Christmas bonus for Principality Premiership / Gwledd o rygbi Principality dros y Nadolig |
As the race to clinch a place in tier one of the Principality Premiership comes to a dramatic conclusion, WRU broadcast partner S4C will televise three live Principality Premiership games over the Christmas and New Year period. The matches will also be available to watch live via the S4C Chwaraeon Facebook Live channel. The coverage kicks off a run of 15 televised games on the Welsh language channel in total over the season which will follow the Principality Premiership and National Cup, Plate and Bowl to their conclusion.
Eight teams will fight it out to reach the Principality Premiership semi-finals and final once the Premiership splits in the New Year and performances in the next few weeks will be critical to the make-up of that Pool of eight. The next Principality Premiership action sees Cardiff, currently in eighth place, take on third placed Blues rivals Pontypridd on Friday 23 December, while the first televised game is at Bridge Field on Boxing Day with Bedwas, who sit in fifth place as the table stands, hosting ninth placed Ebbw Vale at 4.45pm. Other key matches that day include Cross Keys v Newport and Carmarthen Quins v Llandovery, RGC travelling to Merthyr on Bank Holiday Tuesday 27 December. The S4C cameras then travel to Sardis Road for a New Year’s Eve treat. Last year’s finalists Pontypridd take on Cross Keys, who are curently tenth but with a chance of challenging for the top eight with a run of form. And ahead of that game which kicks off at 3pm, Pontypridd Youth play Treorchy Youth at 12noon with the new artificial pitch providing an ideal, all weather surface. The choice of televised match for Saturday 7 January will be made after Christmas, and the National Cup Round 1 tie between Llanelli and Pontypool on January 28 has also been confirmed as a live televised encounter. WRU Head of Rugby Performance Geraint John said, “The interest in the Principality Premiership has clearly increased this season with very competitive matches and with the added incentive for clubs of trying to get into tier one. We are working closely with the Premiership clubs to provide coaching support and we can look forward to an exciting climax of this first part of the season, S4C’s coverage will play a big part in that.” Head of Rugby Operations Julie Paterson said, “We are privileged to have such support from our broadcast partners in Wales. To have 15 Principality Premiership and National Cup, Plate and Bowl matches televised live on S4C between now and the end of the season is a huge plus point for the Premiership and grassroots rugby in Wales and all parties are working together to ensure the best outcome for all.” WRU Head of Rugby Participation Ryan Jones added, “From a community perspective, we are thrilled that youth rugby will be played on the same day and at the same venue as some of the televised Principality Premiership and National Cup matches. The opportunity will provide a stage for youth teams to shine and Pontypridd Youth v Treorchy Youth will certainly add to the occasion at Sardis Road on New Year’s Eve and is hopefully an idea that will continue to grow with more Principality Premiership clubs and Regions enjoying the opportunities artificial pitches provide.” S4C’s Sport Content Commisioner, Sue Butler, said: “We are committed to supporting every level of rugby in Wales and delighted to broadcast live games from the Principality Premiership and The National Cup, Plate and Bowl. Rugby is again at the heart of our Christmas and New Year schedule and we hope fans of all ages will enjoy the coverage.” Gwledd o rygbi’r Uwch Gynghrair Principality dros y Nadolig Wrth i’r ras i gyrraedd hanner uchaf Uwch Gynghrair Cymru’r Principality ddwysau, bydd S4C, partner darlledu Undeb Rygbi Cymru, yn dangos tair gêm o’r gynghrair yn fyw dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Fydd y gemau hefyd ar gael i’w wylio yn fyw ar sianel Facebook Live S4C Chwaraeon. Bydd y gemau yma’n rhan o gyfres o 15 o gemau fydd yn cael eu dangos ar y sianel dros y tymor, gan gynnwys gemau’r Uwch Gynghrair, yn ogystal â gemau o’r Cwpan, Plât a Bowlen Genedlaethol. Bydd wyth tîm yn brwydro i gyrraedd yr wyth safle uchaf cyn i’r gynghrair rannu’n ddwy yn y flwyddyn newydd, ac mi fydd y perfformiadau dros yr wythnosau nesaf yn hollbwysig yn y frwydr i fod yn yr hanner uchaf. Fe fydd Caerdydd, sydd yn yr wythfed safle ar hyn o bryd, yn herio’i hen elyn Pontypridd ddydd Gwener, 23 Rhagfyr yn y gêm nesaf yn yr Uwch Gynghrair Principality, tra bydd y gêm gyntaf i gael ei dangos ar y teledu yn digwydd ar Ddydd San Steffan, gyda’r tîm sydd yn y pumed safle, Bedwas, yn croesawu Glyn Ebwy, am 4.45. Bydd gemau pwysig eraill yn cael eu chwarae ar yr un diwrnod, gan gynnwys Cross Keys v Casnewydd, Cwins Caerfyrddin v Llanymddyfri, a RGC 1404 fydd yn teithio i Ferthyr ar ddiwrnod Gŵyl y Banc, ddydd Mawrth 27 Rhagfyr. Yna, bydd camerâu S4C yn ymweld â Heol Sardis ar brynhawn 31 Rhagfyr. Bydd y tîm a gollodd yn y rownd derfynol y llynedd, Pontypridd, yn herio’r tîm sydd yn y degfed safle, Cross Keys. Cyn y gêm honno, sy’n cychwyn am 3.00, bydd tîm ieuenctid Pontypridd yn chwarae yn erbyn tîm ieuenctid Treorci am 12.00 ar y cae pob tywydd newydd y clwb. Bydd gêm ychwanegol yn cael ei darlledu ar 7 Ionawr, y penwythnos olaf cyn rhaniad y gynghrair, ac fe fydd S4C yn dewis pa gêm sy’n cael ei darlledu’n fyw ar ôl y Nadolig. Yn ogystal, mae’r sianel wedi cadarnhau y bydd y gêm rownd gyntaf yn y Cwpan Cenedlaethol rhwng Llanelli a Phont-y-pŵl yn cael ei darlledu’n fyw ar 28 Ionawr. Dywedodd Pennaeth Perfformiad Undeb Rygbi Cymru, Geraint John, “Mae’r diddordeb yng ngemau Uwch Gynghrair y Principality wedi cynyddu’r tymor yma, ac rydym wedi gweld sawl gornest gystadleuol iawn wrth i’r timau frwydro am le ymhlith yr haen uchaf. Rydym yn gweithio’n agos â chlybiau’r Uwch Gynghrair i ddarparu cymorth i’r hyfforddwyr ac rydym yn edrych ymlaen at ddiweddglo cyffrous i’r rhan yma o’r tymor – bydd y darllediadau ar S4C yn cyfrannu at y cynnwrf.” Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau Rygbi, Julie Paterson, “Mae’n fraint derbyn cefnogaeth o’r math yma gan ein partneriaid darlledu yng Nghymru. Bydd 15 o gemau Uwch Gynghrair y Principality ynghyd â gemau’r Gwpan, Plât a’r Bowlen Genedlaethol yn cael eu darlledu’n fyw ar S4C rhwng nawr a diwedd y tymor, sydd yn hwb enfawr i’r gynghrair ac i rygbi ar lawr gwlad. Mae’n braf fod pawb yn gweithio tua’r un nod, er budd pawb.” Ychwanegodd Ryan Jones, Pennaeth Cymryd Rhan mewn Rygbi, Undeb Rygbi Cymru, “Rydym wrth ein bodd fod gêm rygbi ieuenctid yn mynd i gael ei chwarae ar yr un diwrnod ac ar yr un cae â rhai o gemau’r Uwch Gynghrair a’r Gwpan Genedlaethol sydd yn cael eu dangos ar y teledu. Dyma’r cyfle i rygbi ieuenctid serennu a dwi’n siŵr y cawn ni gêm wych rhwng tîm ieuenctid Pontypridd a thîm ieuenctid Treorci. Rwy’n gobeithio y bydd y gêm yn cyfrannu at gynnwrf yr achlysur ac y bydd y syniad yn tyfu wrth i ragor o glybiau a rhanbarthau Uwch Gynghrair Principality wneud y gorau o’r manteision y mae caeau artiffisial yn eu cynnig.” Dywedodd Comisiynydd Cynnwys Chwaraeon S4C, Sue Butler: “Rydym yn falch i gefnogi pob lefel o rygbi yng Nghymru a hapus iawn ein bod ni’n dangos gemau’n fyw o Uwch Gynghrair y Principality, a’r Cwpan, Plât a’r Bowlen Genedlaethol. Mae rygbi unwaith eto wrth galon ein hamserlen Nadolig a Blwyddyn Newydd ac rydym yn gobeithio bydd cefnogwyr o bob oedran yn mwynhau’r gemau.” |
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle