Linking up for Veterans/Creu cysylltiadau i Gyn-filwyr

0
3089
The Hub in Llanelli

Linking up for Veterans

Armed Forces Veterans can find opportunities for work, training, education or volunteering at a meeting in Llanelli this Thursday.

The Joined-Up Linking project, run via Links in Llanelli will be holding a veterans event between 1-4pm at The Hub in Stepney St next door to Boots.

The event will host a number of services, projects and organisations that provide support to ex service personnel and their families. Organisations due to attend include Workways +, DWP, Coleg Sir Gar, Urban Car Spa, Poppy Factory and Volunteering for Health.

Carmarthenshire County Council’s Armed Forces Champion Cllr David Jenkins said: “I would encourage any veterans who want to find opportunities to go into work, training, education and volunteering to attend. If you’re a veteran and want to get busy, come along!”

The Hub offers an advice and guidance service in finding employment, training, education and volunteering opportunities across the county. Customers can also access the council’s Carmarthenshire County Council’s Customer Service Centre.

For more information call Links on 01554 757957 or The Hub on 0800 9173408.

 Creu cysylltiadau i Gyn-filwyr

Gall cyn-filwyr y Lluoedd Arfog ddod o hyd i gyfleoedd gwaith, hyfforddiant, addysg neu wirfoddoli mewn cyfarfod yn Llanelli ddydd Iau.

Bydd y prosiect, Joined-Up Linking, a gynhelir drwy Links yn Llanelli, yn cynnal digwyddiad i gyn-filwyr rhwng 1 a 4pm yn yr Hwb, Stryd Stepney, sydd drws nesaf i Boots.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys nifer o wasanaethau, prosiectau a sefydliadau sy’n darparu cymorth i gyn-aelodau o’r Lluoedd a’u teuluoedd. Ymhlith y sefydliadau a fydd yn bresennol y mae Gweithffyrdd +, Yr Adran Gwaith a Phensiynau, Coleg Sir Gâr, Urban Car Spa, Poppy Factory a Gwirfoddoli dros Iechyd.

Dywedodd y Cynghorydd David Jenkins, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog yng Nghyngor Sir Caerfyrddin: “Byddwn yn annog unrhyw gyn-filwyr sydd eisiau dod o hyd i gyfleoedd i fynd i fyd gwaith, hyfforddiant, addysg a gwirfoddoli i ddod i’r digwyddiad. Os ydych yn gyn-filwr a’ch bod eisiau bwrw ati, dewch!”

Mae’r Hwb yn cynnig gwasanaeth cyngor ac arweiniad er mwyn dod o hyd i gyfleoedd gwaith, hyfforddiant, addysg a gwirfoddoli ledled y sir. Hefyd, gall cwsmeriaid gysylltu â Chanolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor Sir Caerfyrddin.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Links drwy ffonio 01554 757957 neu’r Hwb drwy ffonio 0800 9173408.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle