Ail-gysylltu â’r Gymraeg
Wrth i’r plant ddychwelyd i’r ysgol mae oedolion yn cael y cyfle i ddychwelyd i ddysgu hefyd.
Mae dosbarthiadau Cymraeg dydd a nos yn cychwyn n’ôl yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 25 Medi ac maent yn cael eu cynnal ledled y sir.
Gall pobl sy’n ansicr o’u gallu ymuno â Chwrs Blasu cyn cofrestru ar gwrs Mynediad. Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r hanfodion iddyn nhw, ynghyd â’r hyder i ymuno â chwrs prif ffrwd yn y gymuned.
Cynhelir Cwrs Cicio’r Cof ar gyfer dysgwyr sydd eisoes yn mynychu gwersi Cymraeg ond a fyddai’n hoffi adolygu ychydig cyn dychwelyd i’r dosbarthiadau.
Bydd y cyrsiau undydd hyn yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Addysg Gymunedol Llandeilo rhwng 9.30am-4pm ar 15 Medi a’r pris fydd £6 am y dydd.
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, aelod o’r bwrdd gweithredol dros addysg, “Rwy’n annog pobl i gymryd mantais o’r cyfle hwn i ddysgu Cymraeg neu i wella eu Cymraeg.”
I gofrestru ar Gwrs Blasu, Cwrs Cicio’r Cof neu ar gwrs Cymraeg yn y gymuned ewch i wefan dysgucymraeg.cymru. Hefyd, mae croeso i chi ffonio 01267 246862 am ragor o fanylion.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle