhaglenni dogfen am rai o arwyr a chymeriadu’r gêm gan gynnwys Delme Thomas, Gareth Edwards, Ray Gravell, Carwyn James a Huw Llywelyn Davies.
Bydd rhaglen ddogfen arall Y 15 Olaf yn adrodd hanes y pymtheg olaf i chwarae i Gymru cyn i’r Rhyfel Byd Cyntaf ddod i ben.
Ceir uchafbwyntiau o gemau Cymru Dan 18 yn erbyn yr Eidal a De Affrica yn ystod yr wythnos yn ogystal â gemau byw ar brynhawn Sadwrn 15 Awst o Ŵyl Rygbi 7 bob ochr Caerdydd.
Mae’r cynhyrchwyr BBC Cymru wedi tynnu ynghyd dîm cyfwyno cryf ar gyfer gêm baratoi Cymru v Iwerddon gan gynnwys y sylwebwyr Cennydd Davies, Gareth Rhys Owen gyda Gwyn Jones yn ymuno â’r cyflwynydd Gareth Roberts. Bydd Gwyn hefyd yn ymuno â Shane Williams wrth y cae.
Yn yr wythnosau eraill yn arwain at Gwpan Rygbi’r Byd 2015, bydd S4C yn darlledu mwy o raglenni rygbi yn edrych ymlaen at y bencampwriaeth.
Bydd y rhain yn cynnwys cyfres o dair rhaglen Hanes Cwpan y Byd, rhaglenni’n dangos goreuon rygbi’r clybiau yn Ffrainc, y Top 14, a rhaglenni dogfen gan gynnwys Y Gêm Gudd fydd yn adrodd stori gêm ddadleuol Llanelli yn Rwsia yn y 1950au.
Wythnos Rygbi S4C Sadwrn 8 Awst i ddydd Sul 16 Awst, S4C
Gwefan: s4c.cymru
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle