Independent Members Join Health Board / Aelodau Annibynnol yn ymuno â’r Bwrdd Iechyd

0
819

Mae dau Aelod Annibynnol newydd yn ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ym mis Ebrill. Mae’r cyhoeddiad yn dod ar ôl y broses benodi gan Lywodraeth Cymru o ganlyniad i aelodau annibynnol presennol yn dod i ddiwedd eu cyfnod yn eu swyddi; un aelod ar ddiwedd Mawrth 2017, a’r llall yn yr Hydref.

Mae Delyth Raynsford wedi ei phenodi i swydd Aelod Annibynnol am gyfnod o un flwyddyn a Paul Newman am ddwy flynedd. Bydd y ddau yn ymgymryd â’u rolau o 1 Ebrill 2017.

Mae gan Ms Raynsford brofiad sylweddol mewn iechyd a gofal cymdeithasol gyda chefndir mewn theatrau llawdriniaeth ar lefelau clinigol a rheolaethol yng ngorllewin, canolbarth a de Cymru.

Wedi cymhwyso fel Nyrs Gyffredinol Gofrestredig ym 1986, dechreuodd Delyth ei gyrfa nyrsio yn y GIG yn Llanelli, â’i swydd GIG diwethaf yn Ysbyty Bronglais.

Cymraeg yw mamiaith Delyth, ac mae hi o gefndir ffermio yn Sir Gaerfyrddin.

Wrth sôn am ei phenodiad diweddar, dywedodd Ms Raynsford: “Mae cael fy mhenodi’n Aelod Annibynnol y Bwrdd yn anrhydedd ac rwyf yn llawn brwdfrydedd i ddechrau.

“Rwy’n gobeithio y bydd fy mhrofiad eang yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn cynnig cyngor gwerthfawr i’r Bwrdd, ac edrychaf ymlaen at chwarae rhan weithredol yn y gwaith hynod bwysig sy’n cael ei wneud ar gyfer poblogaeth y rhanbarth.”

Mae Mr Newman yn gyfreithiwr wrth ei alwedigaeth, a raddiodd o Brifysgol Aberystwyth ym 1983. Hyfforddodd a chymhwysodd yn Abertawe ac ym 1990 chwaraeodd ran allweddol wrth sefydlu cwmni llwyddiannus o gyfreithwyr, John Collins a’i Bartneriaid, a ehangodd yn ystod ei amser yno. Mae’n arbenigo mewn ymgyfreitha masnachol gyda phwyslais arbennig ar esgeulustod proffesiynol.

Yn dilyn ei ymddeoliad o’r cwmni yn 2008, mae Mr Newman wedi gwneud peth gwaith ymgynghori ac wedi bod yn Aelod Annibynnol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ers 2009.

Dywedodd Mr Newman: “Drwy ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, rwy’n awyddus i barhau i ddefnyddio a datblygu fy ngwybodaeth a phrofiad a enillwyd yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf.

“Mae hwn yn gyfnod heriol ond cyffrous i ymuno â’r sefydliad gyda chyfle i wneud gwahaniaeth i’r ffordd y mae’n gweithredu, a sut y mae’n darparu gwasanaethau gofal iechyd i’n poblogaeth leol.”

Dywedodd Bernardine Rees, OBE, Cadeirydd y Bwrdd Iechyd Prifysgol: “Rwyf wrth fy modd yn croesawu Delyth a Paul at y Bwrdd. Mae’r ddau yn cynnig profiad a gwybodaeth amrywiol ac eang a fydd o fudd mawr i ni i’r dyfodol”.

“Rwyf hefyd am gymryd y cyfle i ddiolch i Margaret Rees-Hughes – y mae ei thymor fel Aelod Annibynnol gyda’r Bwrdd wedi dod i ben. Mae Margaret wedi rhoi cefnogaeth sylweddol i’r sefydliad yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn ei rôl fel Aelod Annibynnol, ac mae hi wedi hyrwyddo ein gweithlu a’r iaith Gymraeg mewn gofal iechyd.

Mae Margaret wedi cyfrannu’n fawr at y GIG, ac wedi rhoi 50 mlynedd o wasanaeth i ofal iechyd yn y De a Gorllewin Cymru. Dymunwn y gorau iddi i’r dyfodol. ”

__________________________________________________________

Two new Independent Members are joining Hywel Dda University Health Board in April. The announcement comes following the Welsh Government appointment process due to two independent members completing their terms; one member at the end of March 2017 and another member in the autumn.

Delyth Raynsford has been appointed to the post of Independent Member for a period of one year and Paul Newman will take up his Independent Member role for twoyears. Both appointees will take up their roles from 1 April 2017.

Ms Raynsford has significant experience in both health and social care with a background in operating theatres at clinical and managerial levels in west, mid and south Wales.

Qualifying as an RGN in 1986, Delyth began her nursing career in the NHS in Llanelli, and her last NHS post was at Bronglais Hospital.

Delyth is a first language Welsh speaker from a farming background in Carmarthenshire.

Commenting on her recent appointment, Ms Raynsford said: “I am both honoured and enthused to have been appointed as IM to the Board.

“I hope that my broad range of experience in both health and social care sectors will offer a valuable advice to the Board and look forward to playing an active role in the hugely important work being undertaken for the population of the region.”

Mr Newman is a solicitor by profession, who graduated in Aberystwyth University in 1983. He trained and qualified in Swansea and in 1990 he played a key role in establishing a successful firm of solicitors, John Collins & Partners, which expanded during his time there. He specialised in commercial litigation with a particular emphasis on professional negligence.

Following his retirement from the practice in 2008, Mr Newman has undertaken some consultancy work and has been an Independent Member with Abertawe Bro Morgannwg University Health Board since 2009.

Mr Newman said: “I am keen to continue to use and develop my knowledge and experience gained over the last eight years by joining Hywel Dda University Health Board.

“This is a challenging but exciting time to be joining the organisation with an opportunity to really make a difference to the way it operates and how it delivers health care services to our local population.”

University Health Board Chair, Bernardine Rees, OBE, said: “I am delighted to welcome Delyth and Paul to the board. Both offer a wide range of experience and knowledge that will greatly benefit and support us in the future.

“I also wish to take the opportunity to thank Margaret Rees-Hughes, whose term as Independent Member with the Board has come to an end. Margaret has provided the organisation with significant support over the past few years in her role as Independent Member and has championed both our workforce and the promotion of Welsh language in healthcare.

“Margaret has contributed greatly to the NHS, having dedicated 50 years of service to healthcare in both south and west Wales, and we wish her all the best for the future.”

For the latest news and updates from Hywel Dda University Health Board visit www.hywelddahb.wales.nhs.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle