Y Scarlets yn yr Undeb Sofietaidd

0
634
From fleece to carpet – a woolly journey

S4C05.08.2015

Owain Pennar

Cyswllt

Ffôn 029 2074 1480

Erthygl i’r Wasg

 

Y Scarlets yn yr Undeb Sofietaidd

Yn 1957, yng nghanol y Rhyfel Oer a’r bygythiad o ryfel niwclear yn gysgod dros y byd, teithiodd tîm rygbi Llanelli i Moscow i wynebu timoedd rygbi’r byd Comiwnyddol.

Mae rhaglen ddogfen Y Gêm Gudd, sy’n cael ei darlledu nos Fawrth 18 Awst, yn olrhain hanes y daith anarferol a hynod honno y tu ôl i’r Llen Haearn gan glywed gan rai o’r chwaraewyr fu’n rhan o’r daith yn ogystal â’r teuluoedd gafodd eu gadael ar ôl.

Mae’r rhaglen hefyd yn dangos ffilm archif o’r daith i ganolbwynt yr Undeb Sofietaidd sy’n ddangos y chwaraewyr a’u hyfforddwr chwedlonol, Carwyn James, yn mentro lle na fentrodd yr un tîm rygbi o’r blaen.

“Rodd shwt storis mawr am Rwsia,” esbonia cefnwr Scarlets y daith, Terry Davies. “A bod yn onest, dod e ddim y math o le fyddech chi moyn mynd. Doedd neb yn gwybod beth i ddisgwyl a neb wedi gweld unrhyw beth tebyg erioed o’r blaen.”

Bydd y rhaglen yn esbonio sut gafodd y Scarlets wahoddiad i bencampwriaeth Gemau Ieuenctid y Byd yn Moscow yn 1957 pan fynychodd 34,000 o bobl ifanc o 131 o wledydd y digwyddiad.

Wrth hel atgofion am y daith o Lanelli i ddwyrain Berlin ac ymlaen i Moscow, y seremoni agoriadol, y gemau yn erbyn Romania a Tsiecoslofacia a’r gweithgareddau allgyrsiol, bydd Y Gêm Gudd yn rhoi darlun cyflawn o’r daith a sut le oedd Rwsia i fyw ynddi ar y pryd.

Mae Dr Martin Johnes yn hanesydd a darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe. Dywedodd fod y penderfyniad i fynd ar y daith yn y lle cyntaf yn gam i’r tywyllwch.

“Beth oedd yn gwneud y rhyfel oer mor scary oedd y ffaith ei fod e’n mynd i fod yn rhyfel cwbl wahanol i beth oedd wedi digwydd o’r blaen,” meddai. “Os byddai ‘na ymosodiad niwclear ar Brydain, byddai Caerdydd, Abertawe ar y front line. Roedd pobl yn disgwyl i fom ddisgyn ar Gaerdydd a dyna oedd yn gwneud y Rhyfel Oer mor scary i bobl.”

Bydd y cyfranwyr hefyd yn cofio sut y cyfareddodd Carwyn James y Rwsiaid gyda’i fersiwn ddihafal ei hun o Myfanwy, cyn cael ei holi gan yr heddlu cudd am ei allu i siarad Rwsieg.

Fel mae Terry Davies yn cofio, “Doedd dim llygaid sych yn yr ystafell ar ei ôl e. Petai rhywun yn gofyn i fi be ti’n cofio fwya’ am y trip i Rwsia – Carwyn yn canu Myfanwy fydde fe. Ond pan ddaeth y milwyr i mewn, odd e tamed bach yn serious.”

Er na lwyddodd tîm rygbi Llanelli i ddod a’r gwpan adre gyda nhw i Gymru, does dim dwywaith fod y daith wedi rhoi’r Scarlets ar y map ar y cyfandir coch ac wedi bod yn brofiad unwaith mewn oes i’r rhai fu arni.

Meddai Terry Davies: “Doedden nhw ddim yn credu fel o ni’n bihafio. O’n nhw ffeili credu bo ni’n gallu gweud hyn a gweud ‘na achos odd y droed fawr yn hollol arnyn nhw. Ond doedd e ddim yn fywyd o’n i ‘di gweld o’r blaen.”

 

Y Gêm Gudd Dydd Mawrth 18 Awst, 9.30, S4C

Isdeitlau Saesneg ar gael

Cynhyrchiad Tinopolis ar gyfer S4C

Ar-lein: s4c.cymru


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle