U18 advice given to members clubs and landlords | Cyngor dan 18 i glybiau aelodau a landlordiaid

0
686

U18 advice given to members clubs and landlords

 

Clubs and bars across the county have been urged to take care when accepting bookings for events that may attract large numbers of guests who are under 18 – particularly when GCSE results will be announced.

Carmarthenshire licensing officers along with Dyfed Powys Police have been working with licensed premises to ensure effective systems are in place to deal with bookings that may cause problems for clubs and wider communities.

Advice has been circulated asking that extra care is taken to scrutinise bookings and to ensure that measures are in place to prevent the sale of alcohol to under 18s, and prevent the consumption of alcohol by minors on licensed premises.

Landlords have also been asked to ensure effective arrangements are in place to monitor and control areas around their premises where youths may gather.

Landlords will be asking all adults making bookings at their premises to confirm their booking in person and confirm that adequate adults will be in attendance to supervise younger guests.

Cllr Philip Hughes, Executive Board Member for Public Protection, said: “This is a time of year when traditionally there can be issues with minors attending licensed premises to celebrate GCSE results. As in previous years, we are working with licensed premises and Dyfed Powys Police to offer advice and prepare for any potential issues. In particular, we are asking licensed premises to ensure that all events are properly managed.”

Inspector Richard Janas of Dyfed Powys Police, added: “It is understandable that people want to celebrate their exam success, however it is important to be mindful that getting into trouble following a night out can affect your future life and career prospects. We would therefore ask that young people drink alcohol responsibly and be aware of their limits.”

Carmarthenshire County Council, as the licensing authority, has reminded landlords of their responsibilities in ensuring the prevention of crime and disorder, preventing public nuisance, protecting children from harm, and ensuring public safety, and has warned that licences and certificates may be reviewed if evidence suggests that licensing objectives have not been promoted.

For further information on licensing, visit the council’s website, www.carmarthenshire.gov.walesCyngor dan 18 i glybiau aelodau a landlordiaid

 

Mae clybiau a bariau ledled y sir yn cael eu hannog i gymryd gofal wrth dderbyn archebion ar gyfer digwyddiadau a allai ddenu nifer fawr o westeion sydd o dan 18 oed – yn enwedig pan fydd canlyniadau TGAU yn cael eu cyhoeddi.

Mae swyddogion trwyddedu Sir Gaerfyrddin a Heddlu Dyfed Powys wedi bod yn gweithio gyda safleoedd trwyddedig er mwyn sicrhau bod systemau effeithiol ar waith i ymdrin ag archebion a allai achosi problemau ar gyfer clybiau a chymunedau yn ehangach.

Mae cyngor wedi cael ei gylchredeg yn nodi y dylid craffu ar archebion yn fanwl a sicrhau bod mesurau ar waith i atal gwerthu alcohol i’r rhai o dan 18 oed, ac atal plant dan oed rhag yfed alcohol ar safleoedd trwyddedig.

Gofynnwyd i landlordiaid hefyd i sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith er mwyn monitro a rheoli mannau o gwmpas eu safleoedd lle gallai pobl ifanc ymgynnull.

Bydd landlordiaid yn gofyn i bob oedolyn sy’n archebu digwyddiad yn eu safleoedd i gadarnhau’r archeb wyneb yn wyneb a chadarnhau y bydd digon o oedolion yn bresennol er mwyn goruchwylio gwesteion iau.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu’r Cyhoedd: “Dyma’r adeg o’r flwyddyn yn draddodiadol y gall problemau ddod i’r amlwg wrth i bobl ifanc dan oed fynd i safleoedd trwyddedig i ddathlu eu canlyniadau TGAU. Yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol, rydym yn gweithio gyda safleoedd trwyddedig a Heddlu Dyfed Powys i gynnig cyngor a pharatoi ar gyfer unrhyw broblemau posibl. Yn benodol, rydym yn gofyn i safleoedd trwyddedig i sicrhau bod pob digwyddiad yn cael ei reoli’n gywir.”

Ychwanegodd yr Arolygydd Richard Janas o Heddlu Dyfed Powys: “Mae’n ddealladwy bod pobl am i ddathlu eu llwyddiant yn yr arholiadau, fodd bynnag, mae’n bwysig cofio bod mynd i drwbl yn dilyn noson allan yn gallu effeithio ar eich bywyd a rhagolygon eich gyrfa yn y dyfodol. Byddem felly yn gofyn i bobl ifanc yfed alcohol mewn modd cyfrifol a bod ymwybodol o’u terfynau.”

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, sef yr awdurdod trwyddedu, wedi atgoffa landlordiaid o’u cyfrifoldebau o ran sicrhau atal troseddu ac anrhefn, atal niwsans cyhoeddus, amddiffyn plant rhag niwed, a sicrhau diogelwch cyhoeddus, ac mae wedi rhybuddio y gallai trwyddedau a thystysgrifau gael eu hadolygu os yw’r dystiolaeth yn awgrymu nad yw’r amcanion trwyddedu wedi cael eu hyrwyddo.

Am ragor o wybodaeth am drwyddedu, ewch i wefan y Cyngor www.sirgar.llyw.cymru


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle