Transforming Clinical Services – Public / stakeholder workshop event in Carmarthenshire / Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol – digwyddiad gweithdy ar gyfer y cyhoedd / rhanddeiliaid yn Sir Gaerfyrddin

0
901

Transforming Clinical Services – Public / stakeholder workshop event in Carmarthenshire / Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol – digwyddiad gweithdy ar gyfer y cyhoedd / rhanddeiliaid yn Sir Gaerfyrddin

Hywel Dda University Health Board is inviting residents in Carmarthenshire to come and speak with clinicians about Transforming Clinical Services (www.hywelddahb.wales.nhs.uk/tcs) next Thursday (3 August).
We want everyone to have a good experience of our services and we also want to make sure that we spend your money wisely. We believe the best way to do this is to connect with local people, our staff and with partner organisations in order to jointly think about how best to run services.
‘Transforming Clinical Services’ invites you to join in our big conversation about our local NHS. We want to talk to and hear from patients, the public, carers, Community Health Councils, local authorities, the third sector – in fact everyone who uses, cares about or interacts with our services. We want to listen to the views and experiences of many people and groups to help develop a range of solutions that genuinely meet the needs of our communities.
The four key things we think we must do better:
Quality of care
Meeting the changing needs of patients
Making our resources go further
Joining up services
Where do we need to make changes in these services?
Out of hospital care
Urgent and emergency care
Planned care
The event in Carmarthenshire will take place on the following date:
Carmarthenshire
Thursday 3 August 2017 at 2pm, Tumble Hall, Heol-y-Neuadd, Tumble SA14 7DJ.
Please book in to attend this event online:
https://www.eventbrite.co.uk/e/transforming-clinical-services-tickets-35934860134
Dr Phil Kloer, Medical Director and Director of Clinical Services Strategy, said: “At the heart of Transforming Clinical Services is one question: ‘How can we design services to meet the future healthcare needs of our local population, and help drive population health improvement in Mid and West Wales.’ We face a range of challenges and recognise that currently services are not as good as we would want them to be. We feel strongly that our residents deserve the best possible care and support to lead healthier lives.”
“We don’t want to assume we know best; we want to listen to our staff, patients and the public to understand what future improvements they want to see and then work together to achieve these over the next few years. This engagement exercise is the first step – we have not made any decisions, we want to hear everyone’s ideas, and to do this we have produced an “issues paper” for people to read and consider as well as a questionnaire to share their feedback. We are also running a series of online sessions to find out what people think.”
This is an exciting opportunity for anyone who works in the NHS or uses NHS services to be part of a very important conversation – we hope to see you there!
—————————————————————————————————–
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gwahodd bobl yn Sir Gaerfyrddin i siarad â chlinigwyr ynglyn â Thrawsnewid Gwasanaethau Clinigol (www.bihyweldda.wales.nhs.uk/tgc) ddydd Iau nesaf (3 Awst).
Rydym am i bawb gael profiad da o’n gwasanaethau, ac rydym hefyd am wneud yn siwr ein bod yn gwario eich arian yn ddoeth. Rydym yn credu mai’r ffordd orau o wneud hynny yw drwy ymgysylltu â phobl leol, ein staff a’n sefydliadau partner er mwyn cydystyried y ffordd orau o redeg gwasanaethau.
Mae ‘Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol’ yn eich gwahodd chi i ymuno yn ein sgwrs fawr am y GIG yn lleol. Rydym am siarad a chlywed wrth cleifion, y cyhoedd, gofalwyr, Cynghorau Iechyd Cymuned, awdurdodau lleol, y trydydd sector – hynny yw, pawb sy’n defnyddio ein gwasanaethau, sy’n poeni amdanynt neu sy’n rhyngweithio â nhw. Rydym am wrando ar farn a phrofiadau llawer o bobl a grwpiau er mwyn helpu i ddatblygu ystod o atebion i ddiwallu anghenion ein cymunedau’n wirioneddol.
Y pedwar peth allweddol yr ydym yn credu bod yn rhaid i ni eu gwneud yn well:
Ansawdd gofal
Diwallu anghenion cleifion – sy’n newid
Cyflawni mwy â’r adnoddau sydd gennym
Cydgysylltu gwasanaethau
Ble y mae angen i ni wneud newidiadau?
Gofal y tu allan i’r ysbyty
Gofal brys a gofal mewn argyfwng
Gofal wedi’i gynllunio
Bydd y digwyddiad yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu cynnal ar y dyddiad canlynol:
Sir Gaerfyrddin
Dydd Iau 3 Awst 2017 am 2yp, Neuadd Tymbl, Heol-y-Neuadd, Tymbl SA14 7DJ
Cofrestrwch i fynychu’r digwyddiad hwn ar lein:
https://www.eventbrite.co.uk/e/trawsnewid-gwasanaethau-clinigol-tickets-35935321514
Yn ogystal â’r uchod, bydd y bwrdd iechyd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar-lein â’r nod o gasglu barn rhanddeiliaid a’r cyhoedd trwy gyfryngau cymdeithasol – ewch i’n tudalennau Facebook a Twitter am fwy o wybodaeth.
Dywedodd Dr Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol a Chyfarwyddwr Strategaeth Gwasanaethau Clinigol: “Wrth wraidd Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol mae un cwestiwn: ‘Sut allwn ni gynllunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion gofal iechyd ein poblogaeth leol i’r dyfodol, a helpu i hybu gwella iechyd y boblogaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.’ Rydym yn wynebu ystod o heriau ac yn cydnabod nad yw gwasanaethau ar hyn o bryd cystal ag y byddem am iddynt fod. Teimlwn yn gryf fod ein trigolion yn haeddu’r gofal a’r gefnogaeth gorau posibl i fyw bywydau iachach.”
“Nid ydym am gymryd yn ganiataol ein body n gwybod orau; rydym am glywed yr hyn sydd gan ein staff, cleifion a’r cyhoedd i’w ddweud, deall pa welliannau maen nhw am weld yn y dyfodol ac yna cyd-weithio i gyflawni’r rhain dros y blynyddoedd nesaf. Yr ymarfer ymgysylltu hwn yw’r cam cyntaf – nid ydym wedi gwneud unrhyw benderfyniadau, rydym am glywed synladau pawb, ac er mwyn gwneud hyn rydym wedi cynhyrchu “papur materion” i bobl ei ddarllen a’i ystyried yn ogystal â holiadur er mwyn i bobl rannu adborth. Rydym hefyd yn cynnal cyfres o sesiynau ar lein er mwyn canfod barn pobl.”
Mae hyn yn gyfle cyffrous i unrhyw un sy’n gweithio yn y GIG neu’n defnyddio gwasanaethau’r GIG i fod yn rhan o drafodaeth bwysig iawn – gobeithio y gwelwn ni chi yno!


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle