New three-month sexual health pilot scheme launched / Lansio cynllun peilot newydd tri mis ar gyfer iechyd rhywiol

0
971

Patients living in Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire can now take advantage of a new pilot service aimed at making it easier to check if they have any sexual health worries without having to see a doctor or nurse.
The three-month “Test and Go” pilot, which launched in June, is a minimal contact service for people who do not have any symptoms or concerns, but who would like to take a sexual health test for peace of mind. 
Patients who request the service will be invited to a specialist clinic and given a pack with instructions to test for chlamydia and gonorrhoea. Blood tests for HIV and syphilis can also be carried out at this time if requested.
Patients will be shown to a bathroom where they are asked to provide a swab or sample, which they simply leave in a specimen container before they leave.
Results are usually sent to patients via text message within 7-10 days, and the text message will either explain that all results are negative – meaning that no infection has been found – or, the text message will advise patients to contact the clinic to make a further appointment.
Lisa Humphrey, Service Delivery Manager for Sexual Health and Gynaecology at Hywel Dda University Health Board, said: “Very often we find that patients might not have any specific symptoms to indicate a sexual health problem, but they still want to be screened anyway for their own peace of mind.
“The Test and Go pilot is about providing a quick and easy way for them to test themselves, without needing to see a doctor or nurse.  This has the advantage of freeing up clinical and consultation times.”
Hywel Dda’s Sexual Health Service offers open access and appointed clinics in a variety of locations offering contraception, sexual health screening, pregnancy testing, cervical screening and information and advice about sexual health.
For more information on “Test and Go” or to book an appointment, phone the Sexual Health Service on 01267 248674.
For more information on Sexual Health Services visit the new-look webpage at www.hywelddahb.wales.nhs.uk/SexualHealth
————————————————————————————-
Bellach gall cleifion sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro fanteisio ar wasanaeth peilot newydd sy’n ceisio ei gwneud yn haws i bobl gael profion heb orfod gweld meddyg neu nyrs os oes ganddynt unrhyw bryderon ynghylch iechyd rhywiol.
Mae’r cynllun peilot tri mis, “Profi a Mynd” (“Test and Go”), a lansiwyd ym mis Mehefin, yn wasanaeth hwylus i bobl nad oes ganddynt unrhyw symptomau na phryderon, ond sydd am gael prawf iechyd rhywiol er mwyn cael tawelwch meddwl.
Bydd cleifion sy’n gwneud cais am y gwasanaeth yn cael eu gwahodd i glinig arbenigol ac yn cael pecyn sy’n cynnwys cyfarwyddiadau ynglŷn â phrofi am glamydia a gonorrhoea. Gall profion gwaed ar gyfer HIV a siffilis gael eu gwneud ar yr adeg hon hefyd os gofynnir am hynny.
Bydd cleifion yn cael eu tywys i ystafell ymolchi, lle y gofynnir iddynt ddarparu swab neu sampl a’i roi mewn cynhwysydd sbesimen cyn iddynt adael.
Fel arfer, anfonir canlyniadau at gleifion trwy neges destun o fewn 7-10 niwrnod, a bydd y neges destun naill ai’n egluro bod yr holl ganlyniadau’n negyddol – gan olygu nad oes unrhyw haint wedi cael ei ganfod – neu, bydd y neges destun yn cynghori cleifion i gysylltu â’r clinig i wneud apwyntiad arall.
Dywedodd Lisa Humphrey, Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau Iechyd Rhywiol a Gynaecoleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Yn aml iawn rydym yn gweld efallai nad oes gan gleifion unrhyw symptomau penodol i awgrymu bod ganddynt broblem iechyd rhywiol, ond maent am gael eu sgrinio beth bynnag, er mwyn cael tawelwch meddwl.
“Bwriad y cynllun “Profi a Mynd” yw darparu ffordd gyflym a hawdd iddynt brofi eu hunain, heb fod angen iddynt weld meddyg neu nyrs. Mae i hyn y fantais o ryddhau amser ar gyfer ymgynghori meddygol a chlinigau.”
Mae Gwasanaeth Iechyd Rhywiol Hywel Dda yn cynnig clinigau mynediad agored a phenodedig mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae’r clinigau hyn yn cynnig dulliau atal cenhedlu, sgrinio iechyd rhywiol, profion beichiogrwydd, sgrinio ceg y groth a gwybodaeth a chyngor ar iechyd rhywiol.
I gael rhagor o wybodaeth am “Profi a Mynd”, neu i drefnu apwyntiad, ffoniwch y Gwasanaeth Iechyd Rhywiol ar 01267 248674.
I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaethau Iechyd Rhywiol ewch i’r dudalen we newydd www.bihyweldda.wales.nhs.uk/IechydRhywiol


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle