Help shape your NHS services and take part in Hywel Dda UHB’s Live Facebook Events | Byddwch yn rhan o ddigwyddiadau byw Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar Facebook, a helpwch i lunio eich gwasanaethau GIG

0
873

Hywel Dda University Health Board (UHB) is hosting two live Facebook events in August for people to find out more and feedback their views on the current Transforming Mental Health Services consultation and the ongoing Transforming Clinical Services discussion exercise.
On Monday 21 August between 6pm and 8pm, the discussion will focus on our Transforming Mental Health Services. Staff from our Mental Health Services will be logged on to Hywel Dda UHB’s English Facebook page (www.facebook.com/hywelddahealthboard) to talk to about our proposals.
As part of this formal consultation, we are asking for your views on what we are trying to achieve for our Mental Health Service. We want a service that accessible by all 24 hours a day, has no waiting lists, moves away from hospital admission and treatment to hospitality and time out and provides day time out and opportunities.
Then on Tuesday 29 August between 6pm and 8pm, clinicians will be available to talk to at www.facebook.com/hywelddahealthboard about Transforming Clinical Services, our big conversation about our local NHS.
We want to talk to and hear from patients, the public, carers, Community Health Councils, local authorities, the third sector – in fact everyone who uses, cares about or interacts with our services. We want to listen to the views and experiences of many people and groups to help develop a range of solutions that genuinely meet the needs of our communities.
If you can’t join us but would like to ask a question, please send these to communications.hdd@wales.nhs.uk and these will be put to the panel. All questions and answers from the events will be made available on our website www.hywelddahb.wales.nhs.uk.
To find out more and to access easy read, audio and Polish translations of our documents, please visit www.hywelddahb.wales.nhs.uk/mentalhealth for Transforming Mental Health Services and for more on Transforming Clinical Services visit www.hywelddahb.wales.nhs.uk/TCS. If you require these documents in another format or do not have access to the Internet these are available by phoning 01554 899056.
Like Hywel Dda Health Board’s English Facebook page at www.facebook.com/hywelddahealthboard to access our live Facebook events. If you’d like to follow Hywel Dda UHB on social media you can also like our Welsh Facebook page at www.facebook.com/bwrddiechydhyweldda, follow us on Twitter @HywelDdaHB (English), @BIHywelDda (Welsh) or subscribe to our You Tube channel www.youtube.com/HywelDdaHealthBoard1

Byddwch yn rhan o ddigwyddiadau byw Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar Facebook, a helpwch i lunio eich gwasanaethau GIG

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnal dau ddigwyddiad byw ar Facebook ym mis Awst fel y gall pobl ganfod mwy a rhoi adborth a barn ar yr ymgynghoriad ar Drawsnewid Gwasanaethau Iechyd Meddwl a’r ymarfer trafod ynghylch Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol.
Ar ddydd Llun 21 Awst rhwng 6pm a 8pm, bydd y trafodaethau’n ffocysu ar Drawsnewid ein Gwasanaethau Iechyd Meddwl. Bydd staff o’n Gwasanaethau Iechyd Meddwl wedi logio ar dudalen Facebook Saesneg y Bwrdd Iechyd (www.facebook.com/hywelddahealthboard) er mwyn trafod ein cynigion.
Yn rhan o’r ymgynghoriad ffurfiol hwn, rydym yn gofyn am eich barn ar yr hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer ein Gwasanaeth Iechyd Meddwl. Rydym am wasanaeth sydd ar gael i bawb 24 awr y dydd, heb restrau aros, sy’n symud oddi wrth dderbyn i ysbyty a thriniaeth mewn ysbyty i letygarwch a chyfleoedd amser allan.
Yna ar ddydd Mawrth 29 Awst rhwng 6pm a 8pm, bydd clinigwyr ar gael i siarad â nhw yn www.facebook.com/hywelddahealthboard ynghylch Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol, ein sgwrs fawr ar ein GIG lleol.
Rydym am siarad a gwrando ar gleifion, y cyhoedd, gofalwyr, Cynghorau Iechyd Cymunedol, awdurdodau lleol, y trydydd sector – mewn gwirionedd, pawb sy’n defnyddio neu’n rhyngweithio â’n gwasanaethau. Rydym am wrando ar farn a phrofiadau llawer o bobl a grwpiau er mwyn helpu i ddatblygu ystod o atebion sydd wir yn diwallu anghenion ein cymunedau.
Os na allwch ymuno â ni, ond yn dymuno gofyn cwestian, anfonwch eich cwestiwn at communications.hdd@wales.nhs.uk a bydd yn cael ei roi o flaen y panel. Bydd pob cwestiwn ac ateb o’r digwyddiadau ar gael ar ein gwefan www.bihyweldda.wales.nhs.uk.
I ganfod mwy ac i gael copi hawdd ei ddeall, awdio a chyfieithiadau o’n dogfennau, ewch i www.bihyweldda.wales.nhs.uk/iechyd meddwl i weld mwy ar Drawsnewid Gwasanaethau Iechyd Meddwl a mwy ar Drawsnewid Gwasanaethau Clinigol ewch i www.bihyweldda.wales.nhs.uk/TGC. Os oes angen y dogfennau hyn mewn fformat arall neu os nad oes mynediad gennych i’r Rhyngrwyd, ffoniwch 01554 899056.
Hoffwch dudalen Saesnef Facebook y Bwrdd Iechyd yn www.facebook.com/hywelddahealthboard i gael mynediad at ein digwyddiadau Facebook byw. Os y dymunwch ddilyn BIP Hywel Dda ar y cyfryngau cymdeithasol, hoffwch ein tudalen Facebook Cymraeg yn www.facebook.com/bwrddiechydhyweldda, ein dilyn ar Twitter yn @BIHywelDda (Cymraeg), @HywelDdaHB (Saesneg) neu danysgrifio i’n sianel You Tube www.youtube.com/HywelDdaHealthBoard1


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle