Inaugural partnership conference showcases the latest innovations in population health / Cynhadledd agoriadol y bartneriaeth yn arddangos y datblygiadau diweddaraf ym maes iechyd y boblogaeth Close Back to Folder Fiona Hancock mail@hywelddahb.vuelio.co.uk 4 Attachments 4 days ago

0
673

Inaugural partnership conference showcases the latest innovations in population health / Cynhadledd agoriadol y bartneriaeth yn arddangos y datblygiadau diweddaraf ym maes iechyd y boblogaeth
Heddiw [13 Gorffennaf] daeth o gynrychiolwyr ynghyd i arddangos sut mae arloesedd, addysg ac ymchwil yn cyfrannu at iechyd pobl leol ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae’r ‘Gynhadledd Inspiring Research and Innovative Practice Conference’ gyntaf erioed hon, a drefnwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’i dair prifysgol bartner sef Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn ddathliad o gyd-weithio a sut y mae hyn wedi arwain at brofiad gwell i’r claf a chanlyniadau iechyd gwell. Mae hefyd yn gyfle perffaith i gydweithwyr o bob rhan o’r sectorau iechyd ac addysg i gwrdd a rhannu syniadau fel rhan o’u datblygiad proffesiynol parhaus.

Yn ei brif araith agoriadol, dywedodd Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: “Trwy Fyrddau Iechyd Prifysgol mae gennym gyfle gwirioneddol yng Nghymru i drosi’r ymchwil ddiweddaraf yn ofal o’r radd flaenaf, â ffocws ar ganlyniadau gwell i gleifion. Rwyf wrth fy modd o weld academyddion a chlinigwyr yng ngorllewin Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i hyrwyddo arloesedd mewn ysbytai a chymunedau. Mae’r digwyddiad hwn yn sail i ymrwymiad pawb sy’n gysylltiedig â hyn i sicrhau bod ymchwil yn arwain at welliant yn iechyd a llesiant y boblogaeth leol.”

Ychwanegodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym am sicrhau bod y gwersi sy’n cael eu dysgu gan bob un sy’n gweithio ym meysydd gofal iechyd ac ymchwil feddygol yn cael eu defnyddio yn gynt, yn fwy effeithiol ac yn fwy systematig. Heddiw rydym wedi ystyried pedair thema allweddol ar ymyrraeth cymunedol, gofal canser, cyflenwi gwasanaethau a gwyddoniaeth er mwyn canolbwyntio ein trafodaethau ar sut i rannu, dysgu, profi a datblygu mwy o gyfleoedd i gyd-weithio – mae wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig.”

Mae’r gynhadledd wedi galluogi’r Bwrdd Iechyd Prifysgol a’i bartneriaid i arddangos y gwaith sy’n mynd rhagddo o ran llunio a llywio datblygiad ei weithlu a darparu gwasanaethau gofal iechyd mewn cyd-destun gwledig.

Dywedodd Dr Rachel Rahman, Cyfarwyddwr Canolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae’r gynhadledd hon yn gyfle i brofi’r ystod amrywiol o waith ymchwil sy’n digwydd rhwng BIP Hywel Dda UHB a’i bartneriaid Prifysgol, ac i weld cyfraniad pwysig y mae’r gwaith ymchwil hwn yn ei wneud yn ein cymunedau lleol. Rwy’n teimlo’n gyffrous i weld galluoedd ymchwil y bartneriaeth yn mynd o nerth i nerth ac yn edrych ymlaen i fod yn rhan o gyfraniad Prifysgol Aberystwyth i fentrau yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Yr Athro Ceri Phillips, Pennaeth Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae’r gynhadledd yn gyfle perffaith i arddangos mentrau newydd rhwng y Bwrdd Iechyd a’i bartneriaid Prifysgol sy’n aml yn digwydd heb lawer o sylw, ond sydd â goblygiadau sylweddol i brofiad y claf ac ymarfer. Gal y cyfnewid syniadau a gwybodaeth hyn ond gwella ansawdd y gwasanaethau a ddarperir a gwella statws iechyd ein cymunedau. Fel Coleg, rydym yn gefnogol iawn o fentrau o’r fath, a manteision hynny i’r ddwy ochr.”

Dywedodd Yr Athro Mike Phillips, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil ac Arloesi, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: “Rydym fel Prifysgol wrth ei bodd o fod yn cyd-weithio â’n partneriaid i arddangos y gwaith gwych sy’n digwydd ar draws y rhanbarth. Gyda’n gilydd, rydym yn gwneud gwahaniaeth mawr i iechyd a llesiant ein cymunedau. Mae Grŵp Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sy’n cynnwys Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, yn darparu ystod o wasanaethau, yn cynnwys datblygiad sgiliau galwedigaethol, dysgu yn y gwaith ac ymchwil gymhwysol mewn ystod eang o feysydd rhyngddisgyblaethol cysylltiedig ag iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ein campysau gwledig a threfol yn ein galluogi i gael mynediad i gymunedau ar draws y rhanbarth ac ymateb i’w anghenion penodol.”
 
Dywedodd Yr Athro Keir Lewis, Arweinydd Arbenigol Gwasanaethau Anadlol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Heddiw rydym wedi dod at ein gilydd, nid yn unig i ddathlu ein llwyddiannau o ran gwella iechyd ein cymunedau iechyd – a wnaed yn bosibl drwy ymchwil arloesol a chydweithio – ond hefyd er mwyn sicrhau bod ein gwaith gyda’n gilydd yn parhau i arwain at welliant pellach yn ansawdd y gofal a ddarparwn ac yng nghanlyniadau cleifion.”

Wrth edrych i’r dyfodol, mae’r pedwar partner a elwir yn Fwrdd Partneriaeth Prifysgol, yn parhau a’i gwaith i nodi atebion creadigol a chyfleoedd i ddatblygu i sbarduno ymchwil, addysg ac arloesedd mewn gwella iechyd.
________________________________________________________ 

Today [13 July] delegates came together to showcase how cutting edge innovation, education and research is contributing to the health of local people across Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire. 
 
The first ever ‘Inspiring Research and Innovative Practice Conference’, organised by Hywel Dda University Health Board and its three partner universities Aberystwyth University, Swansea University and University of Wales Trinity Saint David, celebrated how working together has led to improved patient experience and better health outcomes. It also provided the perfect opportunity for colleagues from across the health and education sectors to meet and share ideas as part of their ongoing professional development.

Opening the conference with his keynote speech, Vaughan Gething AM, Cabinet Secretary for Health, Wellbeing and Sport said: “Through University Health Boards, we have a real opportunity in Wales to translate the latest research into first class care, with a focus on better outcomes for patients. I’m delighted to see academics and clinicians in west Wales working in partnership to drive forward innovations in hospitals and communities. This event underpins the commitment of everyone involved to make sure that research leads to improved health and wellbeing of the local population.”
 
Steve Moore, Chief Executive of Hywel Dda University Health Board, added: “We want to make sure that the lessons learnt from everyone working in healthcare and medical research are used more quickly, effectively and systematically. Today we’ve explored four key themes around community intervention, cancer care, service delivery and science in order to focus our discussions on how to share learning, experience and develop further opportunities for collaboration – it’s been truly inspiring.” 
 
The conference enabled the University Health Board and its partners to demonstrate the work underway in shaping and driving the development of its workforce and delivering healthcare services in a rural context.
 
Dr Rachel Rahman, Director of the Centre for Excellence in Rural Health Research at Aberystwyth University said: “This conference is an opportunity to experience the diverse range of research that is happening between Hywel Dda UHB and its University partners, and to see the important contribution that this research is making to our local communities. I am excited to see the research capabilities of the partnership go from strength to strength and look forward to being part of Aberystwyth University’s contribution to future initiatives.”

Professor Ceri Phillips, Head of the College of Human and Health Sciences at Swansea University, added: “This conference provided the ideal opportunity to showcase novel collaborative initiatives between Health Board and University partners that often take place under the radar, but have significant implications for patient experience and practice. The exchange of ideas and knowledge can only serve to enhance the quality of services provided and improve the health status of our communities. As a College, we are highly supportive of such initiatives and the mutual benefits that emerge.” 
 
Professor Mike Phillips, Pro Vice-Chancellor Research and Innovation, at University of Wales Trinity Saint David commented: “UWTSD is delighted to work with our partners to showcase the excellent work that is happening across the region.  Together we are making a real difference to the health and wellbeing of our communities.  The UWTSD Group, which includes Coleg Sir Gâr and Coleg Ceredigion, delivers a range of services, including vocational skills development, work-based learning and applied research in a broad range of inter-disciplinary health and social care related areas. Our rural and urban campuses enable us to access communities across the region and respond to their specific needs”.
 
Professor Keir Lewis, Respiratory Specialty Lead at Hywel Dda University Health Board, said: “Today has been about coming together, not just to celebrate our achievements in improving the health of our local communities, made possible through innovative research and collaboration, but to ensure that our work together continues to lead to further improvement in the quality of care we provide and patient outcomes.”
 
Looking ahead, the four partners, known as the University Partnership Board, will continue its work to identify creative solutions and development opportunities to drive research, education and innovation in health improvement.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle