S4C yn dilyn penwythnos llawn digwyddiadau yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau

0
1014
From fleece to carpet – a woolly journey

S4C30.07.2015

Ffion Rees

Cyswllt

Ffôn 029 2074 1480

Erthygl i’r Wasg

 

S4C yn dilyn penwythnos llawn digwyddiadau yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau

Mae S4C wedi bod wrth galon yr Eisteddfod Genedlaethol eto eleni gyda rhaglenni byw drwy’r dydd, gan ddilyn y cyflwynwyr o amgylch y Maes i weld beth sy’n digwydd y tu hwnt i lwyfan y Pafiliwn Pinc.

Mae’r rhaglenni, sy’n cael eu cynhyrchu gan BBC Cymru, yn cynnwys y tîm cyflwyno Nia Roberts, Dewi Llwyd, Iwan Griffiths, Heledd Cynwal a Tudur Owen.

Ar ddiwrnod olaf Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau, bydd cyfle i fwynhau’r grŵp offerynnol agored, yr Unawd Lieder, Côr Meibion dros 45 mewn nifer a Thlws Coffa Lois Blake.

Bydd araith Llywydd yr Ŵyl, R. Alun Evans, Cystadleuaeth Goffa Lady Herbert Lewis a Chôr Meibion rhwng 20 a 45 mewn nifer.

Bydd llif byw Eisteddfod Genedlaethol 2015 ar gael ar-lein ar wefan BBC Cymru Fyw, bbc.co.uk/cymrufyw a’r rhaglenni i’w gweld ar s4c.cymru.

Ar brynhawn ola’r Eisteddfod, Deuawd Yr Hen Ganiadau bydd yn cael sylw S4C. Gyda’r nos, cystadleuaeth Gwobr Goffa David Ellis – Y Rhuban Glas ar gyfer cantorion unigol – fydd yn dod a’r cystadlu mawreddog i ben o Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015.

Mewn rhaglen arbennig ar ddydd Sul, Tudur Owen fydd yn cyflwyno holl uchafbwyntiau’r cystadlu, y maes, y llwyfannau a’r stondinau o’r ŵyl.

Mae darllediadau byw, uchafbwyntiau a rhaglenni o’r Babell Len ar gael i’w gwylio’n rhyngwladol ar s4c.cymru.

Cofiwch hefyd fynd draw i Bafiliwn S4C ar y maes i fwynhau amryw o weithgareddau. Ar ddydd Sadwrn bydd Ochr 2 yn cyflwyno Kizzy Crawford gyda pherfformiadau acwstig, a chyfle i weld dangosiad ffilm Lleifior am 1.00, a gafodd ei ffilmio yn ardal Meifod rai degawdau yn ôl.

 

Eisteddfod Genedlaethol 2015

Rhaglenni byw yn y dydd gydag uchafbwyntiau ar y rhaglen Mwy o’r Maes fin nos

 

Bydd isdeitlau Saesneg ar gael gydol y dydd ar raglenni Eisteddfod Genedlaethol 2015 ac ar raglenni uchafbwyntiau Mwy o’r Maes.

 

Ewch i s4c.cymru am y manylion llawn

Gwefan: s4c.cymru

 

Cynhyrchiad BBC Cymru

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle