Tourists pour £370million in to Carmarthenshire | Mae twristiaid yn cyfrannu £370 miliwn i economi Sir Gaerfyrddin

0
696
Pic: Cllr Peter Hughes Griffiths, Executive Board Member for Sport, Culture and Tourism, at Llanelli’s Millennium Coastal Park

Tourists pour £370million in to Carmarthenshire

 

THE value of tourism in Carmarthenshire has increased again and is now worth a staggering £370million to the local economy.

Carmarthenshire County Council has just received its annual figures from STEAM – the Scarborough Tourism Economic Activity Monitor – which provides an official trend map of tourism throughout the UK and gives a clear picture of the money being spent locally by visitors.

They have revealed that the value of tourism, the impact it has on the local economy, went up by 2.7 per cent in 2016 compared to the previous year.

The number of visitors staying in our hotels, bed and breakfasts, self-catering and tourism caravan sites also rose by 3.6 per cent in 2016 contributing £260million, and those who visited and stayed with friends or family contributed over £40million during the year.

Day visit numbers were down by 1.3 per cent on 2015, thought to be largely due to poor weather during the school summer holidays, but still contributed £68million to the economy.

The figures also confirm good news on the job front, showing that tourism supports 5,638 full time jobs, an increase of 2.3 per cent.

Cllr Peter Hughes Griffiths, Executive Board Member for Sport, Culture and Tourism, said: “These are fantastic figures which continue to show year on year growth in our tourism economy – more than doubling the 1999 economic value of £141million.  

“Carmarthenshire is holding its own in a hugely competitive and diverse tourism market, which shows that we are offering something very special to our visitors.

“We are fortunate to have a stunning mix of coast and countryside, a rich culture and heritage, and a variety of family-friendly attractions.

“We are bringing in visitors in their thousands, and they are clearly helping spread the word about our special county.

“Of course that means that local people are benefitting from more jobs, and businesses in the tourism sector are thriving. It’s wonderful news.”

·         Find out more about what Carmarthenshire has to offer at www.discovercarmarthenshire.com

  

Mae twristiaid yn cyfrannu £370 miliwn i economi Sir Gaerfyrddin

 

Mae gwerth y diwydiant twristiaeth yn Sir Gaerfyrddin wedi cynyddu unwaith eto ac mae bellach yn cynrychioli gwerth syfrdanol o £370 miliwn i’r economi leol.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin newydd dderbyn ei ffigyrau blynyddol drwy fode Monitro Gweithgaredd Twristiaeth Economaidd Scarborough (STEAM), sy’n darparu map swyddogol o dueddiadau twristiaeth ar draws y Deyrnas Unedig ac sy’n rhoi darlun clir o’r arian sy’n cael ei wario yn lleol gan ymwelwyr i’r sir.

Mae wedi datgelu bod gwerth twristiaeth, yr effaith mae’n ei chael ar yr economi leol, wedi cynyddu 2.7% yn 2016 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Mae nifer yr ymwelwyr sy’n aros yn ein gwestai, mewn llety gwely a brecwast, yn hunanarlwyo ac yn aros mewn safleoedd carafannau twristiaeth hefyd wedi codi 3.6% yn 2016, gan gyfrannu £260 miliwn i’r economi, a chyfrannodd yr ymwelwyr a arhosodd gyda ffrindiau neu deulu dros £40 miliwn i’r economi yn ystod y flwyddyn.

Roedd niferoedd yr ymwelwyr undydd wedi gostwng 1.3% ers 2015, sy’n debygol o fod yn sgil tywydd gwael yn ystod gwyliau haf yr ysgolion, ond roeddynt wedi cyfrannu £68 miliwn i’r economi er gwaethaf hynny.

Mae’r ffigyrau hefyd yn cadarnhau newyddion da o ran swyddi, gan ddangos bod twristiaeth yn cefnogi 5,638 o swyddi llawn amser, sy’n gynnydd o 2.3%.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Chwaraeon, Diwylliant a Thwristiaeth: “Mae’r ffigyrau hyn yn wych ac maen nhw’n parhau i ddangos twf o flwyddyn i flwyddyn yn ein heconomi twristiaeth – gan fwy na dyblu ers 1991, pan roedd gwerth economaidd twristiaeth yn £141 miliwn.

“Mae Sir Gaerfyrddin yn dal ei thir mewn marchnad amrywiol sy’n gystadleuol dros ben, ac mae hynny’n dyst ein bod yn cynnig rhywbeth arbennig iawn i’n hymwelwyr.

“Rydym yn ffodus bod gennym gymysgedd trawiadol o arfordir a chefn gwlad, treftadaeth a diwylliant cyfoethog ac amrywiaeth o atyniadau sy’n addas i’r teulu.

“Rydym yn denu miloedd o ymwelwyr ac maen nhw’n amlwg yn helpu i ledaenu’r neges am ein sir arbennig.

“Wrth gwrs, mae hynny’n golygu bod pobl leol yn elwa ar ragor o swyddi, ac mae busnesau yn y sector twristiaeth yn ffynnu. Mae hynny’n newyddion gwych.”

·         I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn mae Sir Gaerfyrddin yn ei gynnig ewch i: www.darganfodsirgar.com


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle