Free parking for Batmobiles and superheroes | Parcio am ddim ar gyfer y Batmobile ac archarwyr

0
1926

Free parking for Batmobiles and superheroes

 

KAPOW! Visitors to Llanelli Town Centre can park their batmobiles in Carmarthenshire County Council car parks for free on Friday.

The council is supporting a Superheroes Day being put on by the Llanelli Business Improvement District (BID) team on Friday, August 25.

Batman will be calling in to do some shopping in town between 12 and 3pm, but everyone else can take advantage of free parking throughout the day.

The council waives the fees in its car parks on five separate occasions in Carmarthenshire towns throughout the year as one of its initiatives to boost trade in the retail, hospitality and business sectors.

Over 15,000 free spaces are made available per year – a major additional incentive to increase footfall in the towns as part of a larger planned campaign or event by BID teams and Chambers of Trade.

On August 25, parking will be free at council car parks in Murray Street Multi Storey, Church Street, Thomas/Edgar Street, Vauxhall Road, and East Gate in Llanelli.

Cllr Hazel Evans, Executive Board Member for Transport, said: “We are pleased to support the Superheroes Day in Llanelli Town Centre by providing free parking at our car parks.

“We hope it will be a successful day for traders, event organisers and of course visitors, and I’m sure Batman will be pleased he can park his Batmobile without having to carry any spare change!”

The council’s support of town centre events is just one of the ways it helps event organisers.

It also runs an Event Organisers Circle, a network of new and experienced event organisers, and also provides funding for some events.

Further information can be found at www.carmarthenshire.gov.wales.

Parcio am ddim ar gyfer y Batmobile ac archarwyr

 

KAPOW! Gall ymwelwyr i ganol tref Llanelli barcio eu batmobiles ym meysydd parcio Cyngor Sir Caerfyrddin am ddim ddydd Gwener.

Mae’r Cyngor yn cefnogi Diwrnod Archarwyr sy’n cael ei gynnal gan y tîm Ardal Gwella Busnes Llanelli ddydd Gwener, 25 Awst.

Bydd Batman yn galw heibio i siopa yn y dref rhwng 12 a 3pm, ond gall pawb arall gymryd mantais ar barcio yn rhad ac am ddim drwy gydol y dydd.

Mae’r Cyngor yn ildio’r ffioedd yn ei feysydd parcio ar bum achlysur gwahanol yn nhrefi Sir Gaerfyrddin drwy gydol y flwyddyn fel un o’i fentrau i hybu masnach yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a busnes.

Mae dros 15,000 o leoedd am ddim ar gael y flwyddyn – sy’n gymhelliant ychwanegol sylweddol i gynyddu nifer yr ymwelwyr yn y trefi fel rhan o ymgyrch mwy o faint sydd wedi’i gynllunio neu ddigwyddiad gan y timau Ardal Gwella Busnes a Siambrau Masnach.

Bydd parcio am ddim ar 25 Awst ym meysydd parcio’r Cyngor gan gynnwys maes parcio aml-lawr Stryd Murray, Heol yr Eglwys, Stryd Thomas/Edgar, Ffordd Vauxhall, a Phorth y Dwyrain yn Llanelli.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Drafnidiaeth: “Rydym yn falch o gefnogi’r Diwrnod Archarwyr yng nghanol tref Llanelli drwy ddarparu parcio am ddim yn ein meysydd parcio.

“Rydym yn gobeithio y bydd yn ddiwrnod llwyddiannus ar gyfer masnachwyr, trefnwyr ac, wrth gwrs, ymwelwyr, ac rwy’n siŵr bydd Batman yn falch y bydd yn gallu parcio ei Batmobile heb orfod cario unrhyw arian mân!”

Mae cefnogaeth y cyngor i ddigwyddiadau canol y dref yn un o’r ffyrdd y mae’n helpu trefnwyr digwyddiadau.

Mae hefyd yn cynnal Cylch Trefnwyr Digwyddiadau, rhwydwaith o drefnwyr newydd a phrofiadol, ac mae hefyd yn darparu cyllid ar gyfer rhai digwyddiadau.

Gellir cael rhagor o wybodaeth yn www.sirgar.llyw.cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle