Eyesore building in Llanelli Town Centre could be redeveloped

0
1158

One of Llanelli Town Centre’s biggest eyesore building could be demolished and re-built within months.
Developers plan to redevelop the former Raffles Nightclub in Murray St into a mixture of high quality residential and commercial lets set over five floors – to be known as Cwrt Dilwyn in a £1.8 million investment.
EON Investment Ltd secured the existing lease and is currently working with Carmarthenshire County Council, which has the freehold on the property, to negotiate a longer term agreement.
The new owners plan to invest over a million pounds in Cwrt Dilwyn after securing a £750,000 loan, subject to various conditions, through the Welsh Government Town Centre Loans Fund, administered by Carmarthenshire County Council.
Detailed drawings are being prepared with a view to submitting a formal planning application shortly.
Bringing empty shops and buildings back into use is one of the key priorities set out by the Llanelli Town Centre Taskforce, led by Cllr Emlyn Dole, Leader of Carmarthenshire County Council.
The Taskforce aims to stimulate growth and investment by supporting traders, boosting business and increasing footfall.
Cllr Dole said: “This would be a huge boost for Llanelli Town Centre and its regeneration plans. Bringing more units back into use was one of my main priorities when I launched the Llanelli Town Centre Taskforce and this is a perfect example of how we can work well in partnership with private investors to breathe new life into parts of the town.
“I was pleased to meet the developer on site, and to hear the plans for the redevelopment of the former Raffles nightclub. A large sum of money would be invested to bring this vacant and dilapidated building back into use, subject to planning.
“These are ambitious and exciting plans that complement what the council is doing in the town centre. Hopefully this will kick-start further regeneration of this area of town.”
EON Investment Ltd director, Michael Isaac said: “The Directors of EON Investments have been extremely impressed by the council’s commitment to the continuing regeneration of Llanelli Town Centre; the quality and vision apparent in the Eastgate development; and the encouragement and assistance provided to further potential investment. The enthusiasm and skills of the Economic Development Division have been crucial to EON’s own commitment, and it is believed that clearance of the derelict, former Raffles Nightclub in Murray Street, and replacement by an iconic new building, will further stimulate economic growth within the town.”
The council’s executive board member for regeneration, Cllr Meryl Gravell added: “I’m delighted that EON Investment Ltd is planning to redevelop a key building in Llanelli Town Centre. It is vital that the council works in partnership with the private sector to enable positive regeneration of the local and regional economy.”
 
 
 
Ailddatblygu adeilad sy’n ddolur llygad yn Llanelli

Gallai adeilad sy’n ddolur llygad yng nghanol tref Llanelli gael ei ddymchwel a’i ailgodi mewn ychydig fisoedd. 
Bwriad datblygwyr yw troi hen Glwb Nos Raffles yn Stryd Murray yn gyfuniad o osodiadau preswyl a masnachol o safon, a hynny ar bum llawr gwahanol, mewn buddsoddiad o £1.8 miliwn. Enw’r datblygiad fydd Cwrt Dilwyn.
Sicrhaodd ‘EON Investment Ltd’ y brydles bresennol ac ar hyn o bryd mae’n gweithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin, sy’n meddu ar y rhydd-ddaliad ar yr eiddo, i ddod i gytundeb mwy hirdymor.
Mae’r perchnogion newydd yn bwriadu buddsoddi dros filiwn o bunnoedd yng Nghwrt Dilwyn ar ôl cael benthyciad o £750,000 (yn amodol ar amrywiol amodau), drwy Gronfa Benthyciadau Canol Trefi Llywodraeth Cymru, a weinyddwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin.
Paratoir darluniadau manwl gyda golwg ar gyflwyno cais cynllunio ffurfiol cyn bo hir.
Gweld adeiladau a siopau gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto yw un o brif flaenoriaethau Tasglu Canol Tref Llanelli, dan arweiniad y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin.
Nod y Tasglu yw ysgogi twf a buddsoddiad drwy gynorthwyo masnachwyr, rhoi hwb i fusnesau a chynyddu nifer y siopwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Dole: “Byddai hwn yn hwb enfawr i Ganol Tref Llanelli a’r cynlluniau adfywio yno. Roedd gweld mwy o unedau’n cael eu defnyddio unwaith eto yn un o’m prif flaenoriaethau wrth lansio Tasglu Canol Tref Llanelli, ac mae hon yn enghraifft berffaith o sut gallwn ni weithio’n dda mewn partneriaeth â buddsoddwyr preifat i adfywio rhannau o’r dref.
“Roeddwn i’n falch o gael cwrdd â’r datblygwr ar y safle, ac o gael clywed beth yw’r cynlluniau ar gyfer aillddatblygu hen glwb nos Raffles. Yn amodol ar gael caniatâd cynllunio, caiff swm mawr o arian ei fuddsoddi er mwyn sicrhau bod yr adeilad gwag ac adfeiliedig hwn yn cael ei ddefnyddio unwaith eto.
“Mae’r rhain yn gynlluniau uchelgeisiol a chyffrous sy’n ategu’r hyn mae’r cyngor yn ei wneud yng nghanol y dref. Y gobaith yw y bydd hyn yn ysgogi adfywio pellach yn y rhan hon o’r dref.”
Dywedodd Cyfarwyddwr EON Investment Ltd, Michael Isaac: “Mae’r Cyngor wedi creu argraff ffafriol iawn ar Gyfarwyddwyr EON Investment o ran ei ymrwymiad i adfywio Canol Tref Llanelli yn barhaus, y safon a’r weledigaeth amlwg sy’n perthyn i ddatblygiad Porth y Dwyrain, a’r anogaeth a’r cymorth a roddir i geisio cael rhagor o fuddsoddiad. Mae brwdfrydedd a sgiliau yr Is-adran Datblygu Economaidd wedi bod yn hanfodol i ymrwymiad EON ei hun, a’r farn yw y bydd clirio hen glwb nos Raffles yn Stryd Murray a chodi adeilad newydd eiconig yn ei le, yn hwb arall i dwf economaidd y dref.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Meryl Gravell, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Adfywio: “Rwyf wrth fy modd fod EON Investment Ltd yn bwriadu ailddatblygu adeilad allweddol yng Nghanol Tref Llanelli. Mae’n hollbwysig bod y cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â’r sector preifat i adfywio’r economi leol a rhanbarthol mewn modd cadarnhaol.”   
 
.

 
 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle