Y Llinell Gofal – gwasanaeth sy’n datblygu

0
788
Paul Falkener CICES Ops manager at Council Social Care Stores,Dafen displaying Telecare equipment.Pic Jeff Connell 06/08/15

Mae gwasanaeth rhybuddio hanfodol sydd wedi’i gymharu ag ‘angel gwarcheidiol’ yn dal i ddatblygu, a hynny er ei fod wedi cael ei ddefnyddio ers blynyddoedd lawer ar draws Sir Gaerfyrddin er mwyn helpu pobl agored i niwed yn eu cartrefi eu hunain.

Gofynnir i’r cyhoedd am eu sylwadau ar wasanaeth y Llinell Gofal yn Sir Gaerfyrddin, ac ar ffyrdd posibl o ddatblygu’r gwasanaeth.

Ledled Sir Gaerfyrddin mae 2,400 o bobl sy’n prynu gwasanaeth y  Llinell Gofal, ac mae gan 1,300 o bobl eraill deleofal yn eu cartrefi i’w galluogi i aros yn annibynnol gartref. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn adnabod rhywun sydd wedi defnyddio’r larymau cymdeithasol hyn, a elwir fel arfer yn llinellau bywyd neu’n larymau personol.

Yn achos gwasanaeth sylfaenol y Llinell Gofal, bydd aelod o’r cyhoedd yn prydlesu offer a chadwyn i’w gwisgo o amgylch y gwddf neu’r arddwrn, sy’n gysylltiedig â’i llinell ffôn. Os bydd yr unigolyn yn cael damwain, yn cwympo, neu mewn unrhyw drafferth, gall wasgu’r botwm ar y gadwyn gan fod yn dawel ei feddwl fod staff dwyieithog y Llinell Gofal yn monitro’r system 24 awr y dydd bob dydd o’r flwyddyn ac y byddant yn ateb yr alwad. Gall y botwm ar y gadwyn gael ei wasgu unrhyw le yng nghartref yr unigolyn, a bydd y Llinell Gofal yn cael galwad yn syth. Wedyn bydd gweithredwyr y Llinell Gofal yn gallu siarad â’r unigolyn er mwyn gweld a oes angen cymorth ac yna’n gallu cymryd pa gamau bynnag sydd fwyaf priodol.

Hefyd mae’r Llinell Gofal yn monitro’r gwasanaeth teleofal a ddarperir gan ofal cymdeithasol. Mae’r system yn debyg i un y larwm cadwyn, ond mae ganddi nifer o synwyryddion eraill sy’n gallu datgelu a yw rhywun wedi cwympo, a yw wedi gadael ei gartref, a oes llifogydd yn yr eiddo, neu amryw sefyllfaoedd eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: “Rydym yn Gyngor sy’n rhoi blaenoriaeth uchel i’r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein sir. Mae’r Llinell Gofal fel rhyw angen gwarcheidiol i bobl fregus ac oedrannus ac mae’n hanfodol i’r sawl sy’n byw ar eu pen eu hunain. Mae teleofal yn wasanaeth hynod sy’n rhoi gwybod yn awtomatig am argyfwng domestig, er enghraifft llifogydd neu fwg. Hefyd, yn bwysig ddigon, mae’n rhoi gwybod am godymau!”

Mae’r gwasanaeth wedi cynyddu’n sylweddol i gwmpasu cynifer o feysydd, ac rydym am gael barn y cyhoedd, staff iechyd, doctoriaid a’n holl bartneriaid eraill i weld a oes angen newid neu ddatblygu rhywbeth. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch o’r Llinell Gofal ac yn awyddus i’w gweld yn cael ei datblygu mewn modd cadarnhaol.”

Sefydlwyd y Llinell Gofal ddiwedd yr 1970au fel rhan o wasanaeth tai yr awdurdod lleol, gan ddarparu gwasanaeth monitro larymau cymdeithasol ar gyfer systemau galwadau wardeiniaid tai gwarchod. Drwy dechnoleg mae’r Llinell Gofal wedi datblygu’n sylweddol dros 40 mlynedd, a bellach mae’n ymdrin â thua 650,000 o alwadau’n flynyddol. Mae 28 o bobl yn rhan o’r tîm Llinell Gofal sy’n ymdrin â’r galwadau hyn, ac maent wedi cael hyfforddiant ynghylch sut mae ymdrin â sefyllfaoedd a galwadau gwahanol.

Ochr yn ochr â’r gwaith monitro galwadau, mae’r Llinell Gofal yn darparu gwasanaethau eraill ar gyfer gofal cymdeithasol a’r Cyngor yn ei gyfanrwydd. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys bod yn bwynt cyswllt cyntaf o ran gofal cymdeithasol i oedolion, ac ymdrin â galwadau i’r Cyngor y tu allan i oriau’r swyddfa mewn achosion o argyfwng. O ran gofal cymdeithasol i oedolion, y nod yw rhoi gwybodaeth ddefnyddiol a chyngor i bobl, eu cyfeirio i asiantaethau eraill, neu eu galluogi i gael mynediad i waith cymdeithasol, therapi galwedigaethol, ffisiotherapi ac ati.

Hefyd mae’r Llinell Gofal bellach yn darparu gwasanaethau i sefydliadau ac Awdurdodau Lleol eraill megis Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot, Ceredigion, Powys, Sir Benfro, Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Merthyr Tudful, a nifer o gymdeithasau tai.  Mae’r Llinell Gofal yn monitro tua 25,000 o gysylltiadau Teleofal a larymau cymunedol.

Gall unrhyw un yn y sir gael mynediad i’r Llinell Gofal, boed hynny am resymau diogelwch cartref neu ddiogelwch personol, er mwyn helpu i gadw unigolion yn fwy diogel yn eu cartrefi drwy roi modd iddynt ddefnyddio larwm os digwydd damwain.

Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymchwilio i’r modd y canfyddir ac y datblygir y Llinell Gofal yn y dyfodol, gan ofyn i bawb sydd â diddordeb gymryd rhan yn yr arolwg.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle