Loading… Digital skills at Carmarthenshire Libraries/Llwytho… Sgiliau digidol yn Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin

0
707
Carmarthenshire Libraries

It’s time to get digital at Carmarthenshire Libraries as part of this year’s International Literacy Day.

Library staff are preparing to upload an array of screen-based activities for the day, themed this year as ‘Literacy in a Digital World’, on Friday September 8.

As well as books, Carmarthenshire Libraries offer a range of free online e-books, audio books and an online news stand offering interactive digital magazines and a library of over 19,000 free downloadable comic books.

Library members can also practice for a driving theory test, learn a new language, get up to speed on computer software with online tutorials, have access to online academic journals, search through hundreds of encyclopaedias as well as over 200,000 images and audio files, and nearly 200 videos.

Younger members can choose from over 500 interactive stories and activities for children.

Cllr Peter Hughes Griffiths, Carmarthenshire County Council’s executive board member for culture, sport and tourism, said: “In today’s digital age many of us do our reading online, so it is fantastic for you to be able to expand your knowledge or relax with our digital materials, and all for free, at our libraries.

“Of course, our libraries have over half a million books on offer so if it’s the smell or feel of a real book you enjoy then you won’t be short of options.

“Don’t miss out on this exciting opportunity to speak to local authors and enjoy the numerous resources that are held throughout Carmarthenshire Libraries.”

 

·         Visit Carmarthenshire Libraries in person at Ammanford, Carmarthen, Llanelli; use the newly launched mobile library service in outlying communities, or go online to discover a wide range of resources by searching for ‘libraries’ at www.carmarthenshire.gov.wales

 Llwytho… Sgiliau digidol yn Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin

 

Mae’n amser defnyddio eich sgiliau digidol yn Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol Llythrennedd eleni.

Mae staff y llyfrgelloedd yn paratoi i lanlwytho amrywiaeth o weithgareddau ar y sgrin ar gyfer y diwrnod, gan mai’r thema eleni yw ‘Llythrennedd mewn Byd Digidol’, ddydd Gwener 8 Medi.

Yn ogystal â llyfrau, mae Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin yn cynnig amrywiaeth o e-lyfrau ar-lein am ddim, llyfrau sain a stondin newyddion ar-lein sy’n cynnig cylchgronau digidol rhyngweithiol a llyfrgell o dros 19,000 o lyfrau comics y gellir eu lawrlwytho am ddim.

Hefyd, gall aelodau’r llyfrgelloedd ymarfer ar gyfer prawf gyrru theori, dysgu iaith newydd, dysgu rhagor am feddalwedd gyfrifiadurol gyda sesiynau tiwtorial ar-lein, cael mynediad i gyhoeddiadau academaidd ar-lein, chwilota drwy gannoedd o wyddoniaduron ynghyd â thros 200,000 o ddelweddau a ffeiliau sain, a bron i 200 o fideos.

Gall aelodau iau ddewis o blith mwy na 500 o storïau a gweithgareddau rhyngweithiol i blant.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr aelod o fwrdd gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros ddiwylliant, chwaraeon a thwristiaeth: “Yn yr oes ddigidol hon, mae llawer ohonom yn darllen ar-lein, felly mae’n wych eich bod yn gallu ehangu eich gwybodaeth neu ymlacio gyda’n deunyddiau digidol, yn rhad ac am ddim, yn ein llyfrgelloedd.

“Wrth gwrs, mae mwy na hanner miliwn o lyfrau ar gael yn ein llyfrgelloedd, felly os ydych yn mwynhau dal llyfr yng nghledrau eich dwylo a’i arogli, bydd digonedd o ddewis gennych.

“Peidiwch â cholli’r cyfle cyffrous hwn i siarad ag awduron lleol a mwynhau’r adnoddau niferus a gedwir yn Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin.”

 

·         Ewch i Lyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin eich hun yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli; defnyddiwch y gwasanaeth llyfrgelloedd teithiol sydd newydd ei lansio mewn cymunedau diarffordd, neu ewch ar-lein i ddarganfod amrywiaeth eang o adnoddau drwy chwilio am ‘llyfrgelloedd’ ar y wefan, www.sirgar.llyw.cymru


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle