Online bookings now available for Pembrey Country Park | Archebu ar-lein ar gyfer Parc Gwledig Pen-bre

0
1112

Online bookings now available for Pembrey Country Park

 

VISITORS to Pembrey Country Park can now to book their accommodation online with the launch of a new system.

The move follows increasing demand for bookings at the site which has grown in popularity over recent years.

Around 20 thousand people stayed at the camping site last year.

Additional resources have now been invested in the facility to improve the booking system and make it more accessible for visitors.

The new mobile friendly widget will ease the booking process for campers, caravaners and staff, freeing up valuable time to provide an even better service to visitors of the park.

Leisure executive board member Cllr Peter Hughes Griffiths said: “Pembrey Country Park is a wonderful attraction right here on our doorstep, and it is becoming more and more popular with people wanting to pitch their tents or caravans.

“It’s the ideal location for a short break, a base to explore the area, or a family holiday.

“The new online booking system will make it so much easier for people, it’s a 24-hour facility and at the touch of a button you can secure your place.”

Pembrey Country Park also offers a limited number of serviced and non-serviced seasonal pitches for those who want to stay regularly between March and October.

The park and its award winning Cefn Sidan beach is firmly established as one of Wales’ top attractions with around a million visitors every year.

Attractions and activities include a dry ski slope, toboggan ride, crazy golf, pitch and putt, train rides, adventure play area, equestrian centre, a variety of nature trails and picnic areas.

·         To book your break away go to www.pembreycountrypark.wales  and click on the caravan.

Archebu ar-lein ar gyfer Parc Gwledig Pen-bre
 

GALL ymwelwyr â Pharc Gwledig Pen-bre bellach archebu eu llety ar-lein drwy system newydd sydd wedi cael ei lansio.

Mae’r datblygiad yn dilyn y galw cynyddol am archebion ar y safle sydd wedi dod yn fwy poblogaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Arhosodd tua 20 mil o bobl ar y maes gwersylla y llynedd.

Mae adnoddau ychwanegol bellach wedi cael eu buddsoddi yn y cyfleuster i wella’r system archebu a’i gwneud yn fwy hwylus i ymwelwyr.

Bydd y system ar-lein newydd sy’n addas ar gyfer ffonau symudol yn hwyluso’r broses archebu ar gyfer gwersyllwyr, carafanwyr a staff, gan ryddhau amser gwerthfawr i ddarparu gwasanaeth gwell byth i’r rhai sy’n ymweld â’r parc.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Hamdden: “Mae Parc Gwledig Pen-bre yn atyniad gwych ar garreg ein drws, ac mae’n dod yn fwyfwy poblogaidd gan fod pobl am ddod â’u pebyll neu eu carafannau i’r parc.

“Mae’n lleoliad delfrydol i gael gwyliau byr, i grwydro’r ardal, neu i gael gwyliau i’r teulu.

“Bydd y system ar-lein newydd yn gwneud archebu’n haws o lawer i bobl. Mae’n gyfleuster 24 awr y dydd a thrwy wasgu botwm gallwch sicrhau eich lle.”

Mae Parc Gwledig Pen-bre hefyd yn cynnig nifer gyfyngedig o leiniau tymhorol â gwasanaeth a heb wasanaeth ar gyfer y rhai sydd am aros yn rheolaidd rhwng mis Mawrth a mis Hydref.

Mae’r parc, sy’n cynnwys traeth Cefn Sidan sydd wedi ennill gwobrau, wedi’i sefydlu’n un o brif atyniadau Cymru ac mae’n denu tua miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn.

Mae’r atyniadau a’r gweithgareddau yn cynnwys llethr sgïo sych, rhedfa dobogan, golff giamocs, pitsio a phytio, reidiau trên, llecyn chwarae antur, canolfan farchogaeth, amrywiaeth o lwybrau antur a lleoedd picnic.

·         I drefnu eich gwyliau ewch i www.pembreycountrypark.wales a chliciwch ar y garafán.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle