Cyfle arall i wylio drama deulu afaelgar

0
806
From fleece to carpet – a woolly journey

S4C04.8.2015

Glesni Jones

Cyswllt

Ffôn 029 2074 1422

Erthygl i’r Wasg

 

Cyfle arall i wylio drama deulu afaelgar

Bydd cyfle arall ar S4C yr haf hwn i wylio’r ddrama deulu afaelgar a theimladwy Lan a Lawr, sydd wedi ei lleoli yn ysblander Eryri a Phenrhyn Gŵyr.

Bydd y gyfres i’w gweld bob nos Sul a nos Fercher, gan ddechrau ar 16 ac 19 Awst ar S4C, a dros yr wythnosau nesaf gall y gwylwyr ddisgwyl dagrau, chwerthin, cyffro a gwrthdaro. Y diddanwr amryddawn Dewi ‘Pws’ Morris sy’n chwarae rhan Mal Harries yn y ddrama. Mae Mal yn ddeheuwr sydd wedi dianc i’r gogledd i weithio yn wirfoddol yng nghanolfan Antur y Garn.

Mae’n byw gyda’i gymar, Gwen, ond byddai well gan ei phlant hi iddo symud allan. Yn raddol rydym yn dysgu am ei gefndir cymhleth a’i hanes cythryblus sydd ar fin dod yn ôl i’w frathu.

Gyda chast o actorion sydd hefyd yn cynnwys Morfudd Hughes, Gwenno Hodgkins a Llion Williams; wynebau ifanc newydd fel Anni Dafydd a Carwyn Rhys Williams; ac wedi ei ‘sgwennu gan yr awdur adnabyddus, Gareth F. Williams, dyw’r ddrama ysgafn hon ddim yn un i’w methu.

Yn y bennod gyntaf, byddwn ym Mhenrhyn Gŵyr ble mae Delia Evans (Beth Robert) yn magu ei merch, Caitlin (Anni Dafydd) ac yn gorfod ymdopi â newyddion drwg.

Ond mae rhywun arall yn cystadlu am sylw Caitlin – yr artist ddominyddol Magda (Heulwen Haf).

I ddathlu pen-blwydd Caitlin yn 17 oed, mae hi a’i mam Delia yn teithio i’r gogledd. Ond wrth i’r daith barhau mae hen gyfrinachau yn dod i’r amlwg ac yn newid bywydau pawb unwaith ac am byth.

Lan a Lawr

Bob nos Sul a nos Fercher, o 16 Awst ymlaen, S4C

Isdeitlau Saesneg ar gael

Gwefan: s4c.cymru    

Cynhyrchiad Boom Cymru ar gyfer S4C

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle