Ymgynghori’n parhau ar gyfer adeilad ysgol newydd | Consultation for new school building continues

0
893

Ymgynghori’n parhau ar gyfer adeilad ysgol newydd

 

Mae’r broses ymgynghori ynglšn â chael adeilad newydd gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer Ysgol Dewi Sant yn parhau.

Gofynnir i bobl roi eu barn ar adeilad arfaethedig gwerth ÂŁ9.1miliwn yn Llanerch i gymryd lle safle presennol Ysgol Dewi Sant ac adeiladau’r ysgol nad ydynt yn cyrraedd safonau Sir Gaerfyrddin.

Byddai adeilad arfaethedig yr ysgol, a fyddai’n fodern ac o’r safon flaenaf, yn darparu ar gyfer y galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg, gyda 420 o leoedd addysg gynradd a 60 o leoedd meithrin ar gael.

Byddai’r ysgol wedi’i hadeiladu dros ddau lawr gydag ystafelloedd dosbarth mwy o faint â chyfleusterau TG integredig, neuadd amlbwrpas a darpariaeth arbenigol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.

Byddai’n darparu nifer o fuddiannau cymunedol hefyd megis y maes parcio oddi ar y safle at ddefnydd yr ysgol a’r gymuned.

Yn amodol ar gael caniatâd cynllunio ar gyfer yr Ysgol Dewi Sant newydd, byddai gwaith cynllunio yn dechrau ar ailddatblygu Ysgol Penygaer, a fyddai’n symud i safle presennol Ysgol Dewi Sant ar Ă´l i’r ysgol honno symud i’w chyfleuster newydd.    

Cynhelir yr ymgynghoriad tan 11 Hydref, a gall pobl gymryd rhan ar-lein neu ymweld â Llyfrgell Llanelli lle mae copïau caled ar gael.

Disgwylir y bydd cais cynllunio ffurfiol yn cael ei gyflwyno yn dilyn y cyfnod ymgynghori o bedair wythnos. Bydd yr adborth o’r ymgynghoriad yn cael ei grynhoi mewn adroddiad ymgynghori cyn cyflwyno cais cynllunio, a fydd yn ffurfio rhan o’r broses.

Byddai’r buddsoddiad mawr hwn yn rhan o Raglen Moderneiddio Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin, a gaiff ei hariannu ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru, drwy ei menter Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Addysg a Gwasanaethau Plant: “Mae’r broses ymgynghori yn hanfodol i helpu i lywio’r broses gwneud penderfyniad ac mae angen i ni gael cynifer o sylwadau â phosibl er mwyn gwneud penderfyniad cytbwys a theg.”

 

 

Consultation for new school building continues

 

CONSULTATION for a new multi-million pound school for Ysgol Dewi Sant is continuing.

People are being asked for their views on a proposed £9.1million build in Llanerch to replace the current Ysgol Dewi Sant site and school buildings which do not meet Carmarthenshire’s standards.

The proposed high specification, modern building for the school would accommodate the increasing demand for Welsh medium education with 420 primary and 60 nursery places available.

facilities, a multi-purpose hall and specialist provision for pupils with additional learning needs.

A number of community benefits will also be provided such as the off-site car park for school and community use.

Subject to planning being approved for the new Ysgol Dewi Sant, design work would begin on the redevelopment of Ysgol Penygaer which would inherit the existing Dewi Sant site, once they have occupied the new facility.

Consultation runs until October 11, people can take part online or visit Llanelli Library where hard copies are available.

A formal planning application is expected to be submitted following the four-week consultation period. Feedback from the consultation will be captured in a pre-planning application consultation report which will form part of the process.

The major investment would be part of Carmarthenshire County Council’s Modernising Education Programme (MEP),jointly funded by the council and the Welsh Government, through its 21st Century Schools initiative.

The council’s executive board member for education and children’s services, Cllr Glynog Davies said: “The consultation process is critical to help inform the decision making process, we need to gather as many views as possible in order to make a balanced, fair judgement.”

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle