Three weeks left to have your say as Transforming Clinical Services engagement period reaches halfway point / Tair wythnos ar ôl i ddweud eich dweud wrth i’r ymgysylltu ar Drawsnewid Gwasanaethau Clinigol gyrraedd hanner ffordd

0
788

Local residents across Ceredigion, Carmarthenshire and Pembrokeshire have been getting involved and having their say about how they would like to see their health services change in the future.
‘Transforming Clinical Services’ is a clinically-led public engagement exercise which gives people the chance to have their say on how they would like services to improve across the three counties, in particular planned care, urgent and emergency care, and out of hospital care.
As the exercise passed its halfway point, the health board has heard from local communities, service users, carers and partners to gather their views about how clinical services should change.
Among the recurring themes so far are:
Travelling for care – what type of care would you travel for and how far would you go? Would you travel for surgery if you could have it sooner?
Community and hospital services – What could we provide in one place and what should be separate?
Waiting times – how could we improve these, and would more use of modern technology be a step in the right direction?
Communications – could we be doing it better? How can we improve information on how and when to access specific services?
Discharge – how could we make it easier for you to leave hospital? What would you need to make you feel supported and safe?
Empowerment – what choices do you want to make about your own care? What can we do to help you make these decisions?
Information sharing – how should we handle your medical records? Would it be better if information was shared between different health services?
Carers – Are you a carer who needs more support? What are the reasons for this and how can we help make things better?
Libby Ryan-Davies, Director of Transformation, said: “We’ve now passed the halfway mark in the engagement process around Transforming Clinical Services and I am delighted that people have been taking time to get their voices heard around the big – and the small – clinical issues that really matter to them.
“We’re getting some really thought-provoking feedback and we have been listening to what people, including our own staff, have to say through a number of ways, such as events, meetings and online.
“There are still three weeks left of the engagement period however so we really want to hear from as many people as possible before the consultation closes on 15 September.”
Dr Phil Kloer, Medical Director and Director of Clinical Services Strategy, added: “At the heart of Transforming Clinical Services is one question: ‘How can we design services to meet the future healthcare needs of our local population, and help drive population health improvement in Mid and West Wales.’ We face a range of challenges and recognise that currently services are not as good as we would want them to be. We feel strongly that our residents deserve the best possible care and support to lead healthier lives.”
“We don’t want to assume we know best; we want to listen to our staff, patients and the public to understand what future improvements they want to see and then work together to achieve these over the next few years. This engagement exercise is the first step – we have not made any decisions, we want to hear everyone’s ideas, and to do this we have produced an “issues paper” for people to read and consider as well as a questionnaire to share their feedback. We are also running a series of online sessions to find out what people think.”
For more information about Transforming Clinical Services, including key documents and an online survey, visit http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/page/92263
———————————————————————————-
Mae trigolion lleol ar draws Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro wedi bod yn cymryd rhan a dweud eu dweud ar sut y maen nhw am weld eu gwasanaeth au iechyd yn newid yn y dyfodol.
Mae ‘Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol’ yn ymarfer ymgysylltu cyhoeddus dan arweiniad clinigol sy’n rhoi cyfle i bobl leisio’u barn ar sut maen nhw am i wasanaethau wella ar draws y tair sir, a hynny’n arbennig mewn gofal wedi’i gynllunio, gofal brys ac argyfyngol a gofal tu allan i ysbyty.
Wrth i’r ymarfer basio hanner ffordd, mae’r bwrdd iechyd wedi clywed wrth gymunedau lleol, defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a phartneriaid i gasglu eu barn ar sut y dylai gwasanaethau clinigol newid.
Ymhlith y themâu poblogaidd hyd yn hyn mae:
Teithio i gael gofal – Pa fath o ofal y byddech yn fodlon teithio amdano, a pha mor bell y byddech yn fodlon teithio? A fyddech chi’n teithio am lawdriniaeth petai hynny’n meddwl ei gael yn gynt?
Gwasanaethau ysbyty a chymunedol – Beth allwn ni ei ddarparu mewn un lle, a beth ddylai fod arwahân?
Amseroedd aros – Sut allwn ni eu gwella, ac a fyddai mwy o ddefnydd o dechnoleg fodern fod yn gam i’r cyfeiriad cywir?
Cyfathrebu – Sut allwn ni wneud yn well? Sut allwn ni wella gwybodaeth ar sut a ble i gael mynediad at wasanaethau penodol?
Rhyddhau – Sut allwn ni ei gwneud yn haws i chi i adael ysbyty? Beth fyddai ei angen arnoch i’ch gwneud i deimlo’n ddiogel ac wedi eich cefnogi?
Grymuso – Pa ddewisiadau ydych chi am wneud am eich gofal eich hun? Beth allwn ni wneud i’ch helpu i wneud y penderfyniadau hyn?
Rhannu gwybodaeth – Sut ddylem ni drin eich cofnodion meddygol? A fyddai’n well petai gwybodaeth yn cael ei rannu rhwng gwahanol wasanaethau iechyd?
Gofalwyr – A ydych chi’n ofalwr sydd angen mwy o gefnogaeth? Beth yw’r rhesymau dros hyn a sut allwn ni helpu i wneud pethau’n well?
Dywed Libby Ryan-Davies, Cyfarwyddwr Trawsnewid: “Rydym bellach wedi pasio’r marc hanner ffordd yn y broses ymgysylltu ar Drawsnewid Gwasanaethau Clinigol ac rwyf wrth fy modd fod pobl wedi bod yn rhoi o’u hamser i ddweud eu dweud ar y materion clinigol mawr a bach sydd o bwys iddynt.
“Rydym yn cael rhywfaint o adborth ysgogol iawn a wedi bod yn gwrando ar farn pobl, yn cynnwys ein staff ein hun, mewn nifer o ffyrdd megis mewn digwyddiadau, cyfarfodydd ac ar-lein.
“Fodd bynnag, mae dal tair wythnos o’r cyfnod ymgysylltu yn weddill felly rydym am glywed wrth gynifer o bobl â phosibl cyn i’r ymgynghoriad gau ar 15 Medi.”
Dywedodd Dr Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol a Chyfarwyddwr Strategaeth Gwasanaethau Clinigol: “Wrth wraidd Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol mae un cwestiwn: ‘Sut allwn ni gynllunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion gofal iechyd ein poblogaeth leol i’r dyfodol, a helpu i hybu gwella iechyd y boblogaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.’ Rydym yn wynebu ystod o heriau ac yn cydnabod nad yw gwasanaethau ar hyn o bryd cystal ag y byddem am iddynt fod. Teimlwn yn gryf fod ein trigolion yn haeddu’r gofal a’r gefnogaeth gorau posibl i fyw bywydau iachach.”
“Nid ydym am gymryd yn ganiataol ein body n gwybod orau; rydym am glywed yr hyn sydd gan ein staff, cleifion a’r cyhoedd i’w ddweud, deall pa welliannau maen nhw am weld yn y dyfodol ac yna cyd-weithio i gyflawni’r rhain dros y blynyddoedd nesaf. Yr ymarfer ymgysylltu hwn yw’r cam cyntaf – nid ydym wedi gwneud unrhyw benderfyniadau, rydym am glywed synladau pawb, ac er mwyn gwneud hyn rydym wedi cynhyrchu “papur materion” i bobl ei ddarllen a’i ystyried yn ogystal â holiadur er mwyn i bobl rannu adborth. Rydym hefyd yn cynnal cyfres o sesiynau ar lein er mwyn canfod barn pobl.”
Am fwy o wybodaeth ar Drawsnewid Gwasanaethau Clinigol, yn cynnwys dogfennau allweddol ac arolwg ar-lein, ewch i http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/tudalen/92264


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle