EVENTS in Carmarthenshire are being given a helpful boost thanks to Carmarthenshire County Council’s new Event Support Scheme.
A fund of £20,000 has been set aside by the council which event organisers across the county can apply to, to help grow their event.
Applications can be made for funds of between £250 and £5,000 at up to 50% of total costs for events that meet certain criteria aimed at improving tourism in the county.
To date, over £9,000 has been allocated to eight events, ranging from musical and cultural festivals, to a motorbike weekend and town carnival.
Event organisers, Sue & Jonah MacGill, from Llandovery Motorbike Weekend, which took place on July 8 and 9 said: “As organisers of a small event which, we feel, has much potential for the town of Llandovery, our award of £850 was essential to enable the event to take place and will undoubtedly enable us to grow it in years to come.
“We are just a small group of local people who are trying to create something unique to help put Llandovery on the map whilst enhancing levels of road safety and first aid within an inclusive environment. We are delighted that Carmarthenshire County Council recognises that.”
The Llandovery Motorbike Weekend aims to capitalise upon the fact that hundreds of bikers pass through the town every weekend, encouraging them to stay longer and take advantage of all it has to offer. It is estimated that approximately 2000 people visited the town and surrounding area over the weekend with many staying at local campsites, hotels and B&Bs.
Other events which have received funding include Llandeilo Jazz Festival, Carmarthen River Festival and Ammanford Big Day Out.
Cllr Peter Hughes Griffiths, Executive Board Member for culture, sport & tourism said: “Events are worth an estimated £1.5 million to the local economy.
“We therefore hold our county’s events programme in high regard and aim to support those events which meet the specified criteria as much as we can in order to improve the appeal of Carmarthenshire as a vibrant and attractive tourist destination.”
For more information on the council’s Event Support Fund, and to apply, visit www.carmarthenshire.gov.wales/organising-events/funding-for-event-organisers.
Cronfa newydd yn rhoi hwb i ddigwyddiadau Sir Gaerfyrddin
Mae digwyddiadau yn Sir Gaerfyrddin yn cael hwb diolch i Gronfa Cymorth Digwyddiadau newydd Cyngor Sir Caerfyrddin.
Neilltuwyd cronfa o £20,000 gan y cyngor y gall trefnwyr digwyddiadau ar draws y Sir gyflwyno cais iddi er mwyn helpu i ddatblygu eu digwyddiad.
Gellir cyflwyno ceisiadau am gyllid o rhwng £250 a £5,000 a hyd at 50% o gyfanswm y costau ar gyfer digwyddiadau sy’n bodloni meini prawf penodol sy’n anelu at wella twristiaeth yn y sir.
Hyd yma, dyrannwyd dros £9,000 i wyth digwyddiad, sy’n amrywio o wyliau cerddorol a diwylliannol, i benwythnos beiciau modur a charnifal tref.
Dywedodd Sue a Jonah MacGill, trefnwyr Penwythnos Beicio Modur Llanymddyfri, a gynhaliwyd ar 8 a 9 Gorffennaf: “Fel trefnwyr digwyddiad bach sydd â llawer o botensial ar gyfer tref Llanymddyfri, roedd cael dyraniad o £850 yn hanfodol er mwyn galluogi’r digwyddiad i gael ei gynnal a bydd heb os, yn ein galluogi i ddatblygu yn y blynyddoedd sydd i ddod.
“Grŵp bychan o bobl leol ydym ni sy’n ceisio creu rhywbeth unigryw i helpu i roi Llanymddyfri ar y map a cheisio hefyd gwella lefelau diogelwch ar y ffyrdd a chymorth cyntaf a hynny mewn amgylchedd cynhwysol. Rydym yn falch iawn bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cydnabod hynny.”
Nod Penwythnos Beicio Modur Llanymddyfri yw ceisio manteisio ar y ffaith fod cannoedd o feicwyr yn teithio drwy’r dref bob penwythnos, a’u hannog i aros yn hirach a manteisio ar bopeth sydd gan y dref i’w chynnig. Amcangyfrifir bod tua 2000 o bobl wedi ymweld â’r dref a’r ardal gyfagos dros y penwythnos gyda llawer yn aros mewn safleoedd gwersylla, gwestai a llety Gwely a Brecwast lleol.
Ymhlith y digwyddiadau eraill a gafodd arian mae Gŵyl Jazz Llandeilo, Gŵyl Afon Caerfyrddin a Diwrnod Mawr Rhydaman.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae digwyddiadau werth oddeutu £1.5 miliwn i’r economi leol.
“Felly mae gennym barch mawr at ein rhaglen ddigwyddiadau yn y sir ac yn ceisio cefnogi’r digwyddiadau hynny sy’n bodloni’r meini prawf penodol er mwyn gwella apêl Sir Gaerfyrddin fel cyrchfan i dwristiaid sy’n fywiog a deniadol.”
Am ragor o wybodaeth am Gronfa Cefnogi Digwyddiadau’r Cyngor, ac i wneud cais, ewch i http://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/busnes/cymorth-busnes/trefnu-digwyddiadau/cyllid-ar-gyfer-trefnwyr-digwyddiadau.aspx#.WWX-P_5THIU
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle