Paratowch at Gwpan y Byd gyda rygbi ar S4C

0
788
From fleece to carpet – a woolly journey

S4C05.08.15

Owain Pennar

Cyswllt

Ffôn 029 2074 1480

Erthygl i’r Wasg

 

Paratowch at Gwpan y Byd gyda rygbi ar S4C

Wrth i S4C a’r genedl baratoi ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2015, bydd y sianel yn cynhesu wrth ddarlledu pencampwriaeth rygbi saith bob ochr yn fyw.

Bydd y cymal Cymreig o gyfres rygbi saith bob ochr Singha yn fyw o Gaerdydd ddydd Sadwrn 15 Awst, gyda phedwar rhanbarth Cymru yn brwydro yn erbyn ei gilydd am un prynhawn.

Bydd Gareth Roberts a’r tîm yn cyflwyno’r holl gemau dros dair awr yn dechrau am 3 yn y prynhawn – wrth i’r Gweilch, y Scarlets, y Gleision a’r Dreigiau gystadlu yn erbyn ei gilydd ar Barc yr Arfau.

Bydd dau o’r pedwar rhanbarth yna’n mynd ymlaen i’r rownd derfynol yn y Twickenham Stoop ar 28 Awst lle fyddan nhw’n wynebu’r goreuon o dimau Lloegr . Bydd rhaglen uchafbwyntiau o’r diwrnod terfynol ar S4C ar 30 Awst.

Y llynedd, llwyddodd y Gleision a’r Dreigiau i fynd i’r rownd derfynol a welodd Caerloyw yn cael eu coroni’n bencampwyr.

Meddai Sue Butler, Pennaeth Chwaraeon S4C, “Roedd y bencampwriaeth saith bob ochr yn ddigwyddiad cyffrous iawn y llynedd ac rydym yn falch iawn i allu darlledu’r gystadleuaeth unwaith eto. Mae hwn yn gyfle i weld rhai o’n sêr rhanbarthol yn disgleirio.”

Bydd rhaglen twrnamaint rygbi saith bob ochr Singha yn cael ei chynhyrchu gan Sunset & Vine Cymru ar gyfer S4C.

Rygbi 7 Bob Ochr Singha Cymru Sadwrn 15 Awst, 3.00, S4C

Cynhyrchiad Sunset & Vine Cymru ar gyfer S4C

Ar-lein: s4c.cymru

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle