Council catches up with litter louts | Mae’r Cyngor yn dal y rhai sy’n taflu sbwriel

0
3404

Council catches up with litter louts

PEOPLE who fly-tip and throw rubbish in Carmarthenshire communities are feeling the full force of the law as council enforcement teams get tough on litter louts.

In the first six months of 2017, Carmarthenshire County Council issued 114 Fixed Penalty Notices (FPNs) and prosecuted 18 times for a range of offences from littering, dog fouling and fly-tipping to abandoned vehicles, waste carrier offences and fly-posting.

During July alone, the council issued 26 FPNs for fly-tipping at community recycling banks – designated areas where people can recycle household waste – which have become a hotspot for fly-tipping in recent months.

At just one of the problematic recycling banks in Dafen, Llanelli, 11 FPNs had to be issued where persistent offending was caught on CCTV.

Surveillance at recycling banks has now been prioritised as officers try to tackle the problem.

The council is reminding residents that any waste left alongside or placed on the ground at recycling banks is an offence.

They urge people to ensure all waste is disposed of in the correct manner, using the correct containers provided.

Cllr Philip Hughes, executive board member responsible for enforcement, said: “Carmarthenshire is a beautiful county and we want to keep it clean and tidy for residents and our increasing number of tourists. It is completely unacceptable that people think it’s okay to dump their rubbish in our beauty spots and at community recycling sites expecting someone else to clean it up for them.

“We all have our part to play in keeping Carmarthenshire clean – reduce waste, recycle well, use facilities properly and report people who flout the law. Together we can make a difference.”

If you have spotted someone littering, fly-tipping or abandoning waste report it 24/7 at Carmarthenshire.gov.wales (recycling, bins and litter section) or call 01267 234567 during office hours.

If your local bring recycling bank is full email CEContactCentre@carmarthenshire.gov.uk or call us on 01267 234567

Mae’r Cyngor yn dal y rhai sy’n taflu sbwriel

 

MAE pobl sy’n tipio’n anghyfreithlon ac yn taflu sbwriel yng nghymunedau Sir Gaerfyrddin yn teimlo holl rym y gyfraith wrth i dimoedd gorfodi’r Cyngor gymryd camau llym yn erbyn y rhai sy’n gollwng sbwriel.

Yn ystod chwe mis cyntaf 2017, cyflwynodd Cyngor Sir Caerfyrddin 114 o Hysbysiadau Cosb Benodedig gan erlyn 18 gwaith am amrywiaeth o droseddau, o ollwng sbwriel, gadael baw cĹľn a thipio anghyfreithlon, i gerbydau’n cael eu gadael, troseddau yn ymwneud â chludyddion gwastraff a gosod posteri’n anghyfreithlon.

Ym mis Gorffennaf yn unig, cyhoeddodd y Cyngor 26 o Hysbysiadau Cosb Benodedig am dipio anghyfreithlon mewn banciau ailgylchu cymunedol – sef mannau pwrpasol lle gellir ailgylchu gwastraff y cartref – sydd wedi dod yn fannau nodedig ar gyfer tipio anghyfreithlon yn y misoedd diwethaf.

Mewn un o’r banciau ailgylchu lle mae problemau wedi codi yn Nafen, Llanelli, cafodd 11 Hysbysiad Cosb Benodedig eu rhoi lle’r oedd troseddu parhaus wedi cael ei nodi ar deledu cylch cyfyng.

Bellach, mae systemau gwyliadwriaeth yn y banciau ailgylchu wedi cael eu blaenoriaethu wrth i swyddogion geisio mynd i’r afael â’r broblem.

Mae’r Cyngor yn atgoffa trigolion bod unrhyw wastraff sy’n cael ei adael ger y banciau ailgylchu neu ar dir y banciau ailgylchu yn drosedd.

Anogir pobl i sicrhau bod pob darn o sbwriel yn cael ei daflu yn y modd cywir, gan ddefnyddio’r cynhwysyddion cywir a ddarperir.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol sy’n gyfrifol am Orfodaeth: “Mae Sir Gaerfyrddin yn sir brydferth iawn ac rydym am ei chadw’n lân ac yn daclus ar gyfer ein trigolion a’r nifer cynyddol o dwristiaid sy’n ymweld â ni. Mae’n gwbl annerbyniol bod pobl yn meddwl ei fod yn iawn i adael eu sbwriel yn ein mannau hardd ac mewn safleoedd ailgylchu cymunedol gan ddisgwyl i rywun arall lanhau ar eu hĂ´l.

“Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth gadw Sir Gaerfyrddin yn lân – lleihau gwastraff, ailgylchu’n dda, defnyddio cyfleusterau’n gywir ac adrodd am bobl nad ydynt yn dilyn y gyfraith. Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth.”

Os ydych wedi sylwi ar rywun yn taflu sbwriel, yn tipio’n anghyfreithlon neu’n gadael gwastraff, rhowch wybod i ni 24/7 yn sirgar.llyw.cymru (yr adran ailgylchu, biniau a sbwriel) neu ffoniwch 01267 234567 yn ystod oriau swyddfa

Os yw eich banc ailgylchu lleol yn llawn, ebostiwch canolfangyswyllt@sirgar.gov.uk neu galwch 01267 234567


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle