Local residents have been sharing their views and ideas about the future of adult mental health services across Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire.
As part of a formal consultation ‘Transforming Mental Health Services’, Hywel Dda University Health Board has been engaging with local communities, service users, their carers and families, as well as other key stakeholders and partners, to gather views about how we can change adult mental health services for the better across the three counties.
Libby Ryan-Davies, Director of Transformation, said: “We’re now halfway through the consultation process and we’re very pleased that people have been making the time to get involved during the last few weeks.
“We’ve experienced very meaningful engagement and we have been listening to what members of the public and staff have to say through a number of ways, such as events, meetings and online.
Dr Warren Lloyd, Associate Medical Director & Clinical Director for Mental Health added: “Some key themes are already emerging from the feedback, including some concern around centralisation of services, transport issues and how a proposed new service will work, all of which we are addressing. There has been encouraging feedback about the proposed model from service users and carers and we have received a positive response specifically in relation to having a free 24/7 single point of contact for service users. People have also welcomed the good level of engagement around the consultation so far.”
‘The Journey to Recovery’ asks people for their opinions on proposals to change how we provide care and treatment to meet the mental health needs of people now as well as future generations. Learning disability services and children’s services are not part of this consultation.
Having discussed and explored the issues that current services encounter together with the people most affected we have worked together to co-design a model that encompasses:
• 24 hour services – ensuring anyone who needs help can access a mental health centre for support at any time of the day or night
• No waiting lists – so that people receive first contact with mental health services within 24 hours and for their subsequent care to be planned for in a consistent and supportive way
• Community focus – to stop admitting people to hospital when it isn’t the best option and provide support in the community when people need time away from home, extra support or protection
• Recovery and resilience – services that don’t purely focus on treating or managing symptoms, but instead help people to live independent, fulfilling lives with the help and support they need
Angie Darlington, Director of West Wales Action for Mental Health (WWAMH) said: “Over the last two years we have worked with a variety of service users, carers, organisations and interest groups, I would encourage everyone to get involved with this consultation, to make their views known. It is great to see such energy and determination to work together to improve mental health services across Wales. This consultation offers a fantastic opportunity to develop forward thinking recovery focused mental health services, that offer care, compassion and proactive support. By working together to shape this work we can all make a positive difference.”
To take part, residents are asked to read our issues paper and answer an accompanying questionnaire by 15 September 2017. An easy read version is also available.
You can complete our questionnaire online at: https://www.surveymonkey.co.uk/r/HywelDdaUHBMentalHealthServices
Documents can be accessed or requested by:
• Emailing: hyweldda.engagement@wales.nhs.uk
• Visiting our website: www.hywelddahb.wales.nhs.uk/mentalhealth
• Writing to us at: FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD
• Calling us on: 01554 899 056 (please leave a message for us)
It is important to note that, as a result of our ongoing conversations with our public about ‘Transforming Mental Health’ some of the technical and supporting documentation may be updated in order to provide further clarity or detail where considered necessary. We are asking people to make sure they are looking at the latest version of these materials.
If anyone who has already submitted their views or questionnaire feels that any such changes may affect their submission, they can resubmit their views by the closing date (15 September).
Mae trigolion lleol wedi bod yn rhannu eu barn a’u syniadau ar ddyfodol gwasanaethau iechyd meddwl oedolion ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Yn rhan o ymgynghoriad ffurfiol ‘Trwsnewid Gwasanaethau Iechyd Meddwl’, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn ymgysylltu â chymunedau, defnyddwyr gwasanaeth, eu gofalwyr a’u teuluoedd, yn ogystal â rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol eraill, er mwyn casglu barn ar sut y gallwn newid gwasanaethau iechyd meddwl oedolion erg well ar draws y tair sir.
Dywed Libby Ryan-Davies, Cyfarwyddwr Trawsnewid: “Bellach, rydym hanner ffordd trwy’r broses ymgynghori ac rydym yn bles iawn bod pobl wedi rhoi o’u hamser i gymryd rhan yn ystod yr wythnosau diwethaf.
“Rydym wedi profi ymgysylltu ystyrlon iawn ac rydym wedi bod yn gwrando ar farn y cyhoedd a staff mewn nifer o ffyrdd, megis mewn digwyddiadau, cyfarfodydd ac ar-lein.
Ychwanegodd Dr Warren Lloyd, Cyfarwyddwr Meddygol Cysylltiol a Chyfarwyddwr Meddygol Iechyd Meddwl: “Mae rhai themâu allweddol wedi codi o’r adborth, yn cynnwys rhywfaint o bryder ynghylch canoli gwasanaethau, materion ar drafnidiaeth a sut y bydd y gwasanaeth arfaethedig yn gweithio – rydym yn mynd i’r afael â phob un ohonynt. Rydym wedi cael adborth calonogol am y model arfaethedig wrth ddefnyddwyr a gofalwyr ac rydym wedi cael ymateb cadarnhaol yn arbennig mewn perthynas â chael un pwynt cyswllt 24/7 am ddim ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth. Mae pobl hefyd wedi croesawu’r lefel dda o ymgysylltu ar yr ymgynghoriad hyd yn hyn.”
Mae ‘Y Daith at Adferiad’ yn gofyn i bobl i roi eu barn ar y cynigion i newid sut yr ydym yn darparu gofal a thriniaeth i ddiwallu anghenion iechyd meddwl pobl – nawr ac i’r dyfodol. Nid yw gwasanaethau anableddau dysgu na gwasanaethau plant yn rhan o’r ymgynghoriad hwn.
Ar ôl trafod ac archwilio’r materion y mae’r gwasanaethau presennol yn eu hwynebu ynghyd â’r bobl sy’n cael eu heffeithio fwyaf, rydym wedi cyd-weithio i gyd-ddylunio model sy’n cwmpasu:
• Gwasanaethau 24 awr – gan sicrhau bod unrhyw un sydd angen help yn medru cael mynediad at ganolfan iechyd meddwl am gymorth ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos
• Dim rhestrau aros – fel bod pobl yn cael cyswllt cyntaf â’r gwasanaethau iechyd meddwl o fewn 24 awr, a bod eu gofal dilynol yn cael ei gynllunio mewn modd cyson a chefnogol
• Ffocws cymunedol – rhoi terfyn ar dderbyn pobl i ysbyty pan nad dyma’r opsiwn gorau, a darparu cymorth yn y gymuned pan mae angen amser i ffwrdd o adref, cymorth neu amddiffyn ychwanegol
• Adferiad a gwydnwch – gwasanaethau nad ydynt yn ffocysu’n llwyr ar drin neu reoli symptomau, ond yn hytrach yn helpu pobl i fyw bywydau llawn ac annibynnol gyda’r help a’r gefnogaeth sydd eu hangen
Dywedodd Angie Darlington, Cyfarwyddwr Gweithredu dros Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru: “Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi gweithio gyda nifer o ddefnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, sefydliadau a grwpiau diddordeb, ac rwy’n annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn, i leisio’u barn. Mae’n wych gweld egni a phenderfyniad o’r fath i gyd-weithio i wella gwasanaethau iechy dmeddwl ar draws Cymru. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle arbennig i ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl blaengar sy’n canolbwyntio ar adferiad, sy’n cynnig gofal, tosturi a chefnogaeth tosturiol. Trwy gydweithio i lunio’r gwaith hwn gall pob un ohonom wneud gwahaniaeth cadarnhaol.”
I gymryd rhan, rydym yn gofyn i drigolion i ddarllen ein papur materion, a llenwi holiadur cysylltiedig erbyn 15 Medi 2017. Mae fersiwn hawdd ei ddeall ar gael hefyd.
Gallwch hefyd lenwi ein holiadur ar-lein yn: https://www.surveymonkey.co.uk/r/BIPHywelDda_IechydMeddwl
I weld y dogfennau, neu i wneud cais amdanynt:
• Ebostiwch: hyweldda.engagement@wales.nhs.uk
• Ewch i’n gwefan: www.bihyweldda.wales.nhs.uk/iechydmeddwl
• Ysgrifennwch at: FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD
• Ffoniwch: 01554 899 056 (gadewch neges i ni)
Mae’n bwysig nodi – o ganlyniad i’n sgyrsiau parhaus â’r cyhoedd ar ‘Trawsnewid Iechyd Meddwl’ – y gall rhai o’r dogfennau technegol ac ategol gael eu diweddaru er mwyn darparu eglurder neu fanylder pellach lle bo angen. Rydym yn gofyn i bobl i sicrhau eu bod yn edrych ar y fersiynau diweddaraf o’r deunydd hyn.
Os oes unrhyw un sydd eisoes wedi cyflwyno’u sylwadau neu holiadur yn teimlo y gallai unrhyw newid o’r fath effeithio eu cyflwyniad, dylent ail-gyflwyno’u sylwadau erbyn y dyddiad cau (15 Medi).
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle