Dedicated new resource for diabetes patients at Prince Philip Hospital / Adnodd newydd pwrpasol ar gyfer cleifion diabetes yn Ysbyty’r Tywysog Philip
A dedicated resource for diabetes patients in Llanelli is set to be opened at a newly-refurbished building on the Prince Philip Hospital site.
The Llanelli Diabetes Service is co-locating a number of community and hospital based services into the new centre, which has been named after a recently-retired Senior Diabetes Consultant in Carmarthenshire, Dr Meurig Williams.
The facility is near the residential block at the top of the site and will house a number of services including Diabetic Eye Screening Wales, Vascular Podiatry, Leg Ulcer Clinics, Diabetes Nurse Specialist Clinics, Chronic Conditions Clinical Psychology, Dietetics, Insulin Pump and Antenatal clinics, all with a view to becoming a one-stop diabetes centre for patients.
Dedicated car parking facilities will also be available for patients at the new centre, which is due to open on 24 July.
Diabetes consultant, Dr Sam Rice, said: “We are delighted to open the Meurig Williams Community Diabetes Centre. It will be the first time in Wales that all these services for patients with diabetes will be located in the same building. This will help to ensure that our patients get all of the correct elements of care that they need.”
Brett Denning, General Manager at Prince Philip Hospital, added: “We have strong ambitions to deliver joint services with our colleagues in the community and as such we see this as a stepping stone for providing similar services in the future.”
County Director for Carmarthenshire, Linda Williams, added: “We are very excited that this new facility will put patients at the centre of the diabetic care we can provide here in Prince Philip, integrating and wrapping primary, community and acute care around the person.”
Dr Robin Ghosal, Hospital Director, added: “Prince Philip Hospital continues to show how it is looking to the future with a vision of integrated health services that centres on the individual.
“The Meurig Williams Community Diabetes Centre is a wonderful addition to the hospital and represents an outstanding example of a multidisciplinary approach to patient care in complex conditions.”
————————————————————————————
Bydd adnodd pwrpasol ar gyfer cleifion diabetes yn Llanelli yn agor mewn adeilad sydd wedi cael ei ailwampio ar safle Ysbyty’r Tywysog Philip.
Mae Gwasanaeth Diabetes Llanelli yn cyd-leoli nifer o wasanaethau cymunedol a gwasanaethau ysbyty gyda’i gilydd yn y ganolfan newydd. Mae’r adeilad wedi cael ei enwi ar ôl Dr Meurig Williams, Uwch Ymgynghorydd Diabetes yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi ymddeol yn ddiweddar.
Mae’r cyfleuster gerllaw’r bloc preswyl yn rhan uchaf y safle a bydd yn gartref i nifer o wasanaethau gan gynnwys Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru, Podiatreg Fasgwlaidd, Clinig Wlserau’r Coesau, Clinigau Arbenigol Nyrsys Diabetes, Seicoleg Glinigol Cyflyrau Cronig, Deieteg, Clinigau Pwmp Inswlin a Chynenedigol, a’r gobaith yw y bydd yn ganolfan un stop ar gyfer cleifion.
Bydd cyfleusterau parcio pwrpasol hefyd ar gael ar gyfer cleifion yn y ganolfan newydd, a fydd yn agor ar 24 Gorffennaf.
Meddai Dr Sam Rice, ymgynghorydd diabetes: “Rydyn ni wrth ein boddau yn cael agor Canolfan Diabetes Gymunedol Meurig Williams. Dyma fydd y tro cyntaf i’r holl wasanaethau ar gyfer cleifion gyda diabetes fod yn yr un adeilad. Bydd hyn yn helpu i wneud yn siŵr bod ein cleifion yn cael yr elfennau iawn o’r gofal sydd eu hangen arnyn nhw.”
Ychwanegodd Brett Denning, Rheolwr Cyffredinol Ysbyty’r Tywysog Philip: “Rydyn ni’n uchelgeisiol iawn ac yn awyddus i ddarparu gwasanaethau ar y cyd â’n cydweithwyr yn y gymuned ac o ganlyniad rydyn ni’n ei ystyried yn gam ymlaen tuag at ddarparu gwasanaethau tebyg yn y dyfodol.”
Yn ôl Linda Williams, y Cyfarwyddwr Sir ar gyfer Sir Gaerfyrddin: “Rydyn ni’n teimlo’n gyffrous iawn gyda’r cyfleuster newydd hwn a fydd yn gwneud yn siŵr bod cleifion yn rhan ganolog o’r gofal diabetes y gallwn ei ddarparu yma yn Ysbyty’r Tywysog Philip, gan integreiddio gwasanaethau a sicrhau bod gofal sylfaenol, gofal cymunedol a gofal acíwt yn canolbwyntio ar yr unigolyn.”
Dywedodd Dr Robin Ghosal, Cyfarwyddwr yr Ysbyty,: “Mae Ysbyty’r Tywysog Philip yn parhau i ddangos ei fod yn flaenllaw a bod ganddo’r weledigaeth o gael gwasanaethau iechyd integredig sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
“Mae Canolfan Diabetes Gymunedol Meurig Williams yn ychwanegiad gwych i’r ysbyty ac mae’n enghraifft ragorol o ddull amlddisgyblaethol o ddarparu gofal i gleifion sydd â chyflyrau cymhleth.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle