Rhaid i’r Llywodraeth Lafur wrando ar leisiau ymgyrchwyr yn Sir Benfro am ddychwelyd i wasanaethau meddygaeth plant 24 awr yn Ysbyty Llwynhelyg – dyna oedd y neges a roddodd AC Plaid Cymru Simon Thomas wrth brotestwyr wrth iddynt gyflwyno deiseb y tu allan i’r Senedd.
Yn 2014 symudodd y Llywodraeth Lafur y gwasanaeth 24 awr Brys mewn Obstetreg, Pediatreg ac Uned Gofal Arbennig i Fabanod dan arweiniad meddygon ymgynghorol o Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg.
Mae’n rhaid i famau a babanod yn awr deithio i Gaerfyrddin am driniaeth.
Mae’r ddeiseb yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau dychwelyd y ddarpariaeth Obstetreg a Phediatreg dan ofal meddygon ymgynghorol i’r lefelau y buont cyn 2014.
Meddai’r ymgyrch iechyd, AC y Canolbarth a’r Gorllewin, Simon Thomas: “Rhaid i’r Llywodraeth Lafur wrando ar y lleisiau o Sir Benfro am ddychwelyd gwasanaethau i Ysbyty Llwynhelyg.
“Rhaid llongyfarch y deisebwyr ar eu hymgyrch faith am wasanaethau teilwng i bobl Sir Benfro. Rwy’n falch o gefnogi eu cais am ddychwelyd gwasanaethau pediatrig 24 awr. Fis diwethaf yn unig, bûm yn pledio’r achos dros ddychwelyd gwasanaethau yn ystod cwestiynau’r Prif Weinidog yn adeilad y Senedd.
“Mae’r penderfyniad i symud gwasanaethau yn dangos sut y mae’r Llywodraeth Lafur wedi camreoli’r gwasanaeth iechyd. Mae’n siomedig nad yw’n ymddangos bod gweledigaeth tymor-hir am GIG Cymru, gan gynnwys am wasanaethau yn lleol.”
“Yr oedd gan Blaid Cymru yn etholiad y Cynulliad llynedd gynllun tymor hir ar gyfer GIG Cymru gan gynnwys cynigion i recriwtio mwy o feddygon a nyrsys fel y byddai modd i ni adfer y gwasanaethau coll i Lwynhelyg.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle