Annog siopau i fod yn rhan o’r Sbri Siopa i Fyfyrwyr/ Retailers urged to sign up to Student Take Over event

0
1043
Student Takeover Partners (CCC, UWTSD and Hub 6 manager), with Cllr Emlyn Dole

https://studio.stupeflix.com/v/oPAwVMVDGBNk/

Annog siopau i fod yn rhan o’r Sbri Siopa i Fyfyrwyr
 
Mae busnesau canol tref Caerfyrddin yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer y Sbri Siopa i Fyfyrwyr, sef digwyddiad blaengar ym maes adwerthu sy’n benodol ar gyfer myfyrwyr.
 
Mae tîm datblygu economaidd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi bod yn cydweithio â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Yr Atom, Cyngor Tref Caerfyrddin, Maes Myrddin, Rhodfa’r Santes Catrin ac Undeb y Myfyrwyr er mwyn dod â’r digwyddiad hwn i Gaerfyrddin ar Fedi 28.
 
Mae digwyddiadau siopa i fyfyrwyr wedi dod yn boblogaidd yn y blynyddoedd diwethaf ymhlith myfyrwyr ac mae’n gyfle iddyn nhw gael eu dwylo ar y bargeinion gorau wrth i siopau gynnig gostyngiadau a chynigion am un noson yn unig.
 
Mae busnesau canol tref Caerfyrddin yn cael eu hannog i gynnig gostyngiadau arbennig, trugareddau am ddim a chystadlaethau er mwyn denu myfyrwyr i wario’u harian yn y dref rhwng 6pm a 9pm nos Iau, 28 Medi.
 
Gall pob busnes adwerthu gymryd rhan yn y digwyddiad, gan gynnwys llefydd bwyd a diod.
 
Bydd y digwyddiad yn cael ei hyrwyddo’n lleol i fyfyrwyr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar gampysau Caerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan, campysau Coleg Sir Gâr a myfyrwyr chweched dosbarth o ysgolion Caerfyrddin.  Bydd modd i fyfyrwyr o ardaloedd eraill hefyd ymuno yn y digwyddiad i weld beth sydd gan Gaerfyrddin i’w gynnig.
 
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Rydym wrth ein boddau’n gweld digwyddiad fel hwn i fyfyrwyr yn dychwelyd i Gaerfyrddin. Gyda chynulleidfa darged fawr ar stepen y drws mae potensial enfawr i fusnesau, siopau a gwerthwyr bwyd a diod yng nghanol y dref elwa ar y digwyddiad blaengar hwn.  Heb os, mae’n ffordd flaengar o ryngweithio â myfyrwyr ac yn gyfle gwych i fusnesau feithrin perthynas â chwsmeriaid newydd a fydd yn dychwelyd dro ar ôl tro.”
Dywedodd John Nash, Rheolwr Rhodfa’r Santes Catrin: “Rydym yn gyffro i gyd wrth edrych ymlaen at groesawu’r digwyddiad hwn unwaith eto. Bydd yn llwyddiant ysgubol ac rydym yn edrych ymlaen at weld y myfyrwyr yn mwynhau siopa yn ein tref unwaith eto.”
 
Cymerwch ran yn y Sbri Siopa i Fyfyrwyr yng Nghaerfyrddin! Os oes gennych chi fusnes yng Nghaerfyrddin, cofiwch gofrestru i gymryd rhan. Cysylltwch ag Alex Morgan, e-bost AljMorgan@sirgar.gov.uk 01267 242435
 
Retailers urged to sign up to Student Take Over event
 
Carmarthen town centre businesses are being urged to sign-up to the Student Take Over – an innovative retail event targeted specifically at the student market.
 
Carmarthenshire County Council’s economic development team has teamed up with the University of Wales Trinity St David (UWTSD), Yr Atom, Carmarthen Town Council, Merlin’s Walk, St Catherine’s Walk and the Trinity St David’s Student Union to bring this event to Carmarthen on September 28.
 
Student shopping events have become popular in recent years with students eager to get their hands on the best bargains as retailers offer one off discount and promotions for one night only.
 
Carmarthen town centre businesses are being encouraged to offer exclusive discounts, giveaways and competitions to attract students to spend in town between 6pm and 9pm on Thursday, September 28.
 
All retail businesses can get involved, including outlets offering food and drink.
 
The event will be promoted locally to students from UWTSD’s Carmarthen and Lampeter campuses, Coleg Sir Gâr campuses, and sixth form students from Carmarthen schools, with the potential for students to visit from other areas to sample what Carmarthen has to offer.
 
Cllr Emlyn Dole, Leader of Carmarthenshire County Council said: “We are delighted to see a student event return to Carmarthen town. With such a large target audience literally on the town centre’s doorstep, there is huge potential for local businesses, retailers and hospitality to benefit from this innovative promotional event. It is without doubt, am engaging way to interact with the student market and a fantastic opportunity for businesses in town to build relationships with new customers that will return again and again.”
John Nash, manager of St Catherine’s Walk, said: “We are really excited to be part of this event again, we know it’s going to be a great success and are looking forward to seeing the students enjoy shopping in our town again.”
 
Be a part of Carmarthen’s Student Take Over Event! If you run a retail business in Carmarthen, sign up to take part. Contact Alex Morgan, email AljMorgan@carmarthenshire.gov.uk 01267 242435


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle