O’r cnu i’r carped: Ffermio’n dilyn taith y gwlân

0
1008
From fleece to carpet – a woolly journey

S4C04.8.2015

Glesni Jones

Cyswllt

Ffôn 029 2074 1422

Erthygl i’r Wasg

 

O’r cnu i’r carped: Ffermio’n dilyn taith y gwlân

Oes gennych chi unrhyw syniad beth sy’n digwydd i wlân ar ôl i ddafad gael ei chneifio? A pha ddefnydd all gael ei wneud o un o gynnyrch craidd mwya ‘hyblyg  y byd?

Mewn rhaglen arbennig o’r rhaglen amaethyddol wythnosol hynod boblogaidd, Ffermio, bydd y cyflwynwyr yn olrhain taith gwlân defaid Cymru o’r cnu i’r carped ac o’r ddafad i’r fatres.

Bydd y rhaglen, sy’n cael ei darlledu nos Lun 17 Awst, yn dilyn taith y gwlân gan ddechrau gydag Alun Elidyr fydd ym merw’r cystadlu yng ngornest gneifio Corwen.

Bydd Meinir Howells  yn cwrdd â charfan o gneifwyr yn ardal Ceredigion sy’n mynd o amgylch y wlad yn cneifio tra bydd Daloni Metcalfe yn ymweld a chwmni Baavet yn Harlech – sy’n gwneud clustogau a duvets allan o wlân ffermydd cyfagos.

Bydd y daith hefyd yn mynd a ni tu hwnt i Glawdd Offa – i Bradford, sy’n cael ei adnabod fel prifddinas gwlân – i weld beth sy’n digwydd i’r gwlân ar ôl gadael buarth y fferm a sut mae’n cael ei drin.

Meddai cynhyrchydd Ffermio, Gwawr Lewis, “Mae tystiolaeth i awgrymu bod gwlân yn cael ei ddefnyddio gan bobl ers cyn cof – ond beth mae pobl y dyddiau hyn wir yn ei wybod am ei daith o’r fferm i’r siop?

“Er bod y diwydiant gwlân wedi mynd trwy gyfnodau heriol dros y blynyddoedd diwethaf, mae lle i obeithio am ddyfodol y diwydiant yn dilyn perfformiad cryf dros y 12 mis diwethaf a dw i’n gobeithio y bydd y rhaglen yn gwneud i’r gwylwyr feddwl eto am y gwaith sy’n mynd i droi gwlân yn gynnyrch gorffenedig sydd ar gael i’w prynu mewn unrhyw siop.”

Ffermio

Dydd Llun 17 Gorffennaf 9.30, S4C

Isdeitlau Saesneg ar gael

Gwefan: s4c.cymru                       

Cynhyrchiad Telesgop ar gyfer S4C

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle