New campaign launched to reduce littered chewing gum

0
1174
From left to right:
Representatives from the Rotary Club, Gnoll Primary School, DĹľr-y-Felin Comprehensive, Neath Port Talbot College, Keep Wales Tidy, Councillor Sheila Penry, Assembly Member for Neath, Jeremy Miles, Councillor Mark Protheroe, Councillor Edward Latham, Councillor Alan Lockyer.
O’r chwith i’r dde:
Cynrychiolwyr o’r Clwb Rotari; Ysgol Gynradd y Gnoll; Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin; Coleg Castell-nedd Port Talbot; Cadwch Gymru’n Daclus; y Cynghorydd Sheila Penry; Aelod Cynulliad Castell-nedd, Jeremy Miles; y Cynghorydd Mark Protheroe; y Cynghorydd Edward Latham; y Cynghorydd Alan Lockyer.

With its partners, Neath Port Talbot will launch a new advertising campaign this week with the aim of reducing littered gum in the county borough, by encouraging chewers to ‘Bin it your way’. The brightly coloured adverts and posters will appear in a range of locations across the county borough.

The council has partnered with the Rotary Club of Neath and the Chewing Gum Action Group (CGAG), and brings together representatives from the chewing gum industry, Keep Wales Tidy, Neath Town Council, Neath Inspired and local schools from the county borough.

Cabinet Member for Streetscene and Engineering, Councillor Ted Latham said: “Littered chewing gum is an unnecessary blight on many of our public spaces, not only being unsightly but also costly to remove as it is non-biodegradable and requires specialist equipment to do so. As such Neath Port Talbot Council is pleased to support this campaign which encourages people to dispose of their gum responsibly”.
Funding for the campaign was secured from the Chewing Gum Action Group (CGAG). The CGAG believe that the most effective and sustainable solutions to tackling the chewing gum problem is increased awareness, education and promoting a responsible attitude amongst people who drop chewing gum.

The initiative wants people to dispose of their chewing gum responsibly by binning the chewing gum instead of leaving it on roads and pavements. Dropping gum on the road or pavement is regarded as a form of littering and could land the culprit with a fixed penalty notice.
President of the Neath Rotary Club, Rotarian Victor James said: “We are all singing from the same hymn sheet because we all want the county borough to be vibrant, heathy and clean – free from chewing gum litter and litter in general. We do not want to be ashamed, we want to be proud of where we live. Let us carry the banner of Neath Civic Pride forward. Together, with Neath Port Talbot Council, our partners, and the supportive public, we can achieve our goals”.

Lansio ymgyrch newydd i leihau sbwriel gwm cnoi

Bydd Castell-nedd Port Talbot yn lansio ymgyrch hysbysebu newydd yr wythnos hon gyda’i bartneriaid â’r nod o leihau sbwriel gwm yn y fwrdeistref sirol drwy annog y rheiny sy’n cnoi gwm gyda’r neges ‘I’r bin ag ef’. Bydd yr hysbysebion a’r posteri lliwgar yn ymddangos mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws y fwrdeistref sirol.

Mae’r cyngor wedi ymuno â Chlwb Rotari Castell-nedd a’r GrĹľp Gweithredu Gwm Cnoi (CGAG) ac yn dod â chynrychiolwyr o’r diwydiant gwm cnoi, Cadwch Gymru’n Daclus, Cyngor Castell-nedd, Neath Inspired ac ysgolion lleol o’r fwrdeistref sirol at ei gilydd.

Meddai aelod y Cabinet dros Strydlun a Pheirianneg, y Cyng. Ted Latham, “Mae sbwriel gwm cnoi yn staen diangen ar lawer o’n mannau cyhoeddus, mae’n ddiolwg ond hefyd yn ddrud i gael gwared arno am nad yw’n fioddiraddadwy ac mae angen offer arbenigol er mwyn gwneud hynny. O ganlyniad, mae’n bleser gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot gefnogi’r ymgyrch hon sy’n annog pobl i gael gwared ar eu gwm cnoi mewn modd cyfrifol.”
Sicrhawyd arian ar gyfer yr ymgyrch gan y GrĹľp Gweithredu Gwm Cnoi (CGAG). Mae’r CGAG yn credu bod yr atebion mwyaf effeithiol a chynaliadwy ar gyfer mynd i’r afael â phroblem sbwriel gwm cnoi’n cynnwys ymwybyddiaeth well, addysg a hyrwyddo agwedd gyfrifol ymhlith pobl sy’n taflu gwm cnoi ar y llawr.

Mae’r ymgyrch am i bobl gael gwared ar eu gwm cnoi mewn modd cyfrifol drwy daflu’r gwm cnoi yn hytrach na’i adael ar y ffyrdd a’r palmentydd. Ystyrir taflu gwm cnoi ar y ffordd neu’r palmant fel ffurf o daflu sbwriel a gallai’r tramgwyddwr dderbyn hysbysiad o gosb benodol am wneud hynny.
Meddai’r Rotariad Victor James, Llywydd Clwb Rotari Castell-nedd, “Rydym ni gyd yn cytuno â’n gilydd am y mater hwn oherwydd rydym ni gyd am i’r fwrdeistref sirol fod yn lle bywiog, iach a glân – heb sbwriel gwm cnoi a sbwriel yn gyffredinol. Nid ydym eisiau bod â chywilydd, rydym eisiau bod yn falch o ble rydym yn byw. Gadewch i falchder dinesig Castell-nedd barhau. Gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot, ein partneriaid a’r cyhoedd cefnogol, gallwn gyflawni ein nodau”.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle