Y botel yn bygwth perthynas Ffion â Gethin yn Pobol y Cwm

0
828
From fleece to carpet – a woolly journey

S4C30.07.2015

Glesni Haf Jones

Cyswllt

Ffôn 029 2074 1422

Erthygl i’r Wasg

 

Y botel yn bygwth perthynas Ffion â Gethin yn Pobol y Cwm

Caiff perthynas Ffion a Gethin ei bygwth eto’r wythnos hon yn Pobol y Cwm, wrth i’r opera sebon ddychwelyd i’r sgrin wedi wythnos o seibiant oddi ar y sgrin.

Roedd eu perthynas yn ganlyniad i affêr tu ôl i gefn cariad Ffion ar y pryd – Jinx. Ond nawr mae gwendidau mawr Ffion fel alcoholig yn gysgod ar eu perthynas nhw.

Simon Watts sy’n wreiddiol o Rydaman yw’r actor sy’n portreadu Gethin, cariad Ffion a mecanic y Cwm. Mae Gethin wedi byw yn y cwm ers pum mlynedd, ac mae Ffion yn gariad weddol newydd iddo. Ond ydy Gethin yn difaru mentro i berthynas gyda phroblemau dyrys?

“Mae perthynas Ffion a Gethin mor fregus ag unrhyw berthynas sy’n cael ei rheoli gan effaith ddinistriol alcoholiaeth. Blaenoriaeth Ffion tra ei bod hi yn y cyflwr yma yw’r alcohol.

Mae e’n ymwybodol o’i gorffennol hi, ac yn sylweddoli’r perygl ynghlwm ag alcoholig, yn enwedig un sy’n penderfynu troi at y botel am yr eildro,” meddai Simon.

Er bod perthynas Gethin â Ffion ar groesffordd, i’r gwrthwyneb mae perthynas Simon a’i wraig, a’r actores Rhian Blythe. Ar ddechrau Gorffennaf croesawodd y ddau eu plentyn cyntaf i’r byd, Lewsyn.

Mae Simon yn gweld gobaith i berthynas ei gymeriad, Gethin, â Ffion.

“Mae Gethin yn ceisio bod yna iddi hi ddydd a nos. Mae e’n gwybod na fydd y siwrne yn un hawdd, ond mae e’n ei charu hi ac yn fodlon gwneud unrhyw beth i’w harbed hi rhag dinistrio’i hun yn llwyr.

“Trwy’r düwch yma, mae yna ryw lygedyn o oleuni, gan fod Gethin ei hun yn deall sut beth yw e i frwydro i gael bywyd nôl o grafangau iselder, yn sgìl y gamdriniaeth gafodd e gan Moc, ei dad.”

“Nid yn unig mae Gethin yn poeni sut wnaiff hyn effeithio ar eu bywyd carwriaethol nhw fel cwpwl, ond hefyd ar berthynas Ffion fel mam i Arwen ei merch hi.”

“O safbwynt Gethin, mae e’n sicr yn difaru’r ffordd wnaeth eu perthynas nhw ddechrau, ond mae e hefyd yn credu ei fod e’n well i berson symud ymlaen o berthynas nad yw’n gwneud nhw’n hapus, achos mae aros yn gallu gwneud mwy o niwed na daioni. A dyna sut oedd perthynas Ffion a Jinx.”

Gwyliwch Pobol y Cwm yr wythnos hon.

 

Pobol y Cwm

Llun, Mawrth, Iau, Gwener 8.00, S4C

Isdeitlau Cymraeg a Saesneg

Llun, Mawrth, Mercher, Gwener 6.00, S4C gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin

s4c.cymru/pobolycwm


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle