Gwahoddir y rhai sydd â diddordeb mewn iechyd i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am 5pm ddydd Iau 27 Gorffennaf 2017.
Eleni, bydd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn adolygu llwyddiannau a heriau y flwyddyn a aeth heibio ac yn gosod cyfeiriad y flwyddyn sydd i ddod.
Mae’r Adroddiad Blynyddol, sy’n cynnwys cyfrifon cryno a’r Datganiad Ansawdd Blynyddol – sydd i’w cyflwyno yn y cyfarfod – yn rhoi eglurhad cryno i staff, cleifion a’r cyhoedd o’r hyn sydd wedi’i gyflawni eleni yn ogystal â’r heriau, a sut mae’r bwrdd iechyd prifysgol yn bwriadu dysgu a gwella gwasanaethau ar gyfer pobl leol.
Dywed Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bernardine Rees OBE: “Ar ran y Bwrdd, rwyf yn estyn croeso cynnes i staff, cleifion a’r cyhoedd sydd am fynychu ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
“Mae’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a’r Adroddiad Blynyddol yn rhoi cyfle i ni ddweud ein stori ac i osod goliau, dyheadau a blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Rwyf yn annog y rhai hynny sydd â diddordeb i fynychu’r cyfarfod hwn, neu i ymuno â chynllun aelodaeth Siarad Iechyd / Talking Health.
“Yn ddiamheuol, mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn her, ond rydym hefyd wedi gweld rhai llwyddiannau anhygoel, a dymunaf ddiolch yn bersonol i bob aelod o’n staff am eu hymdrechion diflino, ddydd ar ôl dydd, er lles ein cleifion. Yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, byddwn yn canolbawyntio’n benodol ar waith i wella ein gwasanaethau’n sylweddol gyda chefnogaeth a mewnbwn ein cymunedau lleol. Yn rhan o’n cynlluniau i ddod yn sefydliad iechyd y boblogaeth, rydym am wneud penderfyniadau ar y cyd ar sut a ble y byddai’n well gan bobl gael eu triniaeth. Rydym am roi ffocws mawr ar ofal sy’n canolbwyntio ar y claf.”
Cynhelir y cyfarfod yng Nghanolfan Cymdeithasol Pill, Heol Pill, Aberdaugleddau, Sir Benfro SA73 2QT.
Am fwy o wybodaeth ar Siarad Iechyd/Talking Health:
• ewch i www.siaradiechyd.wales.nhs.uk
• rhif ffôn 01554 899056
___________________________________________________
Anyone with an interest in local health services are invited to attend the Annual General Meeting (AGM) of Hywel Dda University Health Board at 5pm on Thursday 27 July 2017.
This year, the AGM will review the achievements and challenges of the last year and set the direction for the year to come. The organisation’s Annual Report, including summary accounts and the Annual Quality Statement, will be at the AGM and explain clearly to staff, patients, and the general public what has been achieved in the year, what has been difficult, and how the health board intends improve services for local people.
Hywel Dda University Health Board Chair Bernardine Rees OBE said: “On behalf of the Board, I would like to extend a warm welcome to staff, patients or members of our community who may want to attend our AGM. We look forward to this opportunity to share our reflections on the past year with our local population and to set our goals, aspirations and priorities for the year to come. I would urge those with an interest to attend this meeting, or alternatively join our Siarad Iechyd / Talking Health membership scheme.
“This past year has been one of undoubted challenge, but we have also seen some incredible achievements, and I would personally thank each and every one of our staff for their tireless efforts, day in and day out, for the benefit of our patients. This coming year will be one where we focus on particular on work to significantly improve our services with support and input from our local communities. We want to jointly take decisions on how and where people would prefer to receive treatment as part of our plans to become a population health organisation, firmly focused on patient-centred care.”
The meeting will be held in the Pill Social Centre, Pill Road, Milford Haven, Pembrokeshire SA73 2QT
For more information on Siarad Iechyd/Talking Health:
• visit www.talkinghealth.wales.nhs.uk
• telephone 01554 899056
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle